Ein gweledigaeth yw helpu i greu cymunedau cysylltiedig lle y gall pawb fyw'n dda.
Hedyn.
Ffurfiwyd Hedyn drwy uno Melin a Cartrefi Dinas Casnewydd ar 1 Ebrill 2025. Mae Hedyn yn bodoli er mwyn defnyddio ein cyd-arbenigedd i greu rhywbeth mwy. Ein gweledigaeth yw helpu i greu cymunedau cysylltiedig lle y gall pawb fyw’n dda.
Ein cenhadaeth yw sicrhau bod popeth a wnawn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Rydym am i’n preswylwyr ffynnu, er mwyn gwarantu dyfodol mwy diogel a mwy disglair i ni, ac i’r rhai a fydd yn dod ar ein holau.
Yr hedyn yw’r man cychwyn. Mae’n cynrychioli ein huchelgais i wneud y peth iawn, i sicrhau bod hynny’n digwydd, ac i wneud gwahaniaeth yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Fel landlordiaid tai cymdeithasol, rydym yn cefnogi preswylwyr sy’n byw mewn dros 15,000 o eiddo a chymunedau ledled De-ddwyrain Cymru, sef:
Mae ein tîm gweithredol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o arwain a datblygu Hedyn.
Paula Kennedy yw ein Prif Weithredwr.
Ein cyfarwyddwyr gweithredol yw:
Mae ein bwrdd yn cynnwys 12 o aelodau gweithredol ac anweithredol. Maent yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, gan ddod ag ystod o sgiliau a phrofiad i Hedyn.
Yr aelodau yw:
Mae ein Strategaeth yn nodi ein dyheadau i adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda. Mi fydd yn ein tywys drwy’r blynyddoedd nesaf, felly byddwn yn canolbwyntio’n ddiamheuol ar y weledigaeth hon.
Lawrlwythwch Ein Strategaeth (PDF)
Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.