Rydym wedi ymuno â disgyblion Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Milton yng Nghasnewydd i sefydlu grŵp o Helpwyr Hedyn; dysgwyr ifanc sy’n darganfod beth sydd ei angen i adeiladu cymuned o’r gwaelod i fyny.
Mae ein cydweithwyr yma yn Hedyn, wedi ymweld â’r ysgol i gynnal sgyrsiau am safle adfywio Ringland drws nesaf, lle rydym yn adeiladu 170 o gartrefi newydd ac yn adleoli canolfan siopa. Mae’r plant wedi dysgu am y rolau hanfodol sy’n gysylltiedig ag adeiladu cartrefi newydd, ac mae pob disgybl wedi cael swydd sy’n adlewyrchu’r tîm sy’n gweithio ar ein safle i adfywio Ringland, o Reolwyr Prosiect i Drydanwyr a Seiri Coed.
Yn ystod y flwyddyn ysgol, byddant yn parhau i ddysgu am yrfaoedd yn y byd adeiladu, gwaith tîm, a phob math o sgiliau ymarferol, trwy’r cartrefi newydd sy’n cael eu datblygu ar eu stepen drws.
Dilynwch ni ar Facebook neu LinkedIn i weld eu taith wrth iddyn nhw estyn am eu hetiau caled i ymweld â’r safle, cwrdd â’r oedolion sy’n cyfateb iddynt, a’n helpu i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gorau i Ringland.
Diolch i Helpwyr Hedyn. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n plannu’r hadau ar gyfer cymunedau cysylltiedig.
Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Mae ein trigolion gwych yn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Cyfle i wylio’r Dreigiau’n chwarae gyda’n rhodd o 1,000 o docynnau!
Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
