Er nad yw achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhywbeth arferol, rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â nhw pan fyddan nhw’n codi ac yn credu mewn creu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda.
Ein haddewid i chi
Byddwn ni’n:
- gweithio gyda chi ac asiantaethau eraill i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal
- cael presenoldeb lleol cryf er mwyn ceisio datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda’r gymuned
- eich cefnogi i ddylanwadu ar eich cymdogaeth leol
- dod i’ch adnabod chi a’r hyn sydd bwysicaf i chi
- gallu cysylltu â ni’n hawdd, mewn ffordd sy’n addas i chi
- gwrando ac yn dysgu o’ch adborth er mwyn gwella ein gwasanaethau
- gwneud hi’n hawdd i chi rannu eich barn
- addasu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigol ein cymunedau amrywiol
Fel eich landlord gallwn gynnig cefnogaeth i chi os ydych chi’n delio â rhai agweddau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mewn achosion eraill lle efallai y byddwch chi’n teimlo bod ymddygiad pobl eraill yn annifyr, efallai na fyddwn yn gallu delio’n uniongyrchol â hynny, er enghraifft parti untro neu sŵn gan gerbydau ar y stryd. Dyma ganllaw i’r math o sefyllfaoedd lle gallwch ddisgwyl help wrthon ni.
Beth allwn ni helpu gyda
Byddwn yn eich helpu gyda:
- niwsans sŵn (os ydych chi’n profi sŵn dro ar ôl tro o gartref arall, byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn penderfynu pa gamau y mae angen eu cymryd, os oes angen cymryd unrhyw gamau o gwbl)
- cam-drin geiriol
- dychryn
- aflonyddu
- aigwyddiadau neu troseddau sy’n gysylltiedig â chasineb
- cymorth gyda cham-drin domestig
- cogio
- ymddygiad troseddol mewn cartref arall neu sy’n effeithio ar y gymdogaeth. Bydd angen tystiolaeth gan yr heddlu i gefnogi’r honiad.
Beth na allwn ni helpu gyda
Dydyn ni ddim yn gallu helpu gyda:
- niwsans sŵn untro
- plant yn chwarae neu’n cweryla ar y stryd
- anifeiliaid anwes yn crwydro ar draws gerddi
- anghydfodau am barcio neu rwystr gan gerbydau
- syllu neu edrych ar rywun, edrych yn gas ar rywun
- perthynas bersonol yn chwalu neu ddim yn hoffi cymdogion
- niwsans fel arogleuon coginio neu rywun yn ysmygu yn eu cartref eu hunain
- problemau sy’n ymwneud â gwrthdaro mewn ffordd o fyw, fel gwaith shifft neu wahaniaethau diwylliannol
- rhywfaint o sŵn o fywyd bob dydd, fel toiledau’n fflysio, peiriannau golchi, babanod neu blant yn crio neu’n chwarae
- cwynion dienw
Os ydym yn cael cwynion dro ar ôl tro neu os yw’r sefyllfa’n gwaethygu, gallwn edrych eto ar yr achos ac efallai y gallwn roi cyngor am gamau y gallech eu cymryd, neu eich helpu i ddod o hyd i ateb.
Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
I riportio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, cysylltwch â ni.
Unwaith fyddwch chi’n cysylltu â ni i riportio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol:
- Rydyn ni’n cofnodi eich adroddiad – Rydyn ni’n cofnodi’r manylion rydych chi wedi’u rhoi ac yn creu achos.
- Rydyn ni’n asesu’r achos – Bydd Rheolwr Cymdogaeth yn adolygu’r wybodaeth i asesu faint o argyfwng yw’r sefyllfa.
- Byddwn yn cysylltu â chi – Byddwn yn cysylltu â chi i drafod y mater yn fanylach, i gytuno ar y camau nesaf, ac i esbonio sut y gallwn eich cefnogi.
Sut rydyn ni'n blaenoriaethu
Rydyn ni’n blaenoriaethu achosion ar sail lefel y risg a’r niwed.
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod yr achosion mwyaf brys yn cael eu trin cyn gynted â phosibl.
Bydd achosion brys yn cynnwys digwyddiadau difrifol fel trais, bygythiadau, digwyddiadau casineb, neu bryderon diogelu dybryd.
Amseroedd ymateb dangosol
Byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau difrifol fel trais, bygythiadau, digwyddiadau casineb neu bryderon am ddiogelu dybryd o fewn 24 awr.
Byddwn yn ymateb i bob achos arall a riportiwyd o fewn 48 awr.
Archwilio a gweithredu
Ar ôl i’ch achos gael ei asesu, byddwn ni’n:
- cytuno ar gynllun gweithredu gyda chi
- esbonio beth allwn ni ei wneud a beth allwn ni ddim ei wneud
- casglu tystiolaeth – gallai hyn gynnwys gofyn i chi gasglu tystiolaeth hefyd, ac os yw hynny’n wir bydd y disgwyliadau gennych yn cael eu trafod yn glir gyda chi a’u hychwanegu at eich cynllun gweithredu (gall hyn gynnwys siarad â chymdogion, adolygu adroddiadau, neu weithio gydag asiantaethau partner fel yr heddlu neu’r awdurdod lleol)
Gweithredu posibl
Gall camau gweithredu posibl gynnwys:
- cynnig cyngor a chefnogaeth
- trefnu cyfryngu rhwng pob ochr
- llythyrau rhybuddio neu gamau gorfodi ar gyfer tenantiaeth
- gweithio gydag asiantaethau eraill i ddatrys y mater
Eich diweddaru
Byddwn yn eich diweddaru trwy gydol eich achos, trwy:
- gytuno sut yr hoffech i ni gysylltu â chi (er enghraifft dros y ffôn neu drwy e-bost neu lythyr)
- rhoi diweddariadau ar gamau allweddol yn yr ymchwiliad
- rhoi gwybod i chi os oes unrhyw oedi
Fel canllaw, rydyn ni’n anelu at ddarparu diweddariadau mor aml ag y cytunir yn y cynllun gweithredu tra bod eich achos ar agor.
Adolygu eich achos
Byddwn yn adolygu eich achos yn rheolaidd i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd. Mae hyn yn ein helpu i:
- wirio cynnydd
- diweddaru’r cynllun gweithredu os oes angen
- sicrhau ein bod yn ymateb yn briodol i unrhyw newidiadau
Gallwch hefyd gysylltu â ni ar unrhyw adeg os yw’r sefyllfa’n newid neu’n gwaethygu.
Cau eich achos
Byddwn yn cau eich achos pan:
- Mae’r mater wedi’i ddatrys, neu
- Nid oes unrhyw gamau pellach y gallwn eu cymryd yn rhesymol, neu
- Mae’r ymddygiad wedi stopio, neu wedi lleihau i lefel dderbyniol
Cyn cau’r achos, byddwn yn:
- Rhoi gwybod i chi ymlaen llaw
- Esbonio’r rhesymau dros gau’r achos
- Rhoi cyfle i chi holi cwestiynau neu godi pryderon
Os yw’r broblem yn parhau
Os yw’r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau ar ôl i’ch achos gael ei gau, gallwch ei riportio eto. Byddwn yn adolygu’r wybodaeth newydd ac yn penderfynu ar y camau nesaf.
Angen help ar frys?
Os ydych chi’n teimlo mewn perygl dybryd, cysylltwch â’r heddlu bob tro drwy ffonio 999. Ar gyfer achosion sydd ddim argyfwng, gallwch ffonio 101.
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp