Pan fyddwch chi’n symud i’ch cartref newydd, byddwch yn llofnodi contract gyda Hedyn. Gelwir hyn yn ‘gontract meddiannaeth’. A chi yw ‘deiliad y contract’.
Rydym yn deall sut y gall symud i gartref newydd fod yn gyffrous ac yn straen, ond rydyn ni yma i’ch helpu gyda beth bynnag sydd ei angen arnoch.
Pwy all helpu
Bydd gan bob deiliad contract Rheolwr Cymdogaeth pwrpasol ac Arbenigwr Adfer Incwm a fydd yn eich helpu o’r diwrnod cyntaf.
Gall Rheolwyr Cymdogaeth eich helpu gyda:
- newidiadau i’ch contract fel ychwanegu aelodau o’r aelwyd
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- cyfnewid chi adref (yr hawl I drosglwyddo)
- mynd yn groes i’ch contract meddiannaeth
Gall eich Arbenigwr Adfer Incwm eich helpu gyda:
- eich rhent a’ch taliadau gwasanaeth
- cael hyd i gymorth ariannol
- cyfeirio at wasanaethau cymorth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, fel trefnu atgyweiriad neu sefydlu debyd uniongyrchol, cysylltwch â ni ar hello@hedyn.cymru drwy un o’r prif sianeli.
Ychwanegu enwau neu ddileu enwau aelodau’r aelwyd
Os hoffech ychwanegu rhywun at eich contract, er enghraifft, partner neu aelod o’r teulu, bydd angen i chi gysylltu â ni yn gyntaf.
Bydd angen i ni wybod:
- enw llawn
- dyddiad geni
- dyddiad y gwnaethant symud i mewn i’r eiddo neu ei adael
Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw eich Rheolwr Cymdogaeth, cysylltwch â ni.
Yswiriant cynnwys
Fel eich landlord rydym yn gyfrifol am yr yswiriant adeiladau ar gyfer eich cartref ond chi’n sy’n gyfrifol am yswirio eich cynnwys.
Pam mae angen yswiriant cynnwys arnaf?
Gall yswiriant cynnwys ar gyfer y cartref helpu i amddiffyn eich eiddo rhag risgiau fel tân, lladrad, difrod dŵr, a llawer mwy o risgiau eraill, gan roi tawelwch meddwl i chi. Nid yw yswiriant cynnwys yn orfodol, ond mae’n syniad da ystyried beth fyddai polisi yn ei gynnwys.
Mae bob amser yn syniad da i siopa o gwmpas am bolisi a fydd yn rhoi’r yswiriant sydd ei angen arnoch.
Beth mae yswiriant cynnwys yn ei olygu?
Rydym wedi ymuno â Thistle Tenant Risks i gynnig y Cynllun Yswiriant Cynnwys ar gyfer Fy Nghartref. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol, a gall ein holl ddeiliaid contract wneud cais. Gall y polisi hwn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer pethau fel:
- dodrefn
- carpedi
- llenni
- dillad
- dillad gwely
- eitemau trydanol
- lluniau
- addurniadau
Mae telerau, amodau, terfynau ac eithriadau. I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi, darllenwch y wybodaeth yn Nogfen Wybodaeth Cynnyrch Yswiriant a’r Polisi ar wefan Thistle Tenant Risks.
Am ragor o fanylion gallwch:
- Ffonio Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288
- Mynd i wefan Thistle
- Gofyn am alwad yn ôl gan Thistle
Diweddu’ch contract
Os hoffech ddod â’ch contract meddiannaeth gyda Hedyn i ben, bydd angen i chi gysylltu â ni i roi eich ‘Hysbysiad ymadael’. Rhaid i chi rhoi o leiaf pedair wythnos o rybudd. Os ydych chi’n ddeiliad contract ar y cyd ac yn ansicr am y broses hon, cysylltwch â’ch rheolwr cymdogaeth.
Y ffordd orau i wneud hyn yw trwy lenwi ein ffurflen fer ar-lein. Bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn ymateb i ddweud y camau nesaf.
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ddewis un o’r opsiynau eraill os yw’n well gennych.
Eich hawliau cyfreithiol fel preswylydd
Mae eich contract gyda Hedyn yn cael ei wneud yn unol â’r rheoliadau tai diweddaraf.
Gallwch ddarllen canllawiau am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru), yn cynnwys eich hawliau, ar Wefan Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cartrefi newydd rydyn ni’n eu hadeiladu, cysylltwch â ni.
Cysylltu â Hedyn:
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp