English
English

Paratoi ar gyfer eich cyfweliad

Darllenwch ein canllawiau a'n awgrymiadau da wrth i chi baratoi.

Ar y dudalen hon

Rydyn ni am i chi deimlo mor gyfforddus â phosibl pan fyddwch yn cael eich cyfweld am swydd yn Hedyn.

Wrth gymryd amser i baratoi, mi fydd yn helpu i dawelu’ch meddwl, a’ch rhoi yn y sefyllfa orau i berfformio’n dda mewn cyfweliad.

Y mân bethau ymarferol

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble rydych chi’n mynd i gael eich cyfweliad – gweler lleoliadau ein swyddfeydd.

Edrychwch ar y cyfleusterau parcio a’r llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod gyda phwy y byddwch chi’n cyfarfod, a nodwch eu manylion cyswllt, rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â nhw cyn cyrraedd.

Rhowch ddigon o amser i chi’ch hun i gyrraedd eich cyfweliad. Anelwch i gyrraedd tua 10 munud yn gynnar er mwyn teimlo’n gysurus a chasglu eich meddyliau.

Beth i'w ddisgwyl

Fel arfer, mae cyfweliadau yn golygu y gofynnir cyfres o gwestiynau i chi.  

Bydd rhai hefyd yn cynnwys ymarfer o ryw fath, fel gwneud cyflwyniad neu gwblhau tasg ysgrifenedig. Byddwn yn rhoi gwybod ymlaen llaw i chi am unrhyw ymarfer. 

Darllenwch unrhyw ganllawiau a rannwyd gennych am y cyfweliad, i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall popeth. 

Cysylltwch â’n tîm recriwtio os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi baratoi unrhyw beth ymlaen llaw, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill cyn dyddiad y cyfweliad. 

Ymchwilio i'r swydd

Nid ydym yn disgwyl i chi wybod popeth am Hedyn, ond rydym yn argymell eich bod chi’n darllen am unrhyw sefydliad sy’n eich cyfweld.

Mae hyn yn cynnwys, gwybodaeth fel eu:

  • gweledigaeth
  • gwerthoedd
  • pwrpas
  • strwythur y sefydliad

Darllenwch drwy’r swydd-ddisgrifiad a phroffil y swydd yn ogystal â’ch cais, i ail-ymgyfarwyddo.

Nexus House building in Newport

Sut i ddod o hyd i ni ar gyfer eich cyfweliad

Mae gan Hedyn amryw o leoliadau gwaith. Bydd lleoliad eich cyfweliad wedi ei nodi yn eich e-bost sy’n eich gwahodd i’r cyfweliad. Os nad ydych yn siŵr ble mae eich cyfweliad yn cael ei gynnal, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cyfweliad, anfonwch e-bost i recruitment@hedyn.wales a bydd y tîm recriwtio yn hapus i’ch helpu.

Mae mwy o wybodaeth am bob swyddfa cyn eich cyfweliad.

  • Cyfeiriad: Tŷ Nexus, Mission Court, Casnewydd NP20 2DW
  • Parcio: Maes parcio yn Asda, gyferbyn (am ddim am dair awr)
  • Wrth ymyl: Asda, Greggs, a Costa.
  • Hygyrchedd: Mynedfa i’r anabl gyda ramp ar flaen ac ar gefn yr adeilad. Lifftiau i bob llawr.
  • Beth i’w wneud: Ar ôl dod i mewn i’r adeilad bydd angen i chi gofrestru wrth y dderbynfa a gofyn am y rheolwr sy’n cyfweld, fel y nodir ar yr e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.
  • Toiledau: Yn cynnwys rhai hygyrch i’r anabl ar gael ar y llawr hwn.

Dolen Tŷ Nexus ar Google Maps.

  • Cyfeiriad: Tŷ’r Felin, Lower Mill Field, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 0XJ
  • Parcio: Maes parcio y tu allan i’r swyddfa
  • Wrth ymyl: Harvester, McDonald’s, Aldi, gorsaf betrol yn cynnwys opsiynau bwyd eraill.
  • Hygyrchedd: Mynedfa i’r anabl ar flaen yr adeilad. Lifft i’r llawr cyntaf.
  • Beth i’w wneud: Ar ôl dod i mewn i’r adeilad bydd angen i chi gofrestru wrth y dderbynfa a gofyn am y rheolwr sy’n cyfweld, fel y nodir ar yr e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.
  • Toiledau: Yn cynnwys rhai hygyrch i’r anabl ar gael ar y llawr hwn.

Dolen Swyddfa Pont-y-pŵl ar Google Maps.

  • Cyfeiriad: Depô Malpas, Heol Malpas, Casnewydd NP20 5PP
  • Parcio: Y tu allan i’r adeilad
  • Wrth ymyl: Tesco Express, Greggs, Subway, Domino’s a fferyllfa.
  • Hygyrchedd: Mynedfa i’r anabl gyda ramp ar flaen yr adeilad ac ar ochr yr adeilad. Lifft i’r llawr cyntaf.
  • Beth i’w wneud: Ar ôl dod i mewn i’r adeilad bydd angen i chi gofrestru wrth y dderbynfa a gofyn am y rheolwr sy’n cyfweld, fel y nodir ar yr e-bost yn eich gwahodd i gyfweliad.
  • Toiledau: Ar gael ar y llawer cyntaf (dim mynedfa i’r anabl).

Dolen Depo Malpas ar Google Maps.

Defnyddio STAR i baratoi cwestiynau ac atebion

Gan ddefnyddio’r adran gwybodaeth a phrofiad ym mhroffil y swydd, rydym yn argymell eich bod yn meddwl am rai cwestiynau y gellir eu holi i chi.

Er enghraifft, os yw pwynt hanfodol ar yr adran gwybodaeth a phrofiad yn nodi:

“Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol”

Cwestiwn y gellir ei ofyn i chi yw:

“Allwch chi roi enghraifft o pan oedd angen i chi delio â chwsmer anodd?”

“Sut wnaethoch chi ddelio â’r sefyllfa, a beth oedd y canlyniad?”

Mae techneg STAR yn ddull strwythuredig y dylech ei ddefnyddio wrth ymateb i gwestiynau mewn cyfweliad:

  • S- Sefyllfa – y sefyllfa y bu’n rhaid i chi ddelio â hi
  • T -Tasg – y dasg a roddwyd i chi
  • A- Cam gweithredu – y cam(au) gweithredu a gymerwyd gennych
  • R- Canlyniad – beth ddigwyddodd o ganlyniad i’ch cam(au) gweithredu a’r hyn a ddysgwyd yn dilyn y profiad

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r dull hwn i ddrafftio’ch atebion i gwestiynau posibl. Darllenwch fwy am ddull STAR ar GOV.UK.

10 awgrym da ar gyfer eich cyfweliad

  1. Ewch ati i ymarfer ateb rhai cwestiynau gyda rhywun ymlaen llaw gan drin y sefyllfa fel cyfweliad go iawn. Gofynnwch iddynt wneud nodiadau o’ch ymatebion, a rhoi adborth.
  2. Os ydych chi’n gwneud cyflwyniad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ateb cwestiwn y cyflwyniad neu wedi bodloni’r dasg yn llawn.
  3. Ewch ati i ymarfer eich cyflwyniad o flaen rhywun – i wneud yn siŵr eich bod chi’n gyfarwydd ag ef ac yn gallu cadw at yr amser a roddwyd i chi.
  4. Ceisiwch gynnal cyswllt llygad â’r panel sy’n cyfweld wrth wneud eich cyflwyniad. Mae’n iawn cael nodiadau i gyfeirio atynt, ond peidiwch â bod yn ddibynnol arnynt, dewch o hyd i’r cydbwysedd cywir.
  5. Paratowch ar gyfer cwestiynau dilynol a allai godi ar ddiwedd eich cyflwyniad.
  6. Holwch y swyddog recriwtio / cyflogi os yw’n iawn i chi fynd â nodiadau i mewn i’r cyfweliad. Cadwch at un darn o bapur a chadw eich nodiadau yn gryno fel y gallwch fwrw llygad drostynt yn hawdd.
  7. Cymerwch eich amser wrth ateb y cwestiynau; mae ychydig eiliadau o dawelwch yn iawn. Cymerwch lymaid o ddŵr i gasglu eich meddyliau.
  8. Gwrandewch yn ofalus ac atebwch y cwestiwn yn llawn. Gofynnwch am eglurhad os nad ydych chi’n deall y cwestiwn, neu, os nad ydych yn siŵr beth yn union sy’n cael ei ofyn.
  9. Byddwch yn chi’ch hun. Byddwch yn onest, yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig, a pheidiwch â bod ofn gwerthu’ch hun a’ch cyflawniadau.
  10. Paratowch gwestiynau i’w gofyn i’r panel ar ddiwedd eich cyfweliad. Gofynnwch gwestiynau sy’n ymwneud â’r swydd, fel pa fath o gyfnod ymsefydlu/hyfforddiant sydd ar gael – ac efallai yr hoffech hefyd ofyn pryd y bydd penderfyniad yn cael ei wneud, a sut fydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei gyfleu.
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am