Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn cadw’n cymdogaethau’n ddiogel, yn lân ac yn groesawgar. Gofynnwn i drigolion helpu trwy gadw ardaloedd cymunol yn daclus, yn rhydd o annibendod ac yn glir rhag unrhyw eitemau a allai achosi rhwystr.
Mae ardaloedd cymunol yn cael eu harchwilio a’u glanhau’n rheolaidd yn rhan o’n gwasanaeth rheoli ystadau. Gall y math o wasanaeth, a pha mor aml y mae’n digwydd, amrywio o un lleoliad i’r nesaf, gan ddibynnu ar ffactorau fel cynllun yr adeilad, cyfleusterau, faint mae’n cael ei ddefnyddio a gofynion lleol.
Er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel ac atal tân, rhaid cadw pob ardal gymunol yn glir ar bob adeg. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu lleoedd lle gall pawb fyw’n dda.
Eich cyfrifoldebau
Er mwyn ein helpu i gynnal a chadw ardaloedd cymunol, gofynnwn yn garedig i chi:
- beidio â gadael unrhyw eitemau mewn mannau cymunol
- peidio â chadw drysau tân ar agor
- peidio ag ysmygu mewn mannau cymunol
- cadw ardaloedd cymunol yn rhydd rhag rwystrau
- cael gwared ar unrhyw sbwriel yn gywir
Ein cyfrifoldebau
Ardaloedd cymunol mewnol
Ein nod yw cadw ardaloedd cymunol mewnol yn lân ac yn ddiogel trwy raglen o waith glanhau a gwirio wedi’i chynllunio. Gall y gwasanaeth gael ei ddarparu gan ein timau mewnol, contractwyr, neu gyfuniad o’r ddau, gan ddibynnu ar y safle.
Lle y bo’n berthnasol, gall ymweliadau gynnwys:
- sychu marciau o ddrysau ffrynt
- glanhau’r fynedfa, grisiau cymunol a choridorau a chael gwared ar sbwriel
- gwirio ardaloedd biniau sbwriel
- glanhau unrhyw raffiti
- glanhau ffenestri (lle mae hyn yn rhan o’r gwasanaeth ar gyfer yr eiddo)
Mae gan rai adeiladau gyfleusterau ychwanegol, fel lifftiau, toiledau cymunol, llithrennau bin neu ystafelloedd a rennir. Yn yr adeiladau hyn, gall y trefniadau glanhau a gwirio fod yn wahanol a gallant gynnwys:
- glanhau ardaloedd mewnol ac allanol lifftiau
- glanhau ardaloedd toiledau cymunol
- gwirio llithrennau biniau gwastraff
- sychu dodrefn ystafelloedd dydd
Ardaloedd cymunol awyr agored
Gall ardaloedd cymunol awyr agored gynnwys gerddi, iardiau, llwybrau, mannau parcio, storfeydd biniau, ardaloedd sychu a mannau allanol eraill sy’n cael eu rhannu gan breswylwyr. Bydd y cyfleusterau a lefel y gwasanaeth yn amrywio o safle i safle.
Ardaloedd gwyrdd cymunol
Lle mae ardaloedd gwyrdd cymunol yn rhan o’r gwasanaeth, byddwn yn rheoli glaswellt, gwrychoedd a llwyni yn unol â gofynion y lleoliad, amodau tymhorol ac ystyriaethau amgylcheddol.
Efallai y byddwn yn torri ardaloedd sy’n achosi problemau gyda llinellau gweld a mynediad, ond byddwn yn cynnal asesiad ecolegol yn gyntaf er mwyn diogelu bywyd gwyllt lle bynnag y bo modd.
Gall amlder torri glaswellt amrywio gan ddibynnu ar y tywydd, amodau’r tir, mynediad, cynllun y safle a’r gwasanaeth y cytunwyd arno ar gyfer y lleoliad hwnnw.
Byddwn yn rheoli gofynion cynllunio ecolegol mewn ffordd gymesur ac ymarferol, gan gefnogi’r nod o ddiogelu a datblygu ecoleg leol ar draws ein lleoliadau tai. Lle bo hynny’n briodol, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, cyrff statudol a mentrau’r llywodraeth i adnabod cyfleoedd sy’n gwella bioamrywiaeth, yn diogelu cynefinoedd ac yn cefnogi ein gallu i reoli ystadau mewn ffordd gynaliadwy.
Yr amgylchedd o’n cwmpas
Lle bo angen, rydym yn monitro nentydd, sianeli draenio ac ardaloedd cyfagos ar gyfer materion fel planhigion goresgynnol, tipio anghyfreithlon a llygredd. Os ydym yn dod o hyd i lygredd, byddwn yn dweud wrth Gyfoeth Naturiol Cymru amdano.
Lle mae Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) ar waith, byddwn yn eu rheoli a’u cynnal yn unol â gofynion y safle er mwyn helpu i reoli dŵr wyneb, lleihau’r perygl o lifogydd a chefnogi buddion amgylcheddol lleol. Gallai hyn gynnwys archwiliadau rheolaidd, clirio malurion, monitro llystyfiant a gweithio gyda phartneriaid perthnasol lle mae angen gwaith cynnal a chadw neu welliannau arbenigol.
Rydym yn cynnal arolygiadau coed ac yn blaenoriaethu gwaith yn ôl risg, cyflwr, mynediad a’r adnoddau sydd ar gael.
Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am y coed yn eich gardd. Os ydych chi’n ystyried cael gwaith wedi’i wneud, y peth gorau bob tro yw cael cyngor gan swyddog trin coed cymwys yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni am goeden neu ddim yn siŵr beth i’w wneud, bydd ein tîm Ystadau yn hapus i helpu.
Help i gynnal a chadw gerddi
Efallai y bydd rhai preswylwyr yn gymwys i gael cymorth i gynnal a chadw eu gardd lle mae’r gwasanaeth hwn ar gael. Gall argaeledd, amlder a meini prawf cymhwystra amrywio.
Os ydych chi’n meddwl bod angen y cymorth hwn arnoch, cysylltwch â’n Hwb Profiadau Cwsmeriaid, a fydd yn gallu esbonio ymhellach a threfnu asesiad, os yw hynny’n briodol.
Gwasanaethau eraill
Glanhau ffenestri
Rydym yn cynnig gwasanaeth glanhau ffenestri mewn rhai lleoliadau yn rhan o’r gwasanaethau sydd ar gael yno. Gall pa mor aml y mae ffenestri’n cael eu glanhau amrywio gan ddibynnu ar yr adeilad a’r trefniadau lleol. Rydym yn cynnal gwiriadau rheolaidd i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i safon dda.
Golchdai
Pan ddarperir cyfleusterau golchi dillad cymunol, rydym yn gweithio gyda chontractwyr cymwys i gynnal a chadw’r offer a’u trwsio. Gall y math o wasanaeth golchi dillad sydd ar gael, a phryd mae ar gael, amrywio o safle i safle.
Ansawdd gwasanaethau
Rydym yn gwirio ein gwasanaethau ystâd yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno i safon dda. Gall y gwasanaethau a ddarperir amrywio rhwng ystadau, gan ddibynnu ar anghenion lleol a threfniadau lleol.
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp