Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich cartref yn bodloni’r holl ofynion iechyd a diogelwch ac yn parhau i fod yn lle diogel i chi a’ch teulu.
Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref diogel, cynnes ac iach. Gall problemau fel namau trydanol, diffyg gwres neu leithder a llwydni effeithio ar eich iechyd, eich diogelwch a’ch gallu i fyw yn gyffyrddus yn eich cartref.
Heb eu trin, gallant gael effaith ddifrifol ar iechyd, yn enwedig iechyd plant ifanc, pobl hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd.
Rheoli diogelwch yn eich cartref
Rydym yn defnyddio safon ddiogelwch genedlaethol i nodi risgiau mewn cartrefi. Gelwir hyn yn System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Mae hyn yn ein helpu i benderfynu pa mor ddifrifol yw problem a pha gamau sydd eu hangen i gadw preswylwyr yn ddiogel.
Os ydych chi’n byw yn un o gartrefi Hedyn ac yn poeni am fater iechyd a diogelwch, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ymchwilio i’ch pryder ac yn trefnu unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol neu archwiliadau pellach. Yn unol â’r HHSRS, mae’n rhaid i ni fodloni amserlenni llym wrth ddelio â pheryglon difrifol, gan gynnwys risgiau brys a lleithder a llwydni difrifol.
Diogelwch tân
Mae diogelwch tân yn gyfrifoldeb ar bawb. Wrth wybod beth i’w wneud mewn argyfwng, gall eich helpu i gadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel.
Os oes tân yn eich cartref, gadewch yr eiddo ar unwaith, caewch y drysau y tu ôl i chi os yw’n bosibl a ffoniwch 999 pan fyddwch chi’n ddiogel. Pan fyddwch chi’n symud i mewn, mae’n syniad da cynllunio llwybr dianc a gwneud yn siŵr bod pawb yn eich cartref yn gwybod sut i ddianc yn gyflym.
Os ydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau, bydd y cyngor rydych chi’n ei ddilyn yn dibynnu ar y trefniadau diogelwch tân ar gyfer eich adeilad. Mewn sawl bloc, mae polisi ‘aros yn y fan a’r lle’. Mae hyn yn golygu os yw’r tân yn eich fflat, dylech adael ar unwaith, cae eich drws ffrynt y tu ôl i chi a ffonio 999.
Os yw’r tân yn rhywle arall yn yr adeilad ac nid ydych mewn perygl uniongyrchol, efallai y bydd yn fwy diogel i chi aros yn eich fflat nes bod y gwasanaeth tân yn dweud yn wahanol. Peidiwch byth â defnyddio lifft pan fydd tân.
Larymau mwg
Mae larymau mwg yn achub bywydau. Dylai eich cartref gael o leiaf un larwm mwg ar bob llawr. Rydym yn gwirio ac yn gwasanaethu larymau yn ystod ein hymweliadau diogelwch blynyddol, ac mae’n bwysig eich bod chi’n ein gadael i mewn i’ch cartref i wneud y gwiriadau hyn.
Dylech brofi eich larymau bob wythnos trwy wasgu’r botwm prawf a sicrhau nad oes llwch arnynt. Peidiwch byth â phaentio dros larwm na thynnu’r batri wrth gefn.
Os nad yw eich larwm mwg yn gweithio, neu os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch tân, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Cysylltwch â niGwiriadau diogelwch nwy
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gynnal gwiriad diogelwch nwy bob 12 mis.
Mae hyn yn helpu i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel ac yn sicrhau bod eich offer yn gweithio’n effeithlon.
Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd dyddiad eich un chi yn agosáu a gallwch drefnu apwyntiad i ni ddod allan i’w wirio am ddim. Mae’n bwysig cadw eich apwyntiad gyda ni gan ei fod yn helpu i gadw chi a’ch teulu yn ddiogel.
Os oes angen i chi aildrefnu’r apwyntiad a drefnwyd gyda ni, rhowch gymaint o rybudd â phosibl i ni, gan mai dim ond am 12 mis o ddyddiad eich archwiliad diogelwch nwy diwethaf y mae eich tystysgrif diogelwch nwy yn ddilys.
Pan fyddwn wedi cwblhau eich gwiriad diogelwch nwy, byddwn naill ai’n e-bostio neu’n postio’ch tystysgrif.
Peidiwch ag ymyrryd â’r pibellau nwy yn eich cartref, rhowch wybod i ni os oes unrhyw broblemau.
Beth ddylwn ei wneud os ydw i’n arogli nwy?
Os ydych chi’n arogli nwy:
- ffoniwch y Llinell Gymorth Argyfwng Nwy Genedlaethol ar 0800 111 999
- agorwch y ffenestri a’r drysau a gadael yr eiddo
- mynnwch fwy o gyngor gan wefan National Gas
Dod i adnabod eich boeler
Mae’r boeler yn rhan bwysig o’ch cartref. Mae’n rhoi gwres a / neu ddŵr poeth i chi. Mae’n ddefnyddiol gwybod sut mae’n gweithio, fel y gallwch wneud yn siŵr ei fod mewn cyflwr da.
Diogelwch carbon monocsid
Mae carbon monocsid yn nwy gwenwynig na allwch ei weld, ei arogli na’i flasu. Gellir ei gynhyrchu pan nad yw nwy, olew, glo neu offer llosgi coed yn gweithio’n iawn.
Mae ffynonellau carbon monocsid yn cynnwys:
- boeleri nwy
- poptai nwy
- tanau nwy
- stofiau llosgi coed a thanau glo
Larymau carbon monocsid
Er mwyn eich helpu i gadw’n ddiogel, mae larymau carbon monocsid yn cael eu gosod yn ein cartrefi lle mae eu hangen.
Os yw eich larwm carbon monocsid yn seinio:
- Agorwch ddrysau a ffenestri i adael awyr iach i mewn.
- Gadewch yr eiddo ar unwaith.
- Ffoniwch Y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999.
- Cysylltwch â ni cyn gynted ag y mae’n ddiogel gwneud hynny.
Mae’n bwysig eich bod chi’n ein gadael ni i mewn I gwblhau eich gwiriad diogelwch nwy blynyddol. Yn ystod yr ymweliad, byddwn yn archwilio’ch offer nwy ac yn gwneud yn siŵr bod eich larwm carbon monocsid yn gweithio’n iawn.
Cadw’n ddiogel gartref
Peidiwch byth â blocio neu orchuddio fentiau aer yn eich cartref. Mae awyru yn hanfodol er mwyn i offer nwy a thanwydd solet weithio’n ddiogel.
Er mwyn lleihau’r risg o garbon monocsid, peidiwch â defnyddio:
- gwresogyddion nwy potel LPG cludadwy
- barbeciw dan do
- pibellau Shisha dan do
- glo neu declynnau llosgi siarcol i wresogi olewau persawr
Gall yr eitemau hyn fod yn beryglus a gallant gynhyrchu carbon monocsid.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn ag offer nwy neu larwm carbon monocsid, cysylltwch â ni ar unwaith.
Gwiriadau diogelwch trydanol
Rydym am i chi deimlo’n ddiogel yn eich cartref, dyna pam rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch trydanol rheolaidd.
Fel rhan o’n hymrwymiad i’ch cadw’n ddiogel, rydym yn trefnu prawf EICR (Electrical Installation Condition Report) bob pum mlynedd. Mae’r gwiriadau hyn yn ein helpu i nodi unrhyw broblemau trydanol sydd angen eu hatgyweirio i gadw’ch cartref yn ddiogel.
Mae’r archwiliad fel arfer yn cymryd rhwng dwy a phedair awr. Yn ystod yr ymweliad, byddwn yn gwirio gwifrau, socedi, switshis ac offer trydanol arall sydd yn eich cartref. Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw ddiffygion neu ffitiadau wedi’u difrodi, byddwn yn trefnu iddynt gael eu hatgyweiMae’r boeler yn rhan bwysig o’ch cartref. Mae’n rhoi gwres a / neu ddŵr poeth i chi. Mae’n ddefnyddiol gwybod sut mae’n gweithio, fel y gallwch wneud yn siŵr ei fod mewn cyflwr da.rio neu eu newid.
Byddwn hefyd yn gwirio bod eich larymau mwg wedi’u gosod a’u bod yn gweithio’n gywir.
Pan fydd dyddiad eich archwiliad diogelwch trydanol yn agosáu, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad. Mae’n bwysig eich bod chi’n ein gadael i mewn i’ch cartref, fel y gallwn gynnal y fath wiriadau diogelwch hanfodol. Os oes angen i chi aildrefnu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Rydym hefyd yn archwilio offer trydanol mewn mannau cymunedol a’i brofi’n rheolaidd, er mwyn helpu i gadw ein hadeiladau’n ddiogel ac mewn cyflwr da.
Peidiwch â gwneud unrhyw waith trydanol eich hun. Os byddwch yn sylwi ar socedi wedi’u difrodi, gwifrau agored neu os oes gennych unrhyw bryderon am y trydan yn eich cartref, cysylltwch â ni ar unwaith.
Cyngor am asbestos
Mae asbestos yn ddiogel pan fydd mewn cyflwr da ac wrth adael llonydd iddo. Efallai bod asbestos yn rhai o’n cartrefi, ond nid oes angen poeni fel arfer.
Cael cyngor ar sut i fyw’n ddiogel gyda asbesto yn eich cartref.