Mae’r grŵp pwysigrwydd atgofion/memory matters yn cael ei redeg gan wirfoddolwr, Helen Savarimuthu, ac yn cwrdd yn wythnosol yn Llys Aneurin Bevan yn Dyffryn. Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia, cawsom wahoddiad gan Michelle Nessling, rheolwr y cynllun, i gwrdd â’r preswylwyr a darganfod mwy.
Mae Helen yn ofalwr i’w gŵr sydd â dementia, ac mae’r ddau wedi mynychu’r grŵp gyda phreswylwyr a chymdogion o’r ystâd bob dydd Mawrth.
Cawsom y fraint o siarad â Helen ac aelodau’r grŵp, gan ail-fyw eu bywydau trwy gân, cerddoriaeth a straeon cyffredin, a chyfle i ddawnsio hefyd!
Cyfeirir yn annwyl at ddau o’r preswylwyr fel Twinkle Toes a John Travolta ond nid nhw oedd yr unig rai i arddangos eu dawn am dawnsio.
Mae Helen yn angerddol am y grŵp a’r holl bobl sy’n cyfrannu gymaint ato. Mae hi’n ei redeg gyda chymorth Cyswllt Cymunedol a’r Banc Bwyd. Dywedodd un o’r trigolion wrthym fod y grŵp “yn dod ag ychydig o heulwen ar ddiwrnod gwlyb”.
Mae’r grŵp yn chwarae bingo, yn mwynhau caraoci, gêmau a chwisiau ac maen nhw hyd yn oed wedi dechrau côr! Yr wythnos hon ymunodd Jade Lawrence, Cynghorydd Dementia o’r Gymdeithas Alzheimer, â nhw hefyd. Mae’n ymweld yn aml a bydd yn dychwelyd ym mis Mehefin i gynnal sesiwn Ffrindiau Dementia.
Dywedodd Jean, o bosibl y fenyw 94 oed fwyaf egnïol y gallech chi gwrdd â hi, eu bod nhw i gyd wedi ffurfio cysylltiad cryf a hefyd yn mwynhau teithiau i lefydd fel Cribbs Causeway lle gawson nhw ‘ddiwrnod a hanner o chwerthin’.
Doedd e’ ddim yn benderfyniad hawdd symud yma, ond gyda chymorth fy nheulu a’r staff rydw i wedi gwneud ffrindiau da iawn sydd wir wedi gofalu amdana’ i.
Mae Ruth wedi byd yn y cynllun ers dros chwe blynedd ac roedd ei mam yn byw yno hefyd – dathlodd ei phen-blwydd yn 100 oed yno a byw nes cyrraedd 102 oed!
Dywedodd Ruth ei bod wrth ei bodd yn dod i’r grŵp atgofion: “Dwi i ddim yn colli sesiwn,” meddai gyda’i hewinedd wedi’u paentio’n hardd. “Byddwn i’n gweld eisiau’r gwmnïaeth yn fawr iawn pe na bai’r grwp yma gen i.” Roedd hi wrth ei bodd i ymuno â’r côr hefyd! “Roedd hi’n hyfryd bod Helen wedi dewis fy nghân i ar gyfer ein cân gyntaf. Dewisais ‘You are my sunshine’ oherwydd roedd yn gân roedden ni’n arfer ei chanu amser gwely”.
Ychwanegodd Paul fod y grŵp hwn yn helpu’r rheiny sydd ag Alzheimer’s yn fawr, gan ychwanegu, iddo ef, fod “bod gyda grŵp yn helpu llawer gyda phethau fel iselder hefyd – dydych chi ddim yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun”.
Dim ond ers blwyddyn y mae Mohammed wedi bod yn ABC ond mae wedi dod â’i belydryn ei hun o heulwen, gan arwain y dawnsio a chael ei adnabod fel John Travolta gan y lleill. Dywedodd ei fod yn mynd i’r grŵp atgofion bob tro. “Mae’n hyfryd ac mae pawb yn gyfeillgar iawn!”
Fe wnaethon ni orffen trwy ddysgu (neu geisio dysgu) ychydig o Gymraeg diolch i Marjorie a fagwyd yn y strydoedd o amgylch Pwll Mawr ac yr oedd ei mam yn ei galw’n ‘The Heard’ oherwydd ei chariad at ganu. Dyw hi ddim yn cael unrhyw drafferth o gwbl cofio’r geiriau i’r caneuon Cymraeg yr oedd hi’n arfer eu canu ers pan oedd hi’n 10 oed. Roedd perfformiad y grŵp cyfan o’r Anthem Genedlaethol ar ddiwedd y dydd yn deimladwy dros ben.
Mae atgofion yn bwysig, ond mae pobl yn fwy pwysig ac mae’r grŵp hwn yn grymuso’i aelodau, yn dod ag ymdeimlad amhrisiadwy o gymuned ac yn bwysicaf oll yn taflu goleuni ar bob unigolyn a’u gwerth anhygoel i’r grŵp.
Diolch yn fawr iawn am ein gwahodd a gobeithiwn ymweld â chi eto’n fuan.
Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Newid at ffonau digidol
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Trawsnewid safle segur yn gartrefi newydd
Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
