Aethom ni ati i uno â’n partneriaid MVR Solutions Ltd i gefnogi apêl y banc bwyd yn Ysgol Gyfun St Julians ym mis Hydref.
Pan benderfynodd Mr White, y Pennaeth, estyn allan i’r gymuned am help, roeddem yn falch o ymateb. Mae cael prydau maethlon yn hanfodol ar gyfer llesiant plant a’u gallu i ddysgu. Mae’n fodd o’n hatgoffa sut y gall cymryd camau ar lefel leol wneud gwahaniaeth go iawn.
Rydym yn credu mewn gweithio gyda phartneriaid sy’n rhannu ein huchelgais i greu cymunedau cysylltiedig, sy’n ffynnu, taclo anghydraddoldeb a chreu cyfleoedd.
Rydym yn ddiolchgar i MVR Solutions Ltd am eu cydweithrediad parhaus, ac i Ysgol Gyfun St Julians am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud bob dydd.
Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Mae ein trigolion gwych yn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Cyfle i wylio’r Dreigiau’n chwarae gyda’n rhodd o 1,000 o docynnau!
Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
