Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud unol ag Adran 54(1), Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac mae’n amlinellu’r camau yr ydym wedi’u cymryd yn ystod y flwyddyn ariannol i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd yn ein busnes na’n cadwyni cyflenwi.
Strwythur y sefydliad
Mae Tai Hedyn Limited (“Hedyn” neu “y gymdeithas”) yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) a ddaeth i fodolaeth pan unwyd cartrefi Dinas Casnewydd (CDC) a Chartrefi Melin (CM).
Mae Hedyn yn rheoli tua 15,000 o gartrefi ar draws pum ardal awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru, ac yn gweithio gydag amrywiaeth o gyflenwyr a chontractwyr yn y maes adeiladu, cynnal a chadw a gwasanaethau proffesiynol.
Diwydrwydd Dyladwy
Rydym yn sicrhau bod pob cyflenwr a chontractwr newydd yn destun diwydrwydd dyladwy, yn cynnwys:
- holiaduron cyn-gymhwyso sy’n asesu risgiau caethwasiaeth fodern
- cymalau cytundebol sy’n gofyn am gydymffurfio â’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern
- mynd ati’n barhaus i fonitro ac adolygu cyflenwyr risg uchel
Er mwyn helpu i atal caethwasiaeth a masnachu pobl yn y cartrefi rydyn ni’n berchen arnynt ac yn eu rheoli, rydyn ni’n:
- cynnal asesiad ‘Dod i’ch Adnabod’ gyda phob ymgeisydd newydd i ddilysu’r wybodaeth a ddarperir cyn i ni gynnig llety; ac
- adnewyddu data mewnwelediad yn barhaus ymhob achos o ryngweithio â chwsmeriaid i liniaru’r risgiau perthnasol.
Mae telerau’r contract meddiannaeth rhwng y gymdeithas a deiliaid y contract (preswylwyr) yn caniatáu ymchwiliad llawn i unrhyw achosion posibl o fynd yn groes i feddiannaeth, gan gynnwys defnyddio’r fangre yn anghyfreithlon neu anfoesol, a gweithio gydag asiantaethau sy’n bartneriaid i ddatrys achosion o’r fath.
Camau a gymerwyd
Mae’r gymdeithas eisoes wedi cymryd mesurau i leihau’r risg o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl, ac mae wedi ymrwymo i wella ei harferion ymhellach. Mae polisïau, gweithdrefnau a phrosesau ar waith sy’n adlewyrchu ymrwymiad i weithredu’n foesegol a gydag uniondeb, gan gynnwys:
- Mae’r broses dendro/ gaffael yn ei gwneud yn ofynnol i bob darpar gontractwr/cyflenwr, sydd â throsiant o £36m ac uwch, gadarnhau’n ysgrifenedig eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
- Fel rhan o’r broses gaffael wrth fynd ati i gyflwyno tendr, bydd pob contractwr/cyflenwr, sydd â throsiant o £36m ac uwch, yn sicrhau bod unrhyw isgontractwyr/cyflenwyr sy’n darparu gwasanaethau i’r gymdeithas, yn cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.
- Mae’r polisi gwrth-lwgrwobrwyo wedi ymrwymo i gymhwyso’r safonau uchaf o ymddygiad moesegol ac uniondeb ar draws gweithgareddau’r gymdeithas. Mae pob cydweithiwr ac unigolyn sy’n gweithredu ar ran y gymdeithas yn gyfrifol am gynnal enw da’r gymdeithas ac am gynnal busnes mewn modd onest a phroffesiynol.
- Mae’r polisi chwythu’r chwiban wedi ymrwymo i’r safonau uchaf o ansawdd, tryloywder ac atebolrwydd, a sefydlwyd gweithdrefn ar gyfer pryder ynghylch chwythu’r chwiban yn gyfrinachol a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol gyfredol.
- Mae cydweithwyr yn gweithredu o fewn canllawiau diogelu ac mae unigolion mewn rolau perthnasol yn cael eu hyfforddi i nodi, monitro a chefnogi cwsmeriaid sy’n agored i niwed, gan gysylltu â darparwyr cymorth allanol yn ôl yr angen.
- Mae’r polisi cod ymddygiad yn ymrwymo pob cydweithiwr ac aelod o’r Bwrdd i weithredu ag uniondeb a thryloywder, a thrwy hynny osgoi unrhyw awgrym o ddylanwad gan gymhellion amhriodol.
- Mae’r broses recriwtio yn cynnwys gwiriad gorfodol i sicrhau cymhwysedd i weithio yn
y DU. - Mae telerau ac amodau cyflogaeth yn deg, ac mae’r gymdeithas wedi ymrwymo i hyrwyddo urddas a chydraddoldeb yn y gwaith ac yn y gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid.
- Darperir hyfforddiant perthnasol a chymesur i gydweithwyr i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â diogelu, caethwasiaeth fodern a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Byddwn yn sicrhau bod ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n prosesau yn parhau’n gyfredol i sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol ac yn cydymffurfio â’r camau y mae angen i ni eu cymryd yn erbyn caethwasiaeth fodern a masnachu pobl.
Effeithiolrwydd
Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd y gymdeithas yn ystyried adroddiadau cydymffurfio chwarterol ac yn parhau i adolygu pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r camau a gymerir i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd yn ein busnes na’n cadwyni cyflenwi.
Cymeradwyaeth
Cymeradwywyd y datganiad hwn gan Fwrdd Hedyn ar 23 Gorffennaf 2025 a’i lofnodi gan:
Lynda Sagona – Cadeirydd y Bwrdd
Paula Kennedy – Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp
Llawrlwytho'r datganiad (PDF 223kb)