English
English

Trefnu atgyweiriad

Mae rhai atgyweiriadau yn gyfrifoldeb arnom, a rhai yn gyfrifoldeb arnoch chi. Dysgwch sut i drefnu atgyweiriad a beth sy'n digwydd nesaf.

Ar y dudalen hon

Os oes angen trwsio rhywbeth yn eich cartref, rydyn ni yma i helpu. Dywedwch wrthym cyn gynted ag y byddwch yn sylwi ar broblem fel y gallwn ei chywiro’n gyflym a chadw eich cartref yn ddiogel ac yn gyfforddus.

Gallwch drefnu atgyweiriad ar-lein neu roi galwad i ni os oes angen.

Cyn i chi drefnu

Ein cyfrifoldeb ni yw rhai atgyweiriadau ac mae rhai yn gyfrifoldeb arnoch chi.

Fel arfer rydych chi’n gyfrifol am fan bethau bob dydd, fel:

  • newid bylbiau golau neu ffiwsiau
  • cael allweddi newydd pan fyddant yn mynd ar goll
  • mân rwystrau a achosir gan fwyd neu wallt
  • addurno cosmetig y tu mewn i’ch cartref

Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â phoeni – cysylltwch â ni fel y gallwn ei drafod gyda chi.

Trefnu atgyweiriad ar-lein

Y ffordd hawsaf i riportio atgyweiriad nad yw’n frys yw llenwi ein ffurflen gysylltu ar-lein neu anfon e-bost hello@hedyn.cymru.

Gallwch:

  • ddweud wrthym beth sydd angen ei drwsio
  • lan lwytho lluniau neu fideos clir os oes gennych rhai
  • dewis apwyntiad sy’n gyfleus i chi
  • cadw golwg ar eich atgyweiriad

Am bob ffordd i archebu atgyweiriad, ewch i’n tudalen cysylltu â ni.

Atgyweiriadau brys – ffoniwch ni os gwelwch yn dda

Mae angen gweithredu ar frys ar rai problemau oherwydd gallent effeithio ar eich diogelwch neu eich iechyd.

Mae atgyweiriadau brys yn cynnwys pethau fel:

  • dim gwres na dŵr poeth
  • gollyngiadau difrifol neu lifogydd
  • peryglon trydanol
  • drysau neu ffenestri allanol sy’n anniogel
  • arogl nwy cryf

Ffoniwch ni ar unwaith ar: 0300 1212 345

Rydyn ni ar gael 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn am argyfyngau.

Os ydych chi’n arogli nwy:

  • Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999
  • Agorwch ffenestri a drysau
  • Peidiwch â defnyddio switshis trydan

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am atgyweiriad:

  • byddwn yn edrych i weld beth sydd angen ei wneud ac a oes angen ei wneud ar frys
  • byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau’r camau nesaf
  • bydd un o’n crefftwyr medrus yn ymweld â’ch cartref os oes angen
  • byddwn yn rhannu’r diweddarach gyda chi tan fod yr atgyweiriad wedi’i orffen

Gwnewch yn siŵr bod rhywun 18 oed neu hŷn gartref yn ystod eich apwyntiad.

Rydym yn cael ein harwain gan Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ac yn anelu i gwblhau atgyweiriadau o fewn yr amseroedd hyn:

  • Atgyweiriadau sydd angen eu gwneud ar unwaith: o fewn 24 awr
  • Atgyweiriadau brys: Cyfeirir atynt hefyd fel atgyweiriadau sylweddol. Byddant yn cael eu harchwilio o fewn 10 diwrnod a’u hatgyweirio ar ôl pum diwrnod arall. Bydd atgyweiriadau sy’n cael eu hystyried yn rhai nad ydynt yn rhai sylweddol, yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod.
  • Atgyweiriadau arferol: o fewn amser y cytunir

Weithiau gall atgyweiriadau gymryd mwy o amser os oes angen darnau neu os yw’n anodd cael mynediad I’ch cartref – byddwn bob amser yn rhoi gwybod I chi.

Gallwch ein helpu drwy:

  • rhoi cymaint o fanylion â phosibl
  • rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau mynediad
  • rhannu lluniau neu fideos os gallwch
  • dweud wrthym os oes angen cymorth ychwanegol ar unrhyw un yn eich cartref

Mae hyn yn ein helpu i ddatrys y broblem yn gyflymach ac osgoi dychwelyd dro ar ôl tro.

Os na allwch gadw at eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl..

Gall methu apwyntiadau arwain at dâl.

Cysylltu â ni – atgyweiriadau

Angen help neu methu archebu ar-lein?

Rydyn ni yma i chi.

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am