English
English

Caffael

Sut rydyn ni'n mynd ati i reoli caffael yn Hedyn a sut i gofrestru am gyfleoedd os ydych chi'n gyflenwr.

Ar y dudalen hon

Ein nod yw sicrhau bod pob punt rydyn ni’n ei wario, yn cyfrannu at gartrefi a chymunedau diogel, cynaliadwy a chynhwysol.

Rydym yn caffael i:

  • sicrhau gwerth am arian
  • cefnogi’r gwaith o adeiladu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel
  • creu mwy o fanteision i’n trigolion, ein cymunedau, ein cyflenwyr a’r amgylchedd

Cyfleoedd caffael

Rydyn ni’n caffael ystod eang o gontractau ar draws pob maes o’r busnes, yn cynnwys:

  • atgyweiriadau, cynnal a chadw ac ystadau
  • rhaglenni gwaith wedi’u cynllunio
  • diogelwch adeiladu
  • datblygiadau adeiladu newydd
  • cyflenwi nwyddau a gwasanaethau
  • gwasanaethau ymgynghori
  • technoleg gwybodaeth

Cofrestru am gyfleoedd

Rydym yn hysbysebu ein cyfleoedd caffael trwy:

Mae angen i gyflenwyr gofrestru ar y pyrth perthnasol i gael mynediad at gyfleoedd byw. Cyn cofrestru ar Gwerthwch i Gymru, yn gyntaf rhaid i chi gofrestru ar Canfod Tendr – Llwyfan Digidol Canolog a chael eich Rhif Adnabod Unigryw. Mae ei angen i gofrestru ar Gwerthwch i Gymru.

Cofiwch wneud yn siŵr bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am eich cwmni, a sefydlu rhybuddion ar gyfer y categorïau sydd o ddiddordeb i chi.

Ein dull caffael

Mae Hedyn wedi ymrwymo i gaffael mewn ffordd deg, dryloyw a chymdeithasol gyfrifol. Rydym yn dilyn prosesau clir, y gellir eu harchwilio fel bod y nwyddau, y gwaith a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu prynu yn cydymffurfio, yn gymesur, ac yn darparu gwerth yn y tymor hir.

Sut rydyn ni’n caffael

Rydym yn cadarnhau’r gofyniad, y gyllideb, y fanyleb a’r canlyniadau disgwyliedig cyn mynd i’r farchnad.

Mae gwerth, risg a chymhlethdod y contract yn pennu a ydym yn defnyddio dyfynbrisiau, tendr, fframwaith neu lwybr arall sy’n cydymffurfio.

Mae cyfleoedd yn cael eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru a Canfod Tendr lle bo angen ac maent yn cael eu rheoli drwy ein porth caffael Delta.

Mae tendrau’n cael eu hasesu yn ôl meini prawf a gyhoeddir, a bydd y gwerthuso fel arfer yn ystyried cost, ansawdd a gwerth cymdeithasol.

Mae contractau’n cael eu dyfarnu mewn modd tryloyw, ac yn cael eu rheoli trwy fesur perfformiad, cyfarfodydd adolygu, a dull o adrodd y cytunir arno.

Trothwyon tendro

Mae’n rhaid i Hedyn hysbysebu cyfleoedd tendro sy’n fwy na throthwyon diffiniedig. Y trothwyon ariannol cyfredol, sy’n ddilys er mis Ionawr 2024, yw:

  • £214,904 (yn cynnwys TAW) ar gyfer nwyddau a gwasanaethau
  • £5,372,609 (yn cynnwys TAW) ar gyfer contractau gwaith
Children by the new mosaic at Moorland Park in Newport

Gwerth cymdeithasol

Mae gwerth cymdeithasol yn ymwneud â’r manteision ehangach a’r newid cadarnhaol y gall contract ei roi i’n cymunedau.

Mae enghreifftiau o’r ymrwymiadau gwerth cymdeithasol rydyn ni’n eu croesawu yn cynnwys:

  • recriwtio’n lleol o ardaloedd sydd â lefelau diweithdra uchel
  • cynnig prentisiaethau neu leoliadau profiad gwaith
  • rhoi amser neu ddeunyddiau i brosiectau cymunedol
  • lleihau allyriadau carbon ar y safle trwy beiriannau neu gerbydau allyriadau isel
  • talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’r holl staff sy’n gweithio ar ein contractau

Deddfwriaeth ac arweiniad

Mae ein gweithgarwch caffael yn cael ei lywodraethu gan ein rheoliadau ariannol, rheolau sefydlog a deddfwriaeth gaffael berthnasol y DU a Chymru.

Mwy o wybodaeth:

Cysylltu â ni

Oes oes gennych ymholiadau’n ymwneud â chaffael, cysylltwch â’r Tîm Caffael ar procurement@hedyn.cymru.

Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am