English
English

Cyllid cymunedol

Ar y dudalen hon

Yma yn Hedyn, credwn fod cymunedau cryf yn tyfu pan fydd pobl yn cefnogi ei gilydd ac yn ymfalchïo yn y mannau lle maen nhw’n byw.

Mae ein cronfeydd buddsoddi cymunedol yma i’ch helpu i droi syniadau gwych yn newid go iawn. Efallai eich bod chi’n dod â phobl at ei gilydd, yn gwella mannau cymunol, neu’n cefnogi’r rheiny y mae angen cefnogaeth fwyaf arnynt. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, rydyn ni yma i helpu i wneud i bethau ddigwydd.

Beth allwn ni ei ariannu

Gallwn gynnig cyllid a chymorth i grwpiau a sefydliadau lleol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned. Os yw’n bwysig i’ch cymuned chi, mae’n bwysig i ni.

Rydyn ni’n chwilio am geisiadau sy’n gysylltiedig ag o leiaf un o’n tair thema:

  1. Mannau gwyrdd: Creu mannau awyr agored cynaliadwy, deniadol ac egnïol sy’n dod â balchder i’n cymunedau.
  2. Cymunedau diogel a chysylltiedig: Cryfhau perthnasoedd, gwella diogelwch lleol, a chreu ymdeimlad o berthyn.
  3. Iechyd a llesiant: Cefnogi llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol unigolion a chymunedau.

Ein hopsiynau cyllid

Swm: £1-£1,500

Gallech ei ddefnyddio ar gyfer:

  • gweithgareddau cymunedol lleol
  • digwyddiadau untro
  • prosiectau cymunedol
  • prosiectau sgiliau a datblygu
  • gweithgareddau llesiant
  • prosiectau sydd â buddion cymunedol ehangach

Swm: £1,501-£25,000

Gallech ei ddefnyddio ar gyfer:

  • prosiectau cymunedol mawr
  • prosiectau partneriaeth
  • prosiectau sy’n cyflawni canlyniadau gwerth cymdeithasol sylweddol

Sut i wneud cais

Anfonwch eich syniad am brosiect trwy e-bost ddweud wrthym:

  • beth yw’r prosiect
  • i bwy mae’r prosiect
  • ble mae’r prosiect
  • faint o arian sydd ei angen arnoch i gyflawni’r prosiect

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod i’ch arwain chi drwy’r camau nesaf.

E-bostiwch ni

Grwpiau cymunedol newydd

Os ydych chi’n gysylltiedig â rhedeg grŵp cymunedol ac eisiau siarad â ni, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

E-bostiwch ni
A group of customers sat together round a table cheer with their hands in the air.
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am