EnglishEN

Contractau diwygiedig wedi’u hanfon at breswylwyr 

Gan Joanne Black Tagiwyd yn: Preswylwyr
Contractau diwygiedig wedi’u hanfon at breswylwyr 

Rydyn ni’n ysgrifennu at breswylwyr ddechrau mis Mehefin 2026 i roi gwybod iddyn nhw am newid yn eu contract tai gyda ni.

Mae’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr wedi’i diwygio i’w gwneud yn anghyfreithlon i landlord drin rhentwyr yn annheg os oes ganddynt blant neu os ydynt yn hawlio budd-daliadau. Roedd y mesur diogelu hwn eisoes ar waith ar gyfer preswylwyr Hedyn, ond mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddiweddaru contractau ein preswylwyr er mwyn adlewyrchu’r newid cyfreithiol hwn.

Mae’r llythyr a’r negeseuon e-bost yn dwyn y teitl “Hysbysiad Amrywio Contract Meddiannaeth”. Does dim angen i’r preswylwyr ateb na gwneud unrhyw beth gyda’r contract diwygiedig hwn, dim ond ei gadw’n ddiogel gyda gweddill eu gwaith papur ynglŷn â’u cartref.

Serch hynny, rydyn ni’n gwybod y gall llythyrau cyfreithiol beri pryder ar adegau. Felly, rydyn ni wedi rhestru rhywfaint o gwestiynau posib ynglŷn â’r llythyr a’u hawliau y gallai’r preswylwyr fod yn awyddus i gael atebion iddynt.

Eich cwestiynau wedi’u hateb

Pam mae Hysbysiad Amrywio Contract Meddiannaeth wedi cael ei anfon ata i?

Mae’r hysbysiad amrywio wedi cael ei anfon oherwydd bod hynny’n ofyniad cyfreithiol ar ôl i’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr (2025) gael ei diwygio.

Oes rhaid i mi lofnodi neu gytuno i’r newidiadau?

Does dim rhaid i chi lofnodi na chytuno i’r newidiadau. Mae’r diweddariad hwn i’ch cytundeb yn ofyniad cyfreithiol a does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth, dim ond cadw’r hysbysiad amrywio’n ddiogel gyda gweddill eich gwaith papur ynglŷn â’ch cartref.

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n deall y newidiadau?

Os nad ydych chi’n deall rhywbeth sydd yn yr hysbysiad amrywio, gallwch chi gysylltu â ni drwy:

Ydy’r hawliau sydd gennyf eisoes yn cael eu dileu neu eu lleihau?

Does dim o’r hawliau sydd gennych eisoes yn cael eu dileu na’u lleihau. Mae’r newid cyfreithiol hwn yn golygu nad oes modd eich trin yn annheg oherwydd bod gennych blant neu eich bod yn hawlio budd-daliadau. Roedd y mesurau diogelu hyn eisoes ar waith gyda Hedyn ar gyfer ein preswylwyr a dyna pham nad oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Pam mae’r contractau’n newid nawr (Mehefin 2026)?

Mae’r hysbysiad amrywio yn cael ei anfon at ein preswylwyr presennol rhwng 01 Mehefin a 14 Mehefin 2026, sef y terfyn amser y mae’r llywodraeth wedi’i osod.

 phwy dylwn i gysylltu os ydw i’n meddwl bod yr hysbysiad amrywio yn anghywir?

Os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth o’i le gyda’r hysbysiad amrywio, gallwch chi gysylltu â ni drwy:

Beth os ydy fy manylion cysylltu yn hen?

Os oes angen i chi ddiweddaru unrhyw beth yn eich manylion cysylltu, cysylltwch â ni drwy:

Oes gan landlord hawl i wrthod rhentu i mi oherwydd bod gennyf blant?

Nac oes, does gan landlord ddim hawl i wrthod rhentu eiddo i chi oherwydd bod gennych blant. Fodd bynnag, gall fod gan landlordiaid reolau o hyd sy’n cyfyngu ar gael plant yn byw mewn rhai llefydd penodol, er enghraifft mewn tai gwarchod neu dai gofal ychwanegol.

Ydy’r rheolau hyn yn berthnasol i bob math o gynlluniau tai?

Mae’r newidiadau’n berthnasol i bob contract meddiannaeth, boed rheiny’n newydd neu’n bodoli eisoes, gyda rhai eithriadau sy’n cynnwys:

  • Petai dilyn y rheol yn groes i bolisi yswiriant y landlord.
  • Os yw’r contract yn “gontract safonol â chymorth”, yna rhaid i’r landlordiaid beidio â rhagfarnu yn erbyn pobl sydd ar fudd-daliadau, ond nid yw’r rheol am blant/rhai dan 18 oed yn berthnasol.

Pam mae cyfyngiadau ar blant mewn rhai tai arbenigol neu 55+?

Mae rhai mathau o eiddo yn cael eu gosod fel tai i bobl sydd dros 55 oed, neu i grŵp penodol o gwsmeriaid. Nid yw’r newidiadau hyn yn newid hynny. Bydd Hedyn yn parhau i osod yr eiddo hynny ar y sail hwnnw, ac yn ystyried amgylchiadau unigol pob ymgeisydd hefyd.

Ydy hyn yn effeithio ar ymwelwyr neu wyrion yn aros draw?

Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch ymwelwyr neu’ch wyrion.

 

Efallai byddwch hefyd yn hoffi...

Gweld popeth

Siopau’n agor yng ngham cyntaf rhaglen adfywio Ringland yng Nghasnewydd

Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
Ein  pencadlys newydd wedi’i leoli yn nghyn-adeilad y Post Brenhinol ar Stryd y Felin.

Hedyn yn sicrhau pencadlys newydd

Tagiwyd yn: Hedyn Darllen mwy
Mae cydweithwyr a thrigolion Hedyn yn sefyll o flaen bys Hedyn.

Mae ein trigolion gwych yn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd