Dyfarniad
- Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau: Gwyrdd – Mae’r landlord yn bodloni ein gofynion
- Hyfywedd Ariannol: Gwyrdd – Mae’r landlord yn bodloni ein gofynion
Y Broses Ddyfarnu
Cynhaliwyd yr Asesiad Rheoleiddio o Hedyn yn unol â’r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru 2025. Yn ogystal â’r cwmpas safonol (sef llywodraethu, darparu gwasanaethau a hyfywedd ariannol), yn dilyn adolygu hunanwerthusiad, cynllun gwella cydymffurfiaeth (CIP) a dogfennau cysylltiedig yr Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC), adolygwyd amrywiaeth, boddhad tenantiaid a chanlyniadau, rheoli asedau a risg is-gyrff yn fwy manwl.
Yn ogystal ag adolygu dogfennau a ffurflenni rheoleiddio, cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda’r Prif Swyddog Gweithredol, Cadeirydd y Bwrdd, a Chyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp dros Adnoddau. Aethpwyd i gyfarfodydd Buzz Group y tenantiaid, y Bwrdd ynghyd â’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd. Gwnaethom hefyd ystyried gwybodaeth o gyswllt rheoleiddio arferol â’r LCC.
Y Gwelliannau Sydd eu Hangen
Dangosodd yr Asesiad Rheoleiddio fod yn rhaid gwella cydymffurfiaeth â’r safonau rheoleiddio a nodir isod neu fod angen rheoli risgiau sylweddol yn dynn, er mwyn parhau i fodloni ein gofynion:
Safon Reoleiddio
Gwelliant sydd ei Angen neu Risg Sylweddol i’w Reoli’n Dynn
RS1: Mae gan y sefydliad drefniadau arwain a llywodraethu strategol effeithiol sy’n ei alluogi i gyflawni ei ddiben a bodloni ei amcanion
g) Mae’n cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, gofynion rheoleiddio a chanllawiau statudol perthnasol ac yn cyfathrebu’n amserol â’r Rheoleiddiwr, gan gynnwys ynghylch materion perthnasol sy’n ymwneud ag achosion gwirioneddol neu bosibl o ddiffyg cydymffurfio.
Sicrhau bod manylion cydymffurfio â disgrifiadau safonau rheoleiddio cywir yn cael eu cynnwys yn hunanwerthusiad nesaf y Gymdeithas.
Hunanwerthuso – Gofynion a nodir yn Fframwaith Rheoleiddio 2025
Nid oeddem yn gallu dod i’r casgliad bod yr hunanwerthusiad yn bodloni’r holl ofynion a nodir yn Fframwaith Rheoleiddio 2025 yn llawn. Rhaid mynd i’r afael â’r gofyniad a nodir isod yn llawn yn yr hunanwerthusiad nesaf:
2. Datganiad gonest o gydymffurfiaeth/diffyg cydymffurfiaeth â phob un o’r safonau rheoleiddio (a’i chydrannau) a chrynodeb byr yn dangos sut y daethpwyd i’r casgliad. Rhaid i’r datganiad gynnwys dolenni (neu restr o ddogfennau ffynhonnell – rhifau tudalennau) i’r sicrwydd a’r dystiolaeth yn seiliedig ar ganlyniadau y dibynnwyd arnynt wrth i’r Bwrdd gynnal ei asesiad.
Mae Hedyn wedi cyhoeddi ei hunanwerthusiad lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
Hedyn proffil
Mae’r ffigurau fel yr oedd y sefyllfa ar 31 Mawrth 2026, dyddiad y datganiadau ariannol diweddaraf a gyhoeddwyd.
- Nifer yr Unedau – 14,622
- Trosiant Blynyddol – £105.214M
- Sicrwydd Llog – 285%
- Cymhareb Gerio – 38%
- Math o LCC – Trosglwyddiad Gwirfoddol ar Raddfa Fawr (LSVT)
- Lleoliad – De-ddwyrain Cymru
Bwriad dyfarniadau rheoleiddio yw rhoi syniad i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, eu tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill o ba mor dda y maent yn perfformio, ar adeg benodol, mewn perthynas â’r safonau rheoleiddio a osodwyd gan Weinidogion Cymru ar y canlynol:
- Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau
- Hyfywedd Ariannol
Ni ddylai unrhyw barti arall ddibynnu ar ddyfarniadau at unrhyw ddiben arall. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gyfrifol am gyflawnder a chywirdeb yr wybodaeth a roddir i’r Rheoleiddiwr yn eu hunanwerthusiad a’u tystiolaeth ategol.
Y Tîm Rheoleiddio Tai
Llywodraeth Cymru
Swyddfa Merthyr Tudful
Rhydycar
CF48 1UZ
E-bost: housingregulation@llyw.cymru
Lawrlwytho copi o’r dyfarniad (PDF 191kb).
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Os oes angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol arnoch, e-bost hello@hedyn.cymru.