EnglishEN

Ein Haddewid i Chi.

Array

Fe ddywedoch chi wrthym ba wasanaethau sydd bwysicaf i chi a’r hyn yr ydych chi am i ni ganolbwyntio arnynt i’w gwella.

Ynghyd â Buzz – ein panel cwsmeriaid – fe wnaethom ddefnyddio’r hyn a ddywedoch i wneud yr addewidion hyn i chi.

Bydd ein cartrefi yn ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy

Eich cadw’n ddiogel gartref, a chynnig gwasanaeth atgyweirio dibynadwy am rent fforddiadwy.

  • Diogelwch: Bydd eich cartref yn bodloni’r holl ofynion iechyd a diogelwch.
  • Dweud eich dweud: Bydd gennych lais o ran gosod safonau atgyweirio.
  • Cyfathrebu: Byddwch yn cael gwybod y diweddaraf am statws eich gwaith atgyweirio.
  • Amser: Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch cyrraedd ar amser, a byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn rhedeg yn hwyr.
  • Parch: Bydd eich cartref yn cael ei adael yn ddiogel, yn lân ac yn daclus cyn i ni adael.
  • Effeithlonrwydd ynni: Byddwn yn gwella mesurau effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi ac yn gweithio gyda chi i leihau eich costau ynni.
  • Fforddiadwy: Byddwn yn cadw rhent a chostau gwasanaeth yn fforddiadwy ac yn dryloyw.

Byddwn yn helpu cymunedau lleol i ffynnu

Eich helpu i gadw’n ddiogel ac mewn cysylltiad, fel y gallwch chwarae rhan lawn yn eich cymuned.

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol: Byddwn yn gweithio gyda chi ac asiantaethau eraill i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymdogaeth.
  • Gweladwy: Bydd gennym bresenoldeb cryf yn lleol, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gyda’r gymuned.
  • Twf: Byddwn yn adeiladu cartrefi newydd a chynaliadwy i ateb y galw am dai fforddiadwy.
  • Amgylchedd: Bydd ein cymdogaethau a’n stadau yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda a byddant yn lleoedd deniadol i fyw.
  • Cyswllt: Byddwn yn eich cefnogi i lunio eich cymdogaeth leol.
  • Cynaliadwy: Byddwn yn ystyried effaith ein penderfyniadau ar yr amgylchedd.

Bydd eich llais wrth galon popeth a wnawn

Gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym, i barhau i wella ein gwasanaethau.

  • Deall: Byddwn yn dod i’ch adnabod chi a’r hyn sydd yn bwysig i chi.
  • Hygyrch: Byddwch yn gallu cysylltu â ni yn hawdd, mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Ansawdd: Byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf.
  • Dysgu: Byddwn yn defnyddio’ch adborth i wrando a dysgu er mwyn gwella ein gwasanaethau.
  • Ymgysylltu: Byddwn yn gwneud yn siŵr ei bod yn hawdd i chi rannu eich barn.
  • Gwerth am arian: Byddwn yn rheoli ein prosiectau yn ofalus ac yn adolygu gwasanaethau gyda chi yn rheolaidd.

Byddwn yn eich cefnogi i fyw mewn cartref sy’n bodloni eich anghenion

Helpu i wneud yn siŵr bod eich cartref yn iawn i chi.

  • Tai arbenigol: Byddwn yn buddsoddi mewn tai i bobl ag angen penodol, fel pobl hŷn neu bobl anabl, a hynny mewn partneriaeth ag eraill.
  • Cefnogaeth: Byddwn yn helpu pawb sydd ei angen i reoli eu cartrefi a’u tenantiaeth
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn: Bydd ein gwasanaethau yn cael eu teilwra i fodloni anghenion unigol ein cymunedau amrywiol.
  • Addasadwy: Byddwn yn defnyddio’r cartrefi yr ydym ni yn eu rheoli yn y ffordd orau, gan sicrhau bod ein heiddo yn bodloni anghenion pob aelwyd yn unigol.
  • Ymatebol: Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu gwasanaethau newydd sy’n ymateb i anghenion sy’n newid dros amser.
Amdanom ni
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd