EnglishEN

Mae Hedyn yn buddsoddi £37 miliwn mewn i cartrefi yng nghanol dinas Casnewydd

Gan Sarah Ingham Tagiwyd yn: Cymunedau
Mae Hedyn yn buddsoddi £37 miliwn mewn i cartrefi yng nghanol dinas Casnewydd

Mae Hedyn wedi buddsoddi mwy na £37 miliwn yn dod â bywyd yn ôl i adeiladau gwag a rhai oedd yn cael eu tanddefnyddio ar hyd a lled canol dinas Casnewydd, gan greu tua 160 o gartrefi newydd a helpu i drawsnewid calon y ddinas.

Y bennod ddiweddaraf yn adfywiad canol dinas Casnewydd ydy datblygiad Hedyn yn Stow Hill, sy’n creu 36 rhandy newydd a gofod masnachol uwchben hen unedau manwerthu ac sy’n barhad i raglen ehangach o adfywio sydd wedi bod yn newid ffurf Casnewydd yn dawel bach dros y pum mlynedd diwethaf.

Stow Hill yw’r diweddaraf i’w ychwanegu at bortffolio o brosiectau sy’n cynnwys Albany Chambers, Stryd Charles, Stryd y Doc Uchaf, Ynys Griffin a Thŷ Olympia, gyda’r cyfan wedi darparu oddeutu 160 o gartrefi ac wedi denu buddsoddiad o fwy na £37 miliwn.

Gyda chefnogaeth dros £7.5 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd, mae’r datblygiadau wedi bod yn seiliedig ar addasu swyddfeydd gwag, adeiladau masnachol gynt ac adeiladau hanesyddol at ddefnydd gwahanol, gan helpu i fynd i’r afael ag anghenion tai a chefnogi busnesau lleol a dod â rhagor o bobl i mewn i ganol y ddinas.

Dywedodd Peter Crockett, Cyfarwyddwr Twf y Grŵp yn Hedyn:

“Er mwyn cael canol dinasoedd llwyddiannus, mae angen cael pobl i fyw ynddynt. Mae pob adeilad gwag sy’n cael ei ddefnyddio eto yn golygu rhagor o gymdogion, rhagor o bobl yn cerdded heibio, a mwy o fywyd yng nghalon Casnewydd.

“Mae’r datblygiadau hyn yn helpu i greu canol dinas y mae pobl yn dewis ei galw’n gartref.

Drwy roi defnydd newydd i adeiladau gwag, rydyn ni’n helpu i ysgrifennu’r bennod nesaf yn hanes Casnewydd ac yn dangos sut gall adfywio gefnogi busnesau, cryfhau cymunedau a chreu’r cartrefi y mae eu hangen ar bobl.

Peter Crockett

“Mae’r momentwm hwn yn parhau gyda gwaith yn dechrau yn Heol y Ffatri ar gyfer 43 o gartrefi newydd erbyn Gwanwyn 2028, ynghyd â datblygiad swyddfeydd newydd Hedyn ar Stryd y Felin, sy’n gadarnhad pellach o ymrwymiad hirdymor a buddsoddiad Hedyn yng nghanol dinas Casnewydd.”

Mae’r arfer o ddatblygu adeiladau yng nghanol y ddinas nad ydynt yn cael eu defnyddio yn adlewyrchu tuedd sydd ar gynnydd mewn trefi a dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig, gyda phwyslais cynyddol ar ddod â defnydd cynhyrchiol yn ôl i adeiladau gwag.  

Yng Nghasnewydd, mae’r effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r brics a’r mortar. Mae’r buddsoddiad yn creu cyfleoedd i ragor o bobl fyw mewn canolfannau trefol wrth i’r galw barhau i gynyddu ar draws y ddinas. Mae cael rhagor o drigolion yn byw yng nghanol y ddinas yn golygu cael strydoedd mwy bywiog, yn hybu busnesau lleol ac yn creu ymdeimlad cryfach o le drwy’r dydd a gyda’r nos. 

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Gasnewydd Islwyn:

Mae gan Gasnewydd un o’r rhestri aros hiraf yng Nghymru, gyda mwy na 12,456 o aelwydydd yn aros am lety. Fel Hedyn, rwy’n cefnogi mentrau sy’n adfer defnydd adeiladau gwag ac yn creu mwy o gartrefi fforddiadwy. 

“Dyna pam rwy’n falch bod llywodraeth Plaid Cymru wedi cyflwyno cynlluniau i ddatblygu cynllun hawl i brynu cymunedol sydd heb fod ar gael yng Nghymru er iddo gael ei gyflwyno yn Lloegr dros 15 mlynedd yn ôl. 

“Mae’r llywodraeth yn gweithio hefyd ar ddeddfwriaeth i gryfhau’r fframwaith gorfodi a rôl reoleiddio Rhentu Doeth Cymru, yn ogystal â gwneud rhannu data rhentu yn ofynnol, er mwyn gwella fforddiadwyedd tai, gwneud rhent yn decach a chyfyngu ar droi allan heb fai. 

Mae adfywio ein cymunedau a sicrhau y caiff cartrefi diogel eu darparu er lles pawb, a byddaf yn parhau i gefnogi unrhyw fentrau sy’n hyrwyddo hynny.

Peredur Owen Griffiths

Mae poblogaeth Casnewydd wedi tyfu i fwy na 150,000 yn y blynyddoedd diweddar, gyda’i safle rhwng Bryste a Chaerdydd yn ysgogi’r twf, a rhagor o bobl yn symud i mewn ac yn rhoi pwysau ar y farchnad dai. Mae’r ddinas wedi gweld twf arbennig o gryf hefyd ymhlith trigolion ifancach, gyda chynnydd o fwy na 27% yn nifer y bobl rhwng 25 a 34 oed ers y cyfrifiad diwethaf.

Mae datblygiadau Hedyn yng nghanol y ddinas yn cynnwys:

  • Albany Chambers – naw rhandy a gofod masnachol
  • Stryd Charles – 15 rhandy
  • Stryd y Doc Uchaf – 18 rhandy
  • Ynys Griffin – 20 rhandy ac unedau masnachol
  • Tŷ Olympia – 62 rhandy
  • Stow Hill – 36 rhandy a gofod masnachol

Gyda’i gilydd, mae’r cynlluniau cartrefi hyn yn un o’r rhaglenni mwyaf arwyddocaol o ran ailddefnyddio adeiladau yng nghanol y ddinas yng Nghasnewydd yn y blynyddoedd diweddar. Maen nhw’n dangos sut y gall mannau sydd wedi’u hanghofio ddod yn gartrefi unwaith eto a helpu i greu canol dinas sy’n fywiog, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Efallai byddwch hefyd yn hoffi...

Gweld popeth
Newid at ffonau digidol

Newid at ffonau digidol

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Pwysigrwydd atgofion

Pwysigrwydd atgofion

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Trawsnewid safle segur yn gartrefi newydd

Trawsnewid safle segur yn gartrefi newydd

Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd