EnglishEN

Mosaig cymunedol yn dod â bywyd newydd i Barc Moorland yng Nghasnewydd

Gan Megan Hillier Tagiwyd yn: Cymunedau
Mosaig cymunedol yn dod â bywyd newydd i Barc Moorland yng Nghasnewydd

Mae arwydd mosaig sydd wedi torri ym Mharc Moorland, wedi cael bywyd newydd, diolch i greadigrwydd plant lleol a chefnogaeth ein contractwr Hale Group.

Gan weithio gyda Tanio, sefydliad celfyddydau cymunedol Cymreig, aeth disgyblion Ysgol Gynradd Llyswyry ati i gymryd rhan mewn gweithdy wythnos o hyd, i ddylunio mosaig newydd sy’n adlewyrchu ysbryd eu cymdogaeth. Mae llawer o’r plant yn byw yn ardal Moorland ac roeddent yn gyffrous i gyfrannu at brosiect sy’n dathlu eu cymuned.

Mae’r mosaig newydd yn cymryd lle arwydd a oedd wedi dirywio dros y blynyddoedd ar gylchfan ym Mharc Moorland. Daeth dyluniadau’r plant yn fyw, diolch i dîm creadigol Tanio a’r Artist Chris Partridge, ac yna cafodd yr arwydd ei dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig gerbron y disgyblion a’r athrawon, yn ogystal â chynrychiolwyr Grŵp Hedyn a Hale.

Mae’r fenter yn rhan o’n hymrwymiad i fuddsoddi yn y cymunedau o amgylch ein datblygiad, Longmeadow, lle rydym yn adeiladu cartrefi newydd.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall cyllid budd cymunedol wneud gwahaniaeth go iawn yn yr ardaloedd lle rydyn ni’n buddsoddi ac yn adeiladu cartrefi newydd. Nid yw’n fater o wella mannau cyhoeddus yn unig; mae’n rhoi llais i bobl ifanc ac ymdeimlad o falchder yn yr ardal y maen nhw’n byw. Mae’r mosaig yn symbol o greadigrwydd, cydweithredu ac ysbryd cymunedol.

Matthew Davies Cyfarwyddwr Dylunio, Creu Lleoedd ac Ymgysylltu, Hedyn

Mae wedi bod yn gymaint o bleser gweithio gyda’r plant yn Ysgol Gynradd Llyswyry, Hedyn, a Tanio i roi bywyd newydd i’r ardal. Mae’r gwaith celf yn cyfleu creadigrwydd cymuned Moorland.

Dionne Herbert Swyddog Gwerth Cymdeithasol, JG Hale Group

Mae’r mosaig yn tynnu sylw at yr holl bethau sy’n bwysig i’r disgyblion a’u cymuned – mae’n ddarn lliwgar, deinamig iawn ac roedd yn hyfryd eu gweld mor falch o’u gwaith. Mae gweithio mewn partneriaeth â Hale a Hedyn wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd gwahanol sectorau yn dod at ei gilydd.

Lisa Davies Lisa Davies, Prif Weithredwr Tanio

Efallai byddwch hefyd yn hoffi...

Gweld popeth
Newid at ffonau digidol

Newid at ffonau digidol

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Pwysigrwydd atgofion

Pwysigrwydd atgofion

Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy
Trawsnewid safle segur yn gartrefi newydd

Trawsnewid safle segur yn gartrefi newydd

Tagiwyd yn: Cymunedau Darllen mwy
Gan Everglow Preswylwyr presennol

Rydym yn gweithio’n galed i greu gwefan newydd i chi. Os ydych yn breswylydd Cartrefi Melin neu Cartrefi Dinas Casnewydd, dylech barhau i ddefnyddio’r hen wefannau i gael gwybodaeth a gwasanaethau.

Cartrefi Melin Cartrefi Dinas Casnewydd