EnglishEN

Byw yn un o gartrefi Hedyn.

Fel un o breswylwyr Hedyn, rydym am wneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn ymgartrefu yn eich cartref newydd.

Mae ci preswylydd yn edrych ar y camera wrth i'w berchennog eistedd yn y cefndir gan ddefnyddio eu dyfais dabled.

Gall symud tŷ fod yn straen, felly rydym yma i’ch helpu os oes angen. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, a’r ffyrdd gorau o gysylltu â ni.

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi ond, os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cwestiynau cyffredin

Cliciwch ar un o'r cwestiynau i ddod o hyd i'r ateb sydd ei angen arnoch chi.

Gallwch gysylltu â ni mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Bydd cydweithiwr o’n Hyb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.

Mae sawl ffordd o dalu eich rhent a thaliadau eraill, felly dewiswch yr opsiwn gorau i chi. Cofiwch, mae eich rhent bob amser yn cael ei dalu ymlaen llaw.

Gallwch dalu:

  • Drwy Ddebyd Uniongyrchol: mae’n hawdd ei ddefnyddio ac mae’n ddiogel – cysylltwch â ni i’w drefnu.
  • Ar-lein: gallwch wneud taliad ar-lein drwy ddefnyddio ein gwasanaeth talu diogel.
  • Dros y ffôn: ffoniwch ni ar 0300 1212 345 i wneud taliad, y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif cyfeirnod eich tenantiaeth.
  • Mewn Swyddfa Bost neu safle PayPoint: Os hoffech dalu drwy’r dull hwn, cysylltwch â ni i gael cod bar talu.
  • Defnyddio Allpay: Gallwch ymweld â’ch Swyddfa Bost leol neu safle PayPoint, chwiliwch am yr arwyddion PayPoint ac Allpay. Gall defnyddwyr cerdyn Allpay gofrestru ar wefan Allpay nawr.
  • Yn bersonol: Gallwch hefyd ymweld ag un o’n swyddfeydd a gwneud taliad. Gweler lleoliadau ac oriau agor ein swyddfeydd am fwy o wybodaeth.

Os ydych yn poeni am dalu eich rhent neu filiau eraill, cysylltwch â ni. Gall ein timau Incwm a Chyngor helpu.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel i chi fyw ynddo, ac rydyn ni yma i’ch helpu i ofalu amdano. Os oes rhywbeth sydd angen ei drwsio, cysylltwch â ni.

Os oes angen gwaith trwsio ar frys, er enghraifft os nad oes gennych gyflenwad dŵr, ffoniwch 0300 1212 345.

Dylech fod yn ymwybodol mai chi sy’n gyfrifol am rai mathau o waith trwsio, fel:

  • Addurno a darparu gorchuddion llawr
  • Rheiliau llenni, estyll, bachau, rheiliau a silffoedd
  • Cynnal a chadw gerddi a siediau (oni bai eu bod yn ardaloedd cymunedol)
  • Lein ddillad, lein ddillad sy’n troi a hors ddillad
  • Tapiau y tu allan
  • Ffenestri wedi torri/gwydr wedi torri
  • Plygiau a ffiwsiau
  • Ailosod eich boeler, gwaedu rheiddiaduron a gosod rheolyddion gwresogi
  • Mesuryddion Nwy a Thrydan
  • Teledu Cylch Cyfyng a chamerâu diogelwch
  • Gosodiadau ystafell ymolchi, fel pennau cawod, seddi toiled a phlygiau sinc

Os oes angen rhywbeth sydd angen ei drwsio, cysylltwch â ni:

  • Anfonwch e-bost atom: hello@hedyn.cymru
  • Anfonwch neges atom drwy Live Chat
  • Ffoniwch ni: 0300 1212 345

Mae eich adborth yn ein helpu i wella ansawdd ein gwasanaethau. Rydym eisiau trin pob preswylydd yn deg, a chreu perthynas yn seiliedig ar ymddiriedaeth gyda chi.

Byddwn yn datrys unrhyw gwynion yn gyflym ac yn effeithiol. Gallwch wneud cwyn drwy:

  • Anfon e-bost i complaints@hedyn.wales
  • Anfon neges atom drwy Live Chat
  • Ymweld â ni yn bersonol (bydd cydweithiwr o Hedyn yn cofnodi manylion eich cwyn ac yn eu trosglwyddo i’n Tîm Cwynion.)

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Byddwn yn anfon ymateb llawn atoch chi o fewn deg diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb, gallwch apelio. Byddwch yn cael ymateb i’ch apêl o fewn 15 diwrnod gwaith.

Rydym yn awyddus i ddatrys cwynion cyn gynted â phosibl. Ond, os na allwn wneud hynny, gallwch fynd â phethau ymhellach drwy gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Am mwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Cwynion.

Mae gan bawb hawl i fwynhau eu cartref mewn heddwch. Rydym yn disgwyl i’n holl drigolion fod yn ystyriol o’u cymdogion a dangos parch tuag atynt.

Weithiau, nid yw hyn yn digwydd. Os ydych yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch gysylltu â ni i gael cyngor neu i roi gwybod i ni am broblem.

Os oes argyfwng a’ch bod chi, neu unrhyw un arall, mewn perygl, ffoniwch 999. Os nad yw’n argyfwng, ond bod angen cyngor ac ymyrraeth gan yr heddlu, ffoniwch 101.

Os ydych am roi gwybod i ni am ymddygiad troseddol, bydd angen tystiolaeth gan yr heddlu arnom er mwyn eich helpu.

Gallwn eich helpu gyda’r mathau yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • Niwsans sŵn (Os oes sŵn o gartref arall, byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn penderfynu a oes angen gweithredu.)
  • Cam-drin Geiriol
  • Ymddygiad Bygythiol
  • Aflonyddu
  • Digwyddiadau/troseddau casineb
  • Cam-drin Domestig
  • Ymddygiad troseddol o gartref preswylydd neu ymddygiad troseddol sy’n effeithio ar y gymdogaeth (gyda thystiolaeth yr Heddlu)

I roi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch â ni:

  • Anfonwch e-bost atom: hello@hedyn.cymru
  • Anfonwch neges atom drwy Live Chat
  • Anfonwch neges atom ar What’s App: 07555 691 234
  • Anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook
  • Ffoniwch ni: 0300 1212 345
Array

Cysylltwch â ni

P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.

Cysylltwch â ni hello@hedyn.cymru 0300 1212 345
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd