Bob blwyddyn, rydym yn adolygu rhent a thaliadau gwasanaeth i wneud yn siŵr eu bod yn deg ac yn fforddiadwy i bawb. Rydym yn defnyddio ein polisi gosod rhent cymdeithasol, ac rydym yn gwrando ar yr hyn y mae ein cwsmeriaid a’n cymunedau wedi’i ddweud wrthym sy’n bwysicaf iddyn nhw.
Bob blwyddyn, rydym yn gofyn i gwsmeriaid roi adborth i ni ynglŷn â pha mor fforddiadwy yw eu rhent a thaliadau gwasanaeth. Rydym hefyd yn gofyn sut maen nhw’n teimlo am y costau byw eraill fel biliau ynni, a phrynu bwyd. Eleni cawsom dros 1,000 o ymatebion, gyda safbwyntiau pwysig gan bobl ym mhob un o’r pum ardal awdurdod lleol, yn ogystal â’n panel cwsmeriaid ‘Buzz’.
Mae ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos na ddylai cost tai fod yn fwy na thraean o incwm eich aelwyd – i fod yn rhesymol ac yn fforddiadwy.
Felly, rydym yn defnyddio data o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bob blwyddyn i ddeall beth yw’r incwm is cyfartalog ym mhob un o’n cymunedau.
Ac rydym yn gosod ein rhenti ar ddim mwy na 28% o’r incwm is cyfartalog hwn.
Mae ein rhenti yn amrywio yn dibynnu ar faint a math y cartref. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o gartrefi un ystafell wely ag un person yn byw ynddynt, felly mae’r rhent yn seiliedig ar un incwm. Mae cartrefi mwy fel arfer yn gartref i deuluoedd, felly mae’r rhent yn adlewyrchu’r ffaith bod incwm aelwydydd a chostau byw yn tueddu i gynyddu gyda maint y teulu.
Ym mis Ionawr, rydym yn anfon hysbysiad i bawb o’u rhent a’u taliadau ar gyfer y flwyddyn ganlynol, gyda’r tâl newydd yn dechrau o 1 Ebrill ymlaen.
Dywedwch wrthym os ydych chi’n poeni am dalu’r taliadau newydd. Beth bynnag yw eich amgylchiadau, rydym yma i helpu. Mae bob amser yn well siarad â ni na phoeni ar ein pen eich hun.
Sut rydyn ni’n gwario eich rhent
Rydyn ni’n sefydliad nid-er-elw. Mae’r arian rydyn ni’n ei gasglu o rent yn mynd yn ôl i fuddsoddi yn yr hyn sy’n bwysig i chi.
Y llynedd, fe wnaethon ni gynnal 60,931 o atgyweiriadau ac uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewn 688 o gartrefi.
Mae eich rhent yn mynd tuag at wella eich cartrefi a’ch ystadau ac at ddarparu mwy o gefnogaeth a chyfleoedd i bawb.
Fe wnaethon ni hefyd fynd i’r afael â 516 o achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atgyfeirio 690 o breswylwyr at wasanaethau cymorth arbenigol.
Rydym yn llunio ein gwasanaethau yn seiliedig ar yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym mewn arolygon, grwpiau adborth arbennig a thrwy ein paneli cwsmeriaid.
Os oes gennych adborth am eich rhent neu daliadau wasanaeth, neu syniadau ynglŷn â sut i wella ein gwasanaethau, cysylltwch â ni.
Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda.
Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Mae ein trigolion gwych yn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Cyfle i wylio’r Dreigiau’n chwarae gyda’n rhodd o 1,000 o docynnau!
Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
