EnglishEN

Hedyn yn sicrhau pencadlys newydd

Gan Joanne Black Tagiwyd yn: Hedyn
Ein  pencadlys newydd wedi’i leoli yn nghyn-adeilad y Post Brenhinol ar Stryd y Felin.

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn dod â’n swyddfeydd yng Nghasnewydd a Phont-y-Pŵl ynghyd mewn un pencadlys modern yng nghanol y ddinas yng Nghasnewydd.

Bydd y pencadlys newydd wedi’i leoli yn nghyn-adeilad y Post Brenhinol ar Stryd y Felin. Yn agos at yr M4 ac yn union y tu ôl i orsaf drenau Casnewydd, mae mewn lleoliad delfrydol i gyrraedd yr holl gymunedau rydyn ni’n darparu cartrefi ynddynt.

Er y bydd ein pencadlys yn dal i fod yng Nghasnewydd – mewn lleoliad newydd – byddwn yn parhau i gryfhau ein presenoldeb yn ardaloedd yr awdurdodau lleol eraill rydyn ni’n eu gwasanaethu, sef:

  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Blaenau Gwent, a
  • Phowys.

Mae’r symudiad yn adlewyrchu ein datblygiad parhaus yn sgil uno Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd yn 2025. Rydym bellach yn sefydliad sydd â 750 o aelodau staff a mwy na 15,000 o eiddo ledled De-ddwyrain Cymru.

Mae caffael cyn-adeilad y Post Brenhinol ar gyfer pencadlys Hedyn yn un o’r datblygiadau swyddfeydd mwyaf arwyddocaol yn ystod y pum mlynedd diwethaf yng Nghymru.

Bydd gwaith i baratoi’r adeilad i’w ddefnyddio yn cychwyn cyn bo hir, ac mae disgwyl y bydd ein cydweithwyr yn symud i mewn erbyn haf 2028.

“Yn Hedyn, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw cartref o ran creu synnwyr o berthyn a diogelwch. Rydyn ni eisiau’r un peth i’n cydweithwyr, a dyna pam rwyf mor falch o gyhoeddi cartref newydd Hedyn.

“Fel sefydliad mwy erbyn hyn, mae’n bwysig ein bod yn cydbwyso ein hymrwymiad i fod yn rhan o’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu â sicrhau bod ein swyddfeydd yn addas at ddibenion ein gweithlu.

“Bydd y symudiad i gyn-adeilad y Post Brenhinol yn helpu rhagor o’n cydweithwyr i weithio ochr yn ochr, gan sicrhau gwasanaeth mwy cyflawn i’n preswylwyr.

“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y gymuned leol ac mae’n destun cyffro ein bod yn rhan o’r adfywiad lleol a ddaw gyda’r cynnydd yn nifer y bobl fydd yn dod yno a’r hwb ddaw i siopau a chaffis yn sgil hynny.”

Paula Kennedy Prif Swyddog Gweithredol Hedyn

Efallai byddwch hefyd yn hoffi...

Gweld popeth
Mae pob ceiniog yn cyfrif – disgowntiau yn ystod gwyliau ysgol a hwb cynilo

Mae pob ceiniog yn cyfrif – disgowntiau yn ystod gwyliau ysgol a hwb cynilo

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Mae Hedyn yn buddsoddi £37 miliwn mewn i cartrefi yng nghanol dinas Casnewydd

Mae Hedyn yn buddsoddi £37 miliwn mewn i cartrefi yng nghanol dinas Casnewydd

Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
Newid at ffonau digidol

Newid at ffonau digidol

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd