Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Hedyn.
Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i’w ddeall. Rydym hefyd wedi gosod Bar Offer ReachDeck.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Bydd Bar offer ReachDeck yn eich helpu i ddarllen a chyfieithu’r cynnwys ar ein gwefan. Mae ei nodweddion yn cynnwys:
Cliciwch ar y botwm crwn oren (gydag eicon person) y gallwch ei weld ar yr ochr dde ar waelod y wefan i lansio Bar Offer ReachDeck.
Byddwch yn ei weld yn lansio ar frig eich sgrin. Nawr cliciwch ar yr eicon ‘bys sy’n pwyntio’ ar y bar offer a dal y pwyntydd llygoden dros unrhyw destun ar ein safle i’w glywed yn cael ei ddarllen yn uchel.
Ewch ati i lawr lwytho canllaw defnyddwyr Bar Offer ReachDeck i gael mwy o gyfarwyddiadau neu gallwch wylio’r fideo byr:
Mae eich adborth yn bwysig i ni. Os byddwch yn cael anhawster i ddefnyddio unrhyw ran o’n gwefan, dywedwch wrthym. Gallwch e-bostio communications@hedyn.cymru.
Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras neu Braille, neu os ydych eisiau rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion eraill, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu.
Os oes gennych eich dyfais gynorthwyol eich hun a bod angen cyngor arnoch i’w defnyddio, ewch i gwefan Ability Net i weld eu canllawiau ‘sut i’.
Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.