Tai cymdeithasol
Mae gennym amrywiaeth o gartrefi ar draws pum rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae ein cartrefi yn cynnwys tai un, dwy, tair a phedair ystafell wely, fflatiau a byngalos.
Mae gennym hefyd eiddo sy’n rhan o gynlluniau ar draws y rhanbarth, sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer pobl 55 oed neu hŷn.
Sut i wneud cais
Mae ein holl gartrefi yn cael eu hysbysebu drwy eich cofrestr tai leol a gallwch wneud cais amdanynt drwy’r gofrestr hon.
Mae manylion y gofrestr tai leol ym mhob ardal i’w gweld isod. Pan fyddwch wedi cofrestru ar y rhestr tai byddwch yn gallu gweld y rhestr o eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd a gwneud cais am unrhyw rai y mae gennych ddiddordeb ynddynt sy’n diwallu eich anghenion tai.
- Ar gyfer cartrefi ym Mlaenau Gwent, ewch i wefan Cartrefi Blaenau Gwent, neu ffoniwch 01495 354 600
- Ar gyfer cartrefi yn Sir Fynwy, ewch i wefan Homesearch Sir Fynwy neu ffoniwch 01495 767 199
- Ar gyfer cartrefi yng Nghasnewydd, ewch i wefan Opsiynau Cartref Casnewydd neu ffoniwch 01633 656 656
- Ar gyfer Powys, ewch i wefan Cartrefi ym Mhowys, neu ffoniwch 01597 827 464
- Ar gyfer cartrefi yn Nhorfaen, ewch i wefan Torfaen Homeseeker neu ffoniwch 01495 742 409
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd eich cais yn cael ei ystyried ar gyfer cartref Hedyn.
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltwch â ni hello@hedyn.cymru 0300 1212 345