Mae cam cyntaf ein prosiect i Adfywio Ringland wedi agor yn swyddogol. Dyma garreg filltir arwyddocaol yn y gwaith i drawsnewid cymuned Ringland yng Nghasnewydd.
Daeth partneriaid, cynghorwyr, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, aelodau’r gymuned a chydweithwyr at ei gilydd i ddathlu yng Nghanolfan Siopa newydd Ringland, a chydnabod y 38 cartref newydd a’r 12 uned fasnachol fodern cyntaf.
Yn y pen draw, bydd y rhaglen lawn yn creu 158 o gartrefi newydd mewn pedwar cam, ochr yn ochr â chanolfan siopa fydd yn cael ei hadfywio’n llawn a’i hadleoli.
Darparwyd lluniaeth gan y becws annibynnol lleol Beth’s Bakes, sydd bellach wedi’i leoli yng Nghanolfan Siopa Ringland, ac yn gweini’r lluniaeth oedd gwirfoddolwyr profiad gwaith o Academi Ieuenctid Casnewydd.
Mae’r gwaith adfywio, sy’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth agos â Lovell, Cyngor Dinas Casnewydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, wedi’i gynllunio i greu canolfan leol fwy hygyrch, deniadol a chymunedol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, a chyfrannu at yr angen cynyddol am gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy ledled de-ddwyrain Cymru.
Mae heddiw yn foment falch i Ringland ac yn foment falch i bob un ohonom yn Hedyn. Mae’r cam cyntaf hwn yn fwy o lawer na chartrefi a siopau newydd. Mae’n adlewyrchu lleisiau trigolion lleol, cryfder ein partneriaethau a’n hymrwymiad cyffredin i greu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda. Rydym yn falch iawn o weld y bennod newydd hon yn dechrau ac edrychwn ymlaen at barhau â’r trawsnewidiad gyda’n partneriaid a’r gymuned.
Diolchodd Paula hefyd i blant Ysgol Gynradd Milton, a ymunodd â’r dathliadau trwy gladdu capsiwl amser a darllen cerddi a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Dywedodd Anthony Vagges, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Lovell:
Rydym yn falch iawn ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â Hedyn unwaith eto a throsglwyddo cam cyntaf y gwaith adfywio hwn sy’n hynod gyffrous. Mae rhaglen drawsnewid o’r fath, ar raddfa fawr, nid yn unig yn creu cartrefi newydd, ond yn rhoi bywyd newydd i ardal Ringland. Mi fydd hyn yn ei throi’n gymuned fywiog lle gall pobl deimlo’n falch eu bod yn byw ac yn gweithio yno.
Mae prosiect Adfywio Ringland yn rhan o strategaeth hirdymor Hedyn i ddarparu cartrefi diogel, cynnes, fforddiadwy sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, wrth weithio ochr yn ochr â chymunedau i atgyfnerthu lleoedd lleol a chreu effaith ystyrlon a pharhaol.
Efallai byddwch hefyd yn hoffi...
Hedyn yn sicrhau pencadlys newydd
Tagiwyd yn: Hedyn Darllen mwy
Mae ein trigolion gwych yn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant
Tagiwyd yn: Preswylwyr Darllen mwy