EnglishEN

Hysbysiad preifatrwydd.

Mae preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn hynod bwysig i ni.

Wrth gysylltu â ni mae cofnodion sy’n cynnwys peth gwybodaeth bersonol yn cael eu creu. Mae’r rhain yn destun deddfwriaeth GDPR y DU 2020, a Deddf Diogelu Data 2018.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut, a pham, yr ydym yn defnyddio’ch data personol i wneud yn siŵr eich bod yn cael gwybodaeth a bod modd i chi wneud hynny’n hyderus.

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol a dim ond gyda sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw y byddwn yn ei rannu pan fydd hynny’n briodol. Gallwn sicrhau bod eich data yn cael ei gadw’n breifat ac yn ddiogel.

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru i ddangos yr holl ffyrdd yr ydym yn defnyddio’ch data personol.

Trosolwg

Mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol os oes gennych gontract neu denantiaeth, os ydych yn breswylydd neu os ydych yn defnyddio unrhyw rhai o’n gwasanaethau. Mae hefyd yn berthnasol os ydych chi’n clicio ar ein gwefan, e-bostio, rhoi galwad i ni, anfon neges drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu atom, neu ymweld â ni yn bersonol.
Mae’r math o wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu yn dibynnu ar ein hanghenion.

Er enghraifft, os ydych chi’n cysylltu â ni neu’n ymweld â ni, efallai mai dim ond ychydig o wybodaeth byddwn ei hangen amdanoch i ddelio â’ch ymholiad. Os ydych chi’n un o’n preswylwyr, efallai y bydd angen i ni gasglu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch i sicrhau ein bod yn rhoi’r cartref priodol i chi, cydymffurfio â thelerau eich contract gyda ni, cynnig y gwasanaethau cymorth priodol i chi, neu eich cyfeirio atynt, i’ch helpu.

Gall gwybodaeth gynnwys eich manylion cyswllt, gwybodaeth ariannol (yn cynnwys budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn), neu wybodaeth am iechyd meddwl neu gorfforol (yn cynnwys a oes gennych unrhyw anableddau y dylem fod yn gwybod amdanynt). Efallai y bydd angen i ni hefyd gasglu gwybodaeth benodol i fodloni ein rhwymedigaethau statudol.
Rydym yn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn cael ei defnyddio at y diben y cafodd ei chasglu.

Dim ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau i chi, delio â’ch tenantiaeth, neu i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau statudol neu reoliadol eraill y cedwir y wybodaeth. Efallai y bydd angen i ni rannu rhywfaint o wybodaeth gyda thrydydd parti arall. Bydd hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, adrannau budd-daliadau, ein contractwyr atgyweiriadau a chynnal a chadw, gwasanaethau cymdeithasol, landlordiaid cymdeithasol eraill ac adrannau’r llywodraeth yn ôl yr angen, a’r gwasanaethau brys.

Mae gennych chi hawliau amrywiol hefyd, mewn perthynas â’ch data personol, yn cynnwys yr hawl i weld copïau o’r data personol sydd gennym amdanoch chi, neu i gwyno i reolydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Yn syml, dyma sut rydyn ni’n defnyddio’ch data personol. Mae gweddill yr hysbysiad hwn wedi’i rannu’n adrannau i’w gwneud hi’n haws ei ddeall. Yma gallwch weld gwybodaeth fwy manwl am ba ddata personol sydd gennym a beth rydyn ni’n ei wneud ag ef.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr hysbysiad hwn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r adran cysylltu â ni isod.

Ein hysbysiad yn fanwl

Cliciwch ar adnod i weld mwy o wybodaeth am y data personol sydd gennym a sut yr ydym yn ei ddefnyddio.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys ‘data personol’ sef gwybodaeth sy’n adnabod person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Gall hyn olygu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad geni

Mae peth data personol yn cael ei alw’n ddata categori arbennig. Mae hyn yn cynnwys mathau o wybodaeth fel ethnigrwydd, crefydd ac iechyd.

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybodaeth am aelodau’r aelwyd, rydym yn ei chymryd yn ganiataol eu bod yn gwybod yn iawn eich bod chi’n gwneud hynny. Gofynnir am y wybodaeth hon fel rhan o’ch tenantiaeth, ac mae gennym hawl yn ôl y gyfraith i wybod pwy fydd yn byw yn ein cartrefi.

Rydym yn casglu gwybodaeth am blant pan fydd angen, a hynny’n unig. Er enghraifft, rydych yn rhoi gwybodaeth am eich plant am eu bod yn rhan o’ch aelwyd.

Dim ond gyda chaniatâd rhieni neu warcheidwad priodol yr ydym yn casglu gwybodaeth am blant.

Rydym yn casglu eich data personol er mwyn darparu ein gwasanaethau i chi.
Mae gan bob gwasanaeth ei ofynion ei hun. Rydym yn gofyn i chi ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw i chi, a hynny’n unig.

Er enghraifft, mae angen eich gwybodaeth arnom i:

  • Werthuso eich cais am denantiaeth/prydles neu drwydded
  • Llunio tenantiaeth gyda chi
  • Rhoi gwasanaethau sy’n ymwneud â’ch anghenion tai

Hefyd, gallwn gasglu eich gwybodaeth i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Byddwn yn:

  • Gofyn am wybodaeth os oes gennym reswm cyfreithiol dros wneud hynny, a hynny’n unig
  • Gofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom yn unig
  • Cadw gwybodaeth sy’n gywir ac yn gyfredol
  • Cadw gwybodaeth am y cyfnod sydd ei hangen yn unig
  • Sicrhau ein bod yn cymryd camau priodol i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel
  • Sicrhau y bydd yr holl gydweithwyr sydd yn gallu cael hyd i wybodaeth amdanoch, wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu data a diogelwch gwybodaeth

Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw yn cynnwys, ond heb ei chyfyngu i:

  • Enw
  • Cyfeiriad, yn cynnwys hen gyfeiriad a chyfeiriadau anfon ymlaen
  • Gwybodaeth gyswllt yn cynnwys cyfeiriad e-bost
  • Rhyw
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyflogaeth
  • Rhif yswiriant gwladol i gwblhau tasgau fel Credyd Cynhwysol a/neu gontractau i gefnogi pobl
  • Incwm a budd-daliadau’r wladwriaeth
  • Gwybodaeth am eich teulu, ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Statws priodasol
  • Manylion am eich cynrychiolwyr neu berthynas agosaf
  • Recordiadau sain – mewn argyfwng lle mae cydweithiwr mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth
  • Recordio galwadau ffôn
  • Aelodau’r aelwyd

Mae data personol categori arbennig yn wybodaeth sydd angen ei ddiogelu mwy. Mae hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i:

  • Cefndir hiliol neu ethnig
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Gwybodaeth am iechyd
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Euogfarnau neu droseddau

Rydym yn prosesu data personol sy’n sensitif pan fydd angen, ac rydym yn dilyn rheolau llym i ddiogelu eich preifatrwydd. Efallai y byddwn yn prosesu’r wybodaeth hon os:

  • Oes gofyn i ni wneud hynny’n gyfreithiol (ee i ddiogelu pobl agored i niwed)
  • Os yw’n angenrheidiol i ddiogelu bywyd neu ddiogelwch (ee yn ystod argyfwng meddygol)
  • Os yw er budd y cyhoedd (ee i sicrhau mynediad teg i wasanaethau)
  • Os oes ei angen i atal neu ganfod trosedd
  • Os yw’n ofynnol at ddibenion yswiriant
  • Rydych wedi cytuno’n benodol iddo (ee o dan gontract neu gytundeb gyda ni)
  • Mae’n angenrheidiol am resymau cytundebol (ee Contractau comisiynwyr).

Gallwn hefyd ddefnyddio data sensitif i:

  • Fonitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwasanaethau
  • Sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau mewn ffordd deg a phriodol

Rydym yn defnyddio systemau gwyliadwriaeth (a elwir yn CCTV) i helpu i leihau’r ofn neu’r bygythiad o drosedd, i ddiogelu preswylwyr, cydweithwyr a’n ein safleoedd yn cynnwys ein swyddfeydd, ffitiadau, addurniadau ac eiddo.

Bydd delweddau fideo yn cael eu defnyddio i:

  • Cynorthwyo i atal a chanfod troseddau
  • Hwyluso’r dasg o adnabod, arestio ac erlyn troseddwyr mewn perthynas â throsedd
  • Sicrhau diogelwch preswylwyr, cydweithwyr, ymwelwyr ac eiddo
  • Hwyluso mynediad priodol i’r drysau a’r safle
  • Lleihau nifer yr achosion o fandaliaeth a difrod troseddol
  • Gwella’r teimlad o ddiogelwch i breswylwyr, cydweithwyr, ac ymwelwyr

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu

Gall delweddau fideo ddatgelu categorïau arbennig o ddata, neu alluogi ei gasglu fel anabledd neu gyflwr iechyd, tarddiad hiliol neu ethnig yn ogystal â chredoau crefyddol.

Bydd hyn yn dibynnu ar y gwasanaeth; fodd bynnag, fel arfer, chi eich hun fydd y man cychwyn, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan.

Gallwn hefyd dderbyn gwybodaeth gan sefydliadau eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw i ddarparu gwasanaeth. Gall eich awdurdod lleol neu asiantaethau eraill y llywodraeth rhannu gwybodaeth gyda ni.

Gallwn dderbyn gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, er enghraifft landlord blaenorol, cyrff proffesiynol eraill, yr heddlu, darparwyr ynni, y Swyddfa Gartref i gadarnhau eich statws mewnfudo neu atgyweiriadau a wnaed gan gontractwyr.

Mae eich data personol hefyd yn cael ei gasglu os ydych chi’n defnyddio ein ffurflenni ar y we, cyfryngau cymdeithasol a gwe-sgyrsiau.

Lle bo angen rhannu gwybodaeth amdanoch chi, byddwn bob amser yn cydymffurfio â phob agwedd ar Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Isod, mae enghreifftiau o bryd y gall hyn ddigwydd.

Bydd cydweithwyr a rhannau o’n sefydliad sy’n gysylltiedig â chefnogi ein gwasanaethau i chi, yn gallu cael hyd i rywfaint o’ch gwybodaeth a hynny i gyflawni eu rolau. Weithiau rydyn ni’n penodi trydydd parti i weithio i ni, a gall hyn gynnwys prosesu eich data ar ein rhan.

Weithiau mae angen i ni rannu gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi gydag eraill. Gall hyn gynnwys perthnasau agosaf (yn enwedig mewn argyfyngau neu pan fydd angen i ni gynnal archwiliadau diogelwch nwy ar frys ac nad ydym yn gallu trefnu apwyntiad gyda chi), neu gydag unrhyw un sydd wedi cael caniatâd gennych i dderbyn gwybodaeth mewn amgylchiadau penodol, neu i’ch helpu i reoli eich cyfrif gyda ni.

Weithiau, mae’n bosib y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill. Byddwn yn gwneud hynny pan fydd angen rhesymol a phan fydd gennym sail gyfreithiol dan GDPR y DU 2020, ee oherwydd bod angen i ni wneud hynny i gyflawni ein rhwymedigaethau fel landlord yn effeithiol ac yn effeithlon.

Weithiau rydym yn rhannu eich gwybodaeth oherwydd ein bod yn cael ein gorfodi i wneud hynny, er enghraifft, oherwydd bod llys wedi gorchymyn hynny, neu oherwydd bod yn rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Pan fydd hyn yn resymol angenrheidiol ac yn gyfreithlon, gallwn rhannu peth gwybodaeth gyda:

  • Chontractwyr (sy’n atgyweirio, gwneud gwaith er diogelwch, arolygon, archwiliadau, gwaith asesu eiddo a’u gwella, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw ac atgyweiriadau cyffredinol)
  • Darparwyr gwasanaethau TG arbenigol sy’n ein helpu i storio, prosesu a gwneud copi wrth gefn o’n data yn ddiogel
  • Darparwyr systemau diogelwch adeiladau mewn eiddo preswyl
  • Darparwyr gwasanaethau archifo a rheoli data
  • Gwasanaethau cyswllt y tu allan i oriau i breswylwyr
  • Llywodraeth leol (yn cynnwys unedau digartrefedd, gwasanaethau cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac adrannau’r dreth gyngor)
  • Asiantaethau sy’n ymwneud â budd-daliadau a chredydau treth (yn cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r gwasanaeth Pensiynau)
  • Eraill sydd wedi cofrestru i ddarparu tai cymdeithasol neu landlordiaid yng nghyd-destun gwaredu ar stoc neu ei gaffael, gwerthu, cytundeb caffael neu bartneriaeth mewn perthynas â rhywfaint o’i fusnes neu’r busnes cyfan
  • Darparwyr gwasanaethau cymorth rydych chi wedi’u contractio’n uniongyrchol
  • Elusennau ac asiantaethau gwirfoddol (gyda’ch caniatâd bob tro)
  • Gwasanaethau iechyd (yn cynnwys meddygon teulu) gyda’ch caniatâd bob tro, oni bai os yw’n fater o argyfwng sy’n bygwth bywyd)
  • Yr heddlu ac asiantaethau sy’n gorfodi’r gyfraith ee mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddau a amheuir
  • Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a CThEF
  • Gwasanaethau prawf
  • Gwasanaethau brys
  • Unrhyw un yr ydych wedi ei benodi gyda chaniatâd i reoli eich tenantiaeth, neu sydd wedi’i gofrestru’n ffurfiol (gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus) fel eich atwrnai cyfreithlon o dan Atwrneiaeth Arhosol
  • Darparwyr gwasanaeth cartref a gofal
  • Landlordiaid eraill (gyda’ch caniatâd bob tro, pan fydd geirda yn cael ei ddarparu)
  • Cwmnïau cyfleustodau ee pan fyddwch wedi dod â’ch tenantiaeth i ben ond wedi methu â thalu’ch bil
  • Cwmnïau yswiriant
  • Llysoedd a thribiwnlysoedd ee os ydym yn gwneud cais neu’n ei amddiffyn, neu os bydd gorchymyn i ddatgelu i’r llys
  • Y Rheolyddion Tai Cymdeithasol
  • Yr Ombwdsmon Tai
  • Adrannau llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU (e.e. yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net)
  • Archwilwyr
  • Asiantaethau casglu dyledion
  • Asiantaethau gwirio credyd i hwyluso gwiriadau twyll tai cymdeithasol
  • Sefydliadau sy’n cynnal arolygon ac ymchwil
  • Y wasg a’r cyfryngau (gyda’ch caniatâd bob tro)
  • Darparwyr ac ymgynghorwyr gwasanaethau ariannol
  • Gweinyddwyr a benthycwyr morgeisi
  • Cyfreithwyr

Weithiau, y cyfan mae’r sefydliadau trydydd parti hyn yn ei wneud yw gweithio ar ein rhan, ac i wneud hyn, mae angen gwybodaeth bersonol benodol arnynt am breswylwyr. Mewn achosion o’r fath, rydym yn eu penodi i wneud hyn o dan gontractau sy’n cynnwys cymalau prosesu data sy’n diogelu hawliau data ein preswylwyr.

Mae gennym amrywiaeth o fesurau diogelwch technegol a sefydliadol sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu eich data personol ac atal mynediad ato heb ganiatâd er mwyn ei ddefnyddio neu ei ddatgelu.

Er enghraifft, rydym yn cyfyngu ar fynediad i’ch gwybodaeth i’r rhai sydd ei hangen yn unig ac sydd wedi’u hawdurdodi i’w gweld. Pan fyddwn yn rhannu’ch data gyda chontractwyr, cyflenwyr neu bartneriaid, mae gennym gontractau llym ar waith i sicrhau eu bod yn trin eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn ei chadw’n gyfrinachol.

Er mwyn helpu i ddiogelu eich gwybodaeth, byddwn yn gofyn cwestiynau diogelwch i chi, neu unrhyw un sy’n eich cynrychioli. Byddwn yn gwneud hyn i gadarnhau pwy ydych chi pan fyddwch chi’n ein ffonio ni, neu pan fyddwn ni yn eich ffonio chi. Ni fyddwn yn trafod eich gwybodaeth gydag unrhyw un arall oni bai:

  • Bod y gyfraith yn ei wneud yn ofynnol neu’n ei ganiatáu
  • Rydych wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i ni
  • Mae gennych ddirprwy cyfreithiol neu Atwrneiaeth
  • Rydych chi’n rhoi cyfarwyddyd clir ar lafar i ni, unwaith

Hawl i gael gweld

Mae gennych yr hawl i gael mynediad i’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi trwy wneud Cais Mynediad Gwrthrych. Os hoffech wneud hyn, gallwch anfon e-bost atom i’r cyfeiriad canlynol: dpo@hedyn.wales neu gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0300 1212 345, yn ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwn yn cydymffurfio ag ef o fewn un mis calendr. Os na allwn gydymffurfio, neu os oes angen i ni ymestyn y cyfnod hwn am ddau fis arall, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Mewn ambell i achos, mae’n bosib y byddwn yn cyfyngu ar y gallu i’w weld os yw’n ymwneud â hawliau eraill neu os oes rheswm cyfreithlon dros atal manylion penodol. I gael mwy o fanylion ewch i dudalen ‘Cais Gwrthrych am Wybodaeth’, ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Hawl i gael gwybod

Mae gennych yr hawl i gael eich hysbysu am brosesu eich data personol. Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn rydym yn dweud wrthych pwy ydym ni, pam rydyn ni’n casglu eich gwybodaeth, sut yr ydym yn ei defnyddio, gyda phwy y gallwn ei rhannu a pha mor hir yr ydym yn cadw’r wybodaeth. I gael mwy o wybodaeth ewch i  dudalen  ‘Hawl i gael gwybod’ ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl i gywiro

Os yw unrhyw ran o’ch gwybodaeth yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn i ni ei chywiro i sicrhau ei bod yn gywir. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen  ‘Hawl i gywiro’ ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl i ddileu (caiff hefyd ei alw’n ‘hawl i gael eich anghofio’)

Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol. Nid yw hwn yn hawl diamod. Byddwn yn asesu eich cais, ac, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen cadw eich gwybodaeth. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen ‘Hawl i ddileu’ ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl i gyfyngu

Mae’r hawl hon yn rhoi’r gallu i chi gyfyngu ar y ffordd yr ydym yn defnyddio’ch data personol mewn rhai amgylchiadau. Gall ein seiliau cyfreithlon o ran prosesu effeithio ar p’un ai yw’r hawl hon yn berthnasol ac os felly, sut. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen ‘Hawl i gyfyngu’ ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl i drosglwyddo data

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni drosglwyddo’ch data i barti arall o’ch dewis. Mae’r hawl i ludo data yn amodol ar y sail gyfreithlon i’w phrosesu ac mae’n berthnasol fel arfer pan fydd prosesu yn seiliedig ar ganiatâd neu angen cytundebol. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen ‘Hawl i drosglwyddo data’ ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomatig

Ar hyn o bryd nid ydym yn ymgymryd ag unrhyw benderfyniadau awtomataidd gan ddefnyddio technoleg a heb gyfranogiad dynol. Os gwnawn hynny yn y dyfodol i’n helpu i ddarparu gwasanaethau i chi, byddwn yn eich hysbysu o’ch hawl i wrthwynebu. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen ‘Eich hawliau yn ymwneud â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch chi heb unrhyw gynnwys dynol’

Hawl i wrthwynebu

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu sut yr ydym yn prosesu eich data personol. Mae hyn yn golygu y gallwch ein hatal rhag defnyddio eich data personol mewn rhai amgylchiadau penodol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen ‘Hawl i wrthwynebu’ ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hawl i dynnu caniatâd yn ôl

Pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich gwybodaeth, mae gennych yr hawl i newid eich meddwl a thynnu’ch caniatâd yn ôl. Ni fydd tynnu’ch caniatâd yn ôl yn effeithio ar unrhyw brosesu yr ydym wedi’i wneud cyn i chi dynnu’n ôl ond gall gyfyngu ar ein gallu i barhau i ddarparu gwasanaethau penodol ar eich cyfer.

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu’r tai a’r cymorth sydd eu hangen arnoch a chynnal y gwasanaethau hyn yn ystod eich amser preswylydd gyda ni.
Rydym hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth am y rhesymau canlynol:

  • Rheoli ceisiadau gennych chi
  • Rheoli eich tenantiaeth, prydles neu wasanaethau eraill yr ydych wedi eu defnyddio
  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol
  • Bodloni eich anghenion drwy’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig
  • Cynllunio, datblygu a gwella ein cynhyrchion a’n gwasanaethau
  • Atal twyll ac is-osod anghyfreithlon
  • Cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais
  • Atal a chanfod trosedd, datrys anghydfod, hyrwyddo diogelwch a’ch gallu i fwynhau ein cymdogaethau a’n cymunedau mewn tawelwch
  • Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ar i lenwi arolygon boddhad preswylwyr i helpu i fonitro perfformiad a gwella ein gwasanaethau
  • Gellir defnyddio gwybodaeth fel ymchwil, i ddadansoddi a datblygu ystadegau ac efallai y byddwn yn rhannu data gyda chontractwyr trydydd parti i gyflawni gwasanaethau ar ein rhan at y diben hwn
  • Er mwyn deall sut yr ydym yn perfformio, rydym yn recordio galwadau yn rhai o’n meysydd gwasanaeth er mwyn hyfforddi a monitro ansawdd

Mae’r seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer ein gwahanol weithgareddau prosesu yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r gweithgareddau a nodir yn y tabl canlynol:

Diben Sail Gyfreithlon am brosesu
Cais – i asesu a ydych yn gymwys ar gyfer tenantiaeth/prydles, neu wasanaeth arall Cytundeb: perfformiad neu baratoi i gyflawni contract gyda chi.
Ymrwymo i denantiaeth/prydles/trwydded neu gytundeb arall Cytundeb: angenrheidiol i gyflawni contract gyda chi.
Rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion diogelu cydweithwyr, tenantiaid, lesddeiliaid, preswylwyr ac aelodau o’r cyhoedd Cytundeb: perfformio neu baratoi i berfformio contract gyda chi.

Buddiannau cyfreithlon: i’ch diogelu chi a’n staff.

Diogelu Rhwymedigaeth gyfreithiol: i’ch diogelu chi a’n cydweithwyr.

Buddion Hanfodol: i’ch diogelu chi a’n cydweithwyr.

Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cytundeb: angenrheidiol i gyflawni ein contract gyda chi.

Buddiant cyfreithlon: darparu ein gwasanaethau contractio gydag amrywiol ddarparwyr trydydd parti sy’n atgyweirio, cynnal a chadw.

Cymorth / Gwasanaethau’r Gronfa Caledi Caniatâd: eich caniatâd penodol.

Buddiant cyfreithlon: contractio gydag amrywiol sefydliadau trydydd parti er enghraifft, carpedi, cyflenwyr nwyddau gwyn i brynu a dosbarthu nwyddau.

Cynllunio a Rheoli Digwyddiadau Caniatâd: eich caniatâd penodol.

Buddiant cyfreithlon: hyrwyddo ein busnes, ein brand a’n heiddo, cynnyrch a gwasanaethau.

Diogelu Iechyd a Diogelwch Rhwymedigaethau cyfreithiol: diogelu, ac i’r graddau y mae ein gweithgareddau yn mynd y tu hwnt i ofynion llym y gyfraith berthnasol.

Buddiant cyfreithlon: sicrhau diogelwch pob unigolyn sy’n mynychu ein swyddfeydd neu eiddo.

Buddiannau hanfodol: yn anad dim, eich buddiannau chi neu unigolyn arall.

Diogeledd a Diogelwch  Buddiant cyfreithlon: i sicrhau eich diogelwch chi a’n cydweithwyr, gwasanaethau monitro teledu cylch cyfyng, gwasanaethau monitro gweithio’n unigol a gwasanaethau monitro fideo a wisgir ar y corff.
Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol Rhwymedigaeth gyfreithiol: i gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol.

Buddiant cyfreithlon: os ydym yn teimlo bod angen i ni wneud mwy nag sy’n ofynnol o dan ein rhwymedigaethau cyfreithiol.

Rhwymedigaethau busnes cyffredinol Rhwymedigaethau cyfreithiol: i gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol.

Buddiannau cyfreithlon: i weithredu agweddau gweinyddol a thechnegol ein busnes yn effeithlon ac yn effeithiol a chydymffurfio â’r gyfraith a’r rheoliadau perthnasol.

Cysylltiadau Brys i gysylltu â nhw mewn argyfwng Caniatâd: eich caniatâd penodol.

Buddiant cyfreithlon: cysylltu â’r unigolion a benodwyd gennych os bydd digwyddiad difrifol yn effeithio arnoch chi.

Buddiannau hanfodol: yn eithriadol; eich iechyd a’ch diogelwch chi neu unigolyn arall.

Diogelwch y wefan a gwybodaeth Buddiant cyfreithlon: i sicrhau diogelwch ein gwefan(nau) a’r holl wybodaeth sy’n cael ei phrosesu gan y wefan(gwefannau) o’r fath.
Cwcis ar y wefan Caniatâd: eich caniatâd penodol.

Buddiant Cyfreithlon: i deilwra’n well yr hyn rydyn ni’n ei ddarparu ar-lein.

Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein cymunedau; er mwyn tegwch a chydraddoldeb yn ein gwasanaethau Caniatâd: eich caniatâd penodol.

Rhwymedigaethau cyfreithiol: cydymffurfio â’r gyfraith berthnasol.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y diben y gwnaethom ei chasglu, gan gynnwys bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rhoi cyfrif neu adrodd ac yn unol â’n canllawiau cadw a gwaredu.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Diogelu Data ar dpo@Hedyn.wales.

Ni fyddwn yn trosglwyddo nac yn storio eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Deyrnas Unedig oni bai:

  • Bod y wlad yr ydym yn anfon y wybodaeth iddi wedi’i chymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel un sy’n darparu lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth bersonol
  • Mae’r derbynnydd wedi cytuno ar gymalau contractiol safonol gyda ni a chael eu cymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gan orfodi’r derbynnydd i ddiogelu’r wybodaeth bersonol
  • Mae sefyllfa arall yn bodoli lle caniateir y trosglwyddiad o dan ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol

I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn:

Swyddog Diogelu Data
Hedyn
Nexus House
Casnewydd
NP20 2DW

E-bost: dpo@hedyn.cymru

I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i gael eu manylion cyswllt, neu gallwch roi galwad iddynt ar 0303 123 1113.

Os oes gennych bryderon ynglŷn â sut yr ydym yn trin eich data, cysylltwch â ni fel y gallwn fynd i’r afael â nhw. Rydym wedi ymrwymo i gynnal eich hawliau a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon ynglŷn â diogelu data, yn brydlon.

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:

Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd. Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 30/09/2025.

Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd