EnglishEN

Gweithio yn Hedyn.

Datblygwch gyda ni!

Array

Darllenwch fwy am ein swyddi diweddaraf a’n cyfleoedd gyrfa.

Yn Hedyn mae gennym uchelgeisiau mawr i ddarparu’r gorau i’n trigolion, i’n cymunedau ac i’n cydweithwyr.

Os oes gennych y sgiliau angenrheidiol i wneud y peth iawn, gwneud i bethau ddigwydd a gwneud gwahaniaeth, ymunwch â’n tîm.

Swyddi gwag presennol

Sut i ddod o hyd i ni ar gyfer eich cyfweliad

Mae gan Hedyn amryw o leoliadau gwaith. Bydd lleoliad eich cyfweliad wedi ei nodi yn eich e-bost sy’n eich gwahodd i’r cyfweliad. Os nad ydych yn siŵr ble mae eich cyfweliad yn cael ei gynnal, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cyfweliad, anfonwch e-bost i recruitment@hedyn.wales a bydd y tîm recriwtio yn hapus i’ch helpu.

Mae mwy o wybodaeth am bob swyddfa cyn eich cyfweliad.

  • Cyfeiriad: Tŷ Nexus, Mission Court, Casnewydd NP20 2DW
  • Parcio: Maes parcio yn Asda, gyferbyn (am ddim am dair awr)
  • Wrth ymyl: Asda, Greggs, a Costa.
  • Hygyrchedd: Mynedfa i’r anabl gyda ramp ar flaen ac ar gefn yr adeilad. Lifftiau i bob llawr.
  • Beth i’w wneud: Ar ôl dod i mewn i’r adeilad bydd angen i chi gofrestru wrth y dderbynfa a gofyn am y rheolwr sy’n cyfweld, fel y nodir ar yr e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.
  • Toiledau: Yn cynnwys rhai hygyrch i’r anabl ar gael ar y llawr hwn.

Dolen i Google Maps.

  • Cyfeiriad: Tŷ’r Felin, Lower Mill Field, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 0XJ
  • Parcio: Maes parcio y tu allan i’r swyddfa
  • Wrth ymyl: Harvester, McDonald’s, Aldi, gorsaf betrol yn cynnwys opsiynau bwyd eraill.
  • Hygyrchedd: Mynedfa i’r anabl ar flaen yr adeilad. Lifft i’r llawr cyntaf.
  • Beth i’w wneud: Ar ôl dod i mewn i’r adeilad bydd angen i chi gofrestru wrth y dderbynfa a gofyn am y rheolwr sy’n cyfweld, fel y nodir ar yr e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.
  • Toiledau: Yn cynnwys rhai hygyrch i’r anabl ar gael ar y llawr hwn.

Dolen i Google Maps.

  • Cyfeiriad: Depô Malpas, Heol Malpas, Casnewydd NP20 5PP
  • Parcio: Y tu allan i’r adeilad
  • Wrth ymyl: Tesco Express, Greggs, Subway, Domino’s a fferyllfa.
  • Hygyrchedd: Mynedfa i’r anabl gyda ramp ar flaen yr adeilad ac ar ochr yr adeilad. Lifft i’r llawr cyntaf.
  • Beth i’w wneud: Ar ôl dod i mewn i’r adeilad bydd angen i chi gofrestru wrth y dderbynfa a gofyn am y rheolwr sy’n cyfweld, fel y nodir ar yr e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.
  • Toiledau: Ar gael ar y llawer cyntaf (dim mynedfa i’r anabl).

Dolen i Google Maps.

Amdanom ni

Ein gweledigaeth yw helpu i greu cymunedau cysylltiedig lle y gall pawb fyw’n dda.

Learn more
Array
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd