Gall yr haf fod yn gostus i deuluoedd, rhwng gofal plant, biliau uwch a chostau o ddydd i ddydd. Os ydych chi’n cael trafferth cadw i fyny â’ch rhent a thaliadau hanfodol eraill, cofiwch ein bod ni yma i helpu.
Gall ein tîm Materion Ariannol eich cefnogi i:
- weld a ydych chi’n cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
- rheoli eich arian a gosod cyllideb
- delio â dyled
- help gyda chostau tanwydd ac ynni
- dod o hyd i ffyrdd o roi hwb i’ch incwm
Cysylltwch â ni am sgwrs gyfeillgar, gyfrinachol am eich cyllid. P’un a oes angen cyngor neu gynllun talu arnoch, neu mwy o gymorth ariannol, rydyn ni yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Cysylltwch â ni
- Anfonwch e-bost at y tîm moneyadvice@hedyn.wales
- Sgwrsiwch yn fyw ar ein gwefan
- Anfonwch neges WhatsApp atom ar 07555 691 234
- Anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook
Gwyliau haf ar gyllideb
Edrychwch ar ein hwb cynilo yn ystod yr haf, isod, i gael awgrymiadau a syniadau ar sut i ddiddanu’r plant yn ystod y gwyliau ar gyllideb.
Gweithgareddau am ddim
Gwnewch y mwyaf o’r gweithgareddau hyn sy’n rhad ac am ddim. Os ydych chi eisiau darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, ewch i wefannau eich awdurdod lleol neu dudalennau Facebook lleol i weld rhai o’r atyniadau sy’n rhad ac am ddim.
- parciau ac ardaloedd chwarae lleol
- diwrnodau am ddim mewn amgueddfeydd
- gweithgareddau mewn llyfrgelloedd
- llwybrau natur
- digwyddiadau yn y gymuned
Cadw plant yn brysur
- diwrnodau rhatach (CAP UK)
- tocynnau sinema Vue rhatach
- diwrnod o hwyl gyda’r plant
- gweithgareddau yn ystod y gwyliau gyda’r awdurdod lleol:
Cymorth bwyd ac arian
- prydau gwyliau ysgol am ddim
- bwytai sy’n cynnig disgownt ar brydau neu brydau am ddim i blant
- Harvester – plant yn bwyta am £1
- banciau bwyd a phantri cymunedol
- cymorth costau byw
- Cronfa Cymorth Dewisol
- grantiau gwisg ysgol:
Mwy gwefannau defnyddiol
Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Mae Hedyn yn buddsoddi £37 miliwn mewn i cartrefi yng nghanol dinas Casnewydd
Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
Newid at ffonau digidol
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
