EnglishEN

Adroddiad am y Bwlch Cyflog Rhywedd – Ebrill 2025.

Ynglŷn â’r Adroddiad hwn

O fis Ebrill 2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU y gofyniad i bob cwmni sy’n cyflogi mwy na 250 o bobl i adrodd am y bwlch cyflog rhywedd. Mae’r adroddiad hwn a’r ffigurau’n ymwneud â gwybodaeth am gyflogau ar 5 Ebrill 2025.

Mae’n ofynnol i’r gymdeithas adrodd am ddau fesur:

  • Canolrif y gyfradd ‘yr awr’, a gyfrifir trwy osod cyflog pob gweithiwr mewn trefn o’r cyflog uchaf i’r cyflog isaf, a chymryd y cyflog ‘yr awr’ ar gyfer y gweithiwr yn y canol.
  • Cymedr y gyfradd ‘yr awr’, sef y cyflog ‘yr awr’ cyfartalog ar draws y gymdeithas gyfan.

Mae’n bwysig nodi bod y bwlch cyflog rhywedd yn wahanol i’r egwyddor o gyflog cyfartal. Mae dynion a menywod yn Hedyn yn cael cyflog cyfartal am gyflawni gwaith cyfartal. Mae ein methodoleg ar gyfer cyflogau yn defnyddio proses werthuso swyddi gydnabyddedig a chyfradd a feincnodwyd ar gyfer pob rôl, waeth beth fo’u rhywedd.

Amdanom ni

Ffurfiwyd Tai Hedyn Limited (Hedyn) wrth uno Melin a Newport City Homes ar 1 Ebrill 2025. Fel landlord tai cymdeithasol, rydym yn cefnogi preswylwyr a chymunedau sy’n byw mewn dros 15,000 eiddo ar draws de-ddwyrain Cymru

Credwn mewn creu gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol ac yn gytbwys o ran rhywiau er mwyn adlewyrchu’r cwsmeriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn llawn. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn ddeall eu hanghenion yn well ac ymateb iddynt yn well, ond hefyd y gallwn wireddu ein gweledigaeth i helpu i adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda.

Mae amrywiaeth y gweithlu yn caniatáu ffyrdd newydd o weithio o gronfa dalent ehangach, ac mae hyn yn angenrheidiol ac yn beth iawn i ni ei wneud fel cymdeithas dai flaengar sy’n darparu gwasanaethau hanfodol ar draws de-ddwyrain Cymru.

Rydym yn cydnabod ein bod mewn sefyllfa ddylanwadol ac y dylem arwain trwy esiampl i greu diwylliant cynhwysol lle mae cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a lle gallant gyflawni eu potensial llawn.

Ein bwlch cyflog rhywedd

Mae menywod yn ennill £1 am bob £1 y mae dynion yn ei hennill, sy’n golygu bwlch o 0% wrth gymharu canolrif y cyflog ‘yr awr’.

Mae hyn yn cymharu’n gadarnhaol â chanolrif bwlch cyflog y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar gyfer 2024, sef 13.1% ar gyfer y DU ac 8.9% i Gymru.

Mae’r cymedr cyflog ‘yr awr’ i fenywod 4.04% yn uwch na dynion.

Nid oes unrhyw un yn cael bonws, felly mae gennym fwlch bonws rhywedd o 0% o ran y canolrif a’r cymedr.

Mae 43% o’n gweithlu yn fenywod, a 57% yn ddynion. Mae’r graff canlynol yn crynhoi dosbarthiad dynion a menywod mewn chwartelau cyflog:

Array

Casgliad

Rydym yn arwain gydag ymrwymiad cryf i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – gan feithrin diwylliant lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a’i rymuso.

Rydym yn sicrhau cyflog teg a chyfartal i bob cydweithiwr ac yn mynd ati’n weithgar i gael gwared ar rwystrau i ddilyniant, gan greu cyfleoedd i bawb ffynnu. Dim ond trwy gyflawni gweithle tecach a mwy cyfartal y byddwn yn cynrychioli’r cwsmeriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu go iawn ac yn parhau i fod yn gyflogwr y mae pobl yn dewis gweithio gydag ef am flynyddoedd i ddod.

Mae’r canlyniadau hyn yn ein helpu i ddeall y lefelau cydraddoldeb rhywedd ar draws y gymdeithas yn well, ar bwyntiau cyflog gwahanol. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i dargedu meysydd i’w gwella ac i adolygu ein cynnig i gydweithwyr wrth i ni ymdrechu i ddod yn weithlu cwbl gynhwysol ac amrywiol.

Rydym yn falch o’n gwaith hyd yma, a byddwn yn parhau i wella hyd nes na fydd unrhyw rwystrau i atal menywod a dynion rhag ymgymryd ag unrhyw rôl swydd.

Datganiad

Mae’r data sydd yn yr adroddiad hwn yn gywir ac wedi’u cyfrifo yn unol â gofynion Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog Rhywedd) 2017.

Paula Kennedy, Prif Swyddog Gweithredol.

Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd