Yn ddiweddar, fe gynhalion ni raffl ar gyfer ein trigolion — gyda hamper moethus yn brif wobr — ac rydyn ni’n falch iawn o rannu ein bod ni wedi llwyddo i godi’r swm anhygoel o £725 ar gyfer ein Helusen ar hyn o bryd, sef Hosbis Dewi Sant. Mae’n wir dweud bod haelioni ein trigolion wir wedi ein syfrdanu!
Fe fu rhai o’n trigolion o Aneurin Bevan Court a Westgate Court ym ymweld â Kris a Beth yn yr Hosbis i ddysgu mwy am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n cefnogi pobl yn ein cymuned. Fe ddaethon nhw â chacen arbennig gyda nhw hefyd i gyhoeddi’r cyfanswm a godwyd, ac fe fuon nhw’n mwynhau paned haeddiannol a darn o gacen i ddathlu.
Cafodd pawb amser gwych, ac allen ni ddim bod yn fwy balch – mae gennym ni’r trigolion gorau yn y byd.
Mae ein drysau wastod ar agor i ymwelwyr – yn enwedig y rheiny sydd wedi codi swm mor anhygoel ac sy’n dod â chacen! Roedd yn hyfryd cwrdd â rhai o drigolion Hedyn a’u tywys o amgylch yr hosbis er mwyn iddyn nhw gael ei gweld. Diolch yn fawr iawn oddi wrth bob un ohonon ni.
Llongyfarchiadau mawr i Pat o Westgate Court, sef enillydd lwcus yr hamper moethus! Roedd hi wrth ei bodd.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Hosbis Dewi Sant, neu archwilio ein cyfleoedd gwirfoddoli, ewch i’w gwefan Gofal Hosbis Dewi Sant. Ac, os oes gennych syniad ar gyfer codi arian ac mae eisiau ein cefnogaeth arnoch, byddem wrth ein bodd i glywed gennych! Gallwch gysylltu â ni trwy:
- E-bostio hello@hedyn.wales
- Ffonio: 0300 1212 345
- Sgwrsio’n fyw trwy ein gwefan




Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Cyfle i wylio’r Dreigiau’n chwarae gyda’n rhodd o 1,000 o docynnau!
Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
Sut rydym yn gosod rhent; buddsoddi mewn cymunedau cysylltiedig
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
