Cyflwyniad
Diben y Polisi Cwynion, Canmoliaeth ac Ymholiadau yw amlinellu ein ffordd o fynd i’r afael â chanmoliaeth a chwynion sy’n dod i’r amlwg. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag unrhyw gwynion sy’n codi, a hynny mewn ffordd gyflym ac effeithiol, gan ddysgu o unrhyw gamgymeriadau neu lwyddiannau, er mwyn:
- Parhau i wella ansawdd ein gwasanaethau.
- Sicrhau triniaeth deg drwy brosesau clir a strwythuredig.
- Dangos ein hymrwymiad i ddatrys materion mewn ffordd effeithlon.
- Cynnal a meithrin hyder a pherthynas dda.
Cwmpas
Mae’r polisi yn berthnasol i breswylwyr, pobl nad ydynt yn breswylwyr ac eiriolwyr sydd eisiau rhannu canmoliaeth neu sy’n anfodlon â’n gwasanaethau. Mae’n berthnasol i feysydd fel:
- Safonau gwasanaeth neu ansawdd gwaith.
- Agwedd staff neu fynediad at wasanaethau.
- Contractwyr sy’n gweithio ar ein rhan.
- Cyfathrebu.
- Unrhyw fath o wahaniaethu, aflonyddu neu driniaeth annheg.
Nid yw’r polisi hwn yn cwmpasu:
- Cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cwynion sy’n ymwneud â sefydliadau allanol oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd i wneud gwaith ar ein rhan.