EnglishEN

Polisi Gosod Rhenti, Taliadau Gwasanaeth a Fforddiadwyedd.

Mae'r polisi hwn yn nodi dull gweithredu Hedyn wrth osod rhenti a thaliadau gwasanaeth a sicrhau fforddiadwyedd.

Cyflwyniad

Mae Hedyn yn berchen ar fathau gwahanol o gartrefi lle mae’n codi rhent ac yn eu rheoli. Mae hefyd yn codi rhent am adeiladau masnachol a garejys. Ar gyfer rhai o’r cartrefi hyn mae yna daliadau gwasanaeth yn ychwanegol at y rhent.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer lesddeiliaid a rhydd-ddeiliaid syddwedi prynu eu cartrefi ac maent yn talu tâl gwasanaeth amdanynt.

Mae’r polisi hwn yn nodi dull gweithredu Hedyn wrth osod rhenti a thaliadau gwasanaeth a sicrhau fforddiadwyedd. Mae’r polisi yn cydymffurfio â gofynion Polisi Rhenti Cymdeithasol Llywodraeth
Cymru 2026 – 2031.

Y prif fath o eiddo i’w rentu sydd ar gael gan Hedyn yw Tai Rhent Cymdeithasol. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo rhenti cymdeithasol, sy’n sicrhau bod Hedyn yn gallu parhau i uchafu ei chyfraniad at ei chymunedau, a sicrhau bod rhenti’n dal i fod yn deg, yn dryloyw ac yn fforddiadwy ar bob adeg.

Mae cynhyrchu incwm yn ein helpu i ddarparu ein cartrefi a’n safleoedd masnachol, a’u cynnal. Mae’n sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein trigolion, cymunedau, cenedlaethau’r dyfodol a thenantiaid masnachol.

Lawrlwythwch ein Polisi (PDF)
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd