English
English

Prynu cartref

Rydyn ni’n cynnig sawl ffordd i'ch helpu i brynu eich cartref eich hun, gan gynnwys cynlluniau perchentyaeth cost isel a rhannu perchnogaeth.

Prynu cartref sydd wedi’i adeiladu o’r newydd

Mae’r opsiwn hwn yn eich helpu i brynu eiddo sydd newydd gael ei adeiladu trwy gynllun perchentyaeth cost isel. Darperir ar sail rhannu ecwiti, ac mae canran yr ecwiti yn amrywio gan ddibynnu ar y lleoliad a’r math o eiddo.

Bydd angen i chi allu ariannu’ch cyfran o’r ecwiti gyda mynediad at forgais a blaendal o 5%. Bydd gweddill y pris prynu yn cael ei ariannu trwy Hedyn. Does dim rhent na rhandaliadau i’w talu ar fenthyciad Hedyn; mae’n cael ei ad-dalu yn y dyfodol pan fyddwch chi’n dewis gwerthu (nid oes terfynau amser).

Yn bennaf, mae’r cynllun Prynu Cartref yn helpu’r rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf, er efallai y bydd y tîm yn gallu helpu os ydych chi’n dod i mewn i’r farchnad eiddo eto.

Sut i ymgeisio

Er mwyn ymgeisio mae gofyn i chi gofrestru gyda’r awdurdod lleol yn yr ardal lle rydych chi eisiau prynu eiddo:

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o gysylltiad â’r ardal honno. Unwaith y cewch eich derbyn i’r cynllun, byddan nhw’n cysylltu â chi pan fydd cyfleoedd a chyllid ar gael.

Prynu Cartref o’ch Dewis Eich Hun

Mae’r opsiwn hwn yn eich helpu i brynu eiddo o’ch dewis ar y farchnad agored trwy asiant gwerthu tai. Mae ar gael yn Nhorfaen, Sir Fynwy a Phowys yn unig.

Mae’r cynllun Prynu Cartref yn helpu’r rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf yn bennaf, er efallai y bydd yn gallu helpu os ydych chi’n dod i mewn i’r farchnad eiddo eto.

Bydd angen i chi allu ariannu hyd at 70% o’r pris prynu a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r gweddill. Nid oes rhent na rhandaliadau i’w talu ar y benthyciad ecwiti; mae’n cael ei ad-dalu yn y dyfodol pan fyddwch chi’n dewis gwerthu.

Sut i ymgeisio

I wneud cais mae angen i chi gofrestru ar gyfer perchentyaeth fforddiadwy gyda’r awdurdod lleol. Ar ôl cael eich derbyn i’r cynllun, byddan nhw’n cysylltu â chi pan fydd cyfleoedd a chyllid ar gael. Byddwch yn cael gwybod pryd y gallwch ddechrau chwilio am dŷ o fewn cyllideb benodol.

Bydd hyn yn seiliedig ar:

  • eich gallu i’w fforddio
  • lleoliad yr eiddo
  • maint eich teulu

Rhanberchnogaeth

Mae rhanberchnogaeth yn eich helpu i fynd ar yr ysgol eiddo trwy dalu am gyfran mewn eiddo gyda’r opsiwn o brynu’r gyfran sy’n weddill yn nes ymlaen.

Mae hwn ar gael yng Nghasnewydd ar hyn o bryd.

Mwy o wybodaeth

Ailwerthu

Er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus o berchentyaeth fforddiadwy mae gofyniad pan fydd perchennog yn dymuno gwerthu ei eiddo o dan y cynllun Prynu Cartref, ei fod yn cael ei gynnig i’w werthu i’r rheiny sydd ar y rhestr aros. Mae hyn yn cael gwared ar yr angen i dalu ffioedd asiantaeth gwerthu tai ac yn cynnig yr eiddo am bris penodol i gronfa o brynwyr sy’n aros am eiddo.

Mae’r dull hwn yn golygu bod gwerthwyr yn gallu symud ymlaen ond yn rhoi cyfle i’r rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol hefyd, trwy wella eu gallu i fforddio hynny.

Y print mân

Gallai’r eiddo a’r cyllid sydd ar gael newid, felly mae’n well cysylltu â’n Tîm Prynu Cartref a’ch awdurdod lleol i holi am y cynigion diweddaraf.

Bydd pob cyfle yn cael ei gynnig i ymgeiswyr cofrestredig sydd ar gofrestr tai fforddiadwy yr awdurdodau lleol a byddant hefyd yn cael eu hysbysebu ar ein tudalen Facebook Hedyn Homebuy.

One of our helpful advisors taking a call in our contact centre.

Cysylltwch â Hedyn Homebuy

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r opsiynau perchnogaeth cartref (DIY, cartrefi newydd a ailwerthiannau), cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am