Mae gennym amrywiaeth o gartrefi ar gael y tu allan i’n cynnig rhent cymdeithasol. Mae opsiynau rhentu gwahanol ar gyfer y cartrefi hyn, yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano.
Rhent preifat
Mae gennym amrywiaeth o gartrefi ar gael i’w rhentu ar y farchnad agored, a gall unrhyw un wneud cais. Pan fydd cartrefi ar gael i’w rhentu yn breifat, rydyn ni’n eu hysbysebu ar wefannau fel OpenRent a Rightmove.
Rhent canolradd
Mae hyn i bobl sy’n chwilio am rywbeth rhwng rhent cymdeithasol a rhent preifat. Rhaid eich bod wedi cofrestru ar gofrestr dai eich Cyngor lleol, a naill ai’n byw neu’n gweithio yn yr ardal rydych chi’n gwneud cais. Mae’r cartrefi hyn yn cael eu hysbysebu trwy wefan eich Cyngor lleol ac weithiau ar OpenRent neu Rightmove, ar gyfradd ostyngol, ac fel arfer, gallwch gael gostyngiad o tua 20%.
Rhentu i Berchnogi
Mae Rhentu I berchnogi yn rhoi cyfle i chi weithio tuag at brynu eich cartref, tra byddwch chi’n ei rentu. Mae’r cartrefi hyn ar gael i’w rhentu ar gyfradd y farchnad (nid ydynt ar gael ar rent cymdeithasol).
Ar ôl rhentu am ddwy flynedd, bydd gennych yr opsiwn i brynu eich cartref, os ydych chi eisiau. Os byddwch chi’n dewis prynu:
- bydd 25% o’r rhent rydych chi eisoes wedi’i dalu yn cael ei ddychwelyd i chi i’w ddefnyddio fel eich blaendal.
- Byddwch hefyd yn cael cyfran o unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo ers i chi symud i mewn.
Sut i wneud cais
I wneud cais, rhaid eich bod wedi cofrestru ar cofrestr tai leol , naill ai’n byw neu’n gweithio yn yr ardal, a heb fod yn berchen ar gartref eisoes. Mae cartrefi sydd ar gael yn cael eu hysbysebu trwy wefan eich cofrestr tai eich awdurdod lleol neu ar y farchnad agored.
Beth sy’n digwydd nesaf
Os ydych wedi dod o hyd i gartref rydych chi’n ei hoffi gydag unrhyw un o’r opsiynau rhentu hyn, gallwn drefnu ymweliad. Yna byddwn yn gofyn i chi lenwi cais. Rydym yn cynnal rhai gwiriadau i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig cartref sy’n gynaliadwy i chi. Mae’r gwiriadau hyn yn cynnwys pa mor fforddiadwy ydyw, a’ch hanes credyd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, gofynnwn am flaendal sicrwydd a’ch rhent am y mis cyntaf cyn i chi symud i mewn. Byddwch yn cael contract meddiannaeth safonol am hyd eich tenantiaeth.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cartrefi newydd rydyn ni’n eu hadeiladu, cysylltwch â ni.
Cysylltu â Hedyn:
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp