Mae’r Gymraeg yn bwysig i ni, a byddwn yn ceisio darparu cynnig iaith rhagweithiol a chynyddu’r cyfleoedd i bobl ymwneud â ni yn Gymraeg.
Byddwn yn cyflawni hyn trwy:
- Gynyddu gwelededd a’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith pan fyddwn yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr ac yn darparu gwasanaethau iddynt.
- Bod yn glir ac yn agored ynglŷn â pha wasanaethau y gallwn eu darparu yn Gymraeg.
- Ystyried y Gymraeg yn y ffordd yr ydym yn cynllunio ein gwasanaethau a’r angen am sgiliau Cymraeg wrth recriwtio aelodau staff newydd.
- Annog a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
- Gwrando ar gwsmeriaid a chydweithwyr er mwyn dod o hyd i ffyrdd o wella ein cynnig a mesur ein cynnydd.
- Bydd ein dull gweithredu yn ystyried y cymunedau amrywiol ac ieithoedd eraill a siaredir yn yr ardaloedd yr ydym yn gweithio ynddynt i sicrhau nad yw ein ffocws ar y Gymraeg yn gwahaniaethu.