Rydyn ni eisiau i chi fwynhau eich cartref gymaint â phosibl. Weithiau, efallai y byddwch am wneud newidiadau eich hun, neu efallai y bydd angen i chi ofyn am addasiad.
Addurno’ch cartref
Gallwch addurno’ch cartref heb ein caniatâd. Gallwch ei baentio neu rhoi papur wal i fyny, fel y dymunwch.
Pethau i’w cofio wrth addurno:
- Gwlychwch unrhyw bapur wal cyn ei dynnu. Os yw’n bosibl, defnyddiwch beiriant stêm a phlicio’r papur yn ofalus cyn ailaddurno.
- Peidiwch â phaentio rheiddiaduron, socedi plygiau, teils neu gypyrddau cegin.
- Peidiwch â gwneud unrhyw waith DIY ar unrhyw ran o’ch cartref os ydych chi’n meddwl y gallai fod asbestos yno. Cysylltwch â ni yn gyntaf i gael cyngor.
- Peidiwch â cheisio tynnu hen deils llawr neu leino. Gadewch nhw yn eu lle a rhoi eich gorchudd llawr newydd drostyn nhw.
- Wrth reoli atgyweiriadau, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod unrhyw ardaloedd yn cydweddu o ran yr addurno os nad yw’r tîm atgyweirio yn gallu sicrhau y byddant yn gallu defnyddio’r un papur wal wrth wneud atgyweiriad yn eich cartref.
Os byddwch chi’n difrodi unrhyw beth sydd wedi ei ffitio a’i osod wrth addurno, efallai y codir ffi arnoch i dalu costau atgyweirio pan fyddwch chi’n symud allan.
Gofyn am gymhorthion ac addasiadau
Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eich cartref. Os oes gennych anabledd a/neu anghenion symudedd, gallwch ofyn am gymhorthion neu addasiadau yn eich cartref.
Gallwn wneud addasiadau yn eich cartref, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel eich cyngor lleol.
Mân addasiadau
Dyma enghreifftiau o’r mathau o fân addasiadau y gallwn eu gwneud:
- rheiliau i afael ynddynt
- rheiliau grisiau
- liferi ar dapiau
- system intercom ar ddrysau
- lledaenu drysau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- cypyrddau diogel i gadw allweddi
- rheiliau llaw allanol
- hanner grisiau
- rampiau bach (I ddefnyddwyr cadair olwyn)
Sut i ofyn am fân addasiad
I ofyn am fân addasiad i’ch cartref, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â niAddasiadau mawr
Enghreifftiau o’r addasiadau mawr y gallwn eu gwneud yw:
- lifftiau grisiau
- lifftiau trwy loriau
- cawodydd ar lefel wastad
- addasiadau i’r gegin
- estyniadau
- rampiau mawr (i ddefnyddwyr cadair olwyn)
Sut i ofyn am addasiad mawr
I ofyn am addasiad mawr, yn gyntaf bydd angen i chi gysylltu â’ch cyngor lleol i drefnu i aelod o’u Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol alw heibio a llenwi ffurflen i asesu’ch anghenion.
Yna byddwn yn ystyried yr argymhellion a’ch amgylchiadau unigol yn seiliedig ar:
- maint yr aelwyd, yn benodol os nad yw’r preswylwyr yn llenwi eiddo y mae galw mawr amdano fel cartref i deulu
- eiddo ar y llawr cyntaf neu uwchben lle nad oes lifft
- effaith yr addasiadau arfaethedig ar y gallu i ddefnyddio’r eiddo yn llawn ac mewn ffordd briodol
- y gwerth am arian, a hefyd ein gallu i ail-osod yr eiddo o ran cost y gwaith
- oes eiddo arall, mwy priodol ar gael
- oes rhwydweithiau cymorth presennol ar gael
- a fydd yr addasiadau yn ateb anghenion y preswylydd yn y tymor hir
- cyfyngiadau o ran y gyllideb
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i’r argymhellion fynd gerbron ein Panel Addasiadau Mawr i wneud y penderfyniad. Byddwn yn rhannu’r diweddaraf am eich cais, bob cam o’r ffordd. Os nad ydym yn gallu addasu eich cartref, byddwn yn anfon llythyr atoch i esbonio’r penderfyniad. Yna bydd ein tîm Tai yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau o ran symud i gartref mwy addas.
Os nad ydych chi’n cytuno â’r penderfyniad, mae gennych hawl i apelio yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod o ddyddiad derbyn ein llythyr.
Contact usGwneud newidiadau
Os ydych chi eisiau gwneud unrhyw newidiadau eraill neu newidiadau strwythurol i’ch eiddo, cysylltwch â ni yn gyntaf i gael ein caniatâd. Mae angen gwneud hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod ein heiddo yn parhau i fod yn ddiogel, ac yn iawn i breswylwyr sy’n byw yno nawr ac yn y dyfodol.
Byddwn yn ystyried pob cais rhesymol gennych i wneud newidiadau i’ch cartref.
Dyma rhai enghreifftiau o newidiadau sydd angen caniatâd:
- newid ffenestri/drysau mewnol neu allanol
- newid cegin/ystafelloedd ymolchi newydd
- gosod erialau/dysglau lloeren
- newid cynllun yr eiddo, er enghraifft, tynnu waliau (byddai angen adroddiad strwythurol gan syrfëwr cyn y gallwn ni rhoi caniatâd i dynnu wal)
- gosodiadau trydanol newydd
- gosod offer coginio nwy, fel ffwrn, neu hob
- trawsnewid llofft
- adeiladu cyntedd
- gosod dreif
- newidiadau i gynllun eich gardd
- addasu neu newid ffensys/waliau ffin presennol
- unrhyw newidiadau i fannau awyr agored y tu allan i’r eiddo
- Gosod Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â ni i roi ychydig o fanylion am yr hyn rydych chi am ei wneud, ac fe ddywedwn ni os bydd angen caniatâd.
Fel rhan o’ch cais, efallai y byddwn yn gofyn i un o’n syrfewyr profiadol archwilio’ch cartref ac asesu’r newidiadau rydych chi am eu gwneud.
If you’re unsure, contact us with some details of what you want to do, and we’ll let you know if our permission is needed.
As part of your request, we may ask one of our experienced surveyors to inspect your home and assess the changes you want to make.
Os byddwn ni’n rhoi caniatâd i chi wneud y newidiadau, bydd angen i chi roi dogfennau neu wybodaeth benodol i ni cyn y gallwch ddechrau’r gwaith.
Yn dibynnu ar ba newidiadau rydych chi am eu gwneud, efallai y gofynnir i chi ddarparu:
- yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- datganiadau dull asesu risg
- arolwg adnewyddu neu ddymchwel (at ddibenion rheoli asbestos)
- manyleb deunyddiau
- Cofrestriad Gas Safe
- Cofrestriad NICEC
- prawf o ganiatâd cynllunio (gan eich cyngor lleol)
Os oes angen rhoi gwybod am y gwaith rydych chi am ei wneud o dan Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli), eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cael gwybod. Gallwch chi neu’ch contractwr (yr un ‘sydd â dyletswydd’) wneud hyn.
Mae angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw waith rydych chi’n ei wneud yn cael ei reoli’n briodol ac yn sicrhau iechyd a diogelwch unrhyw un y gallai’r gwaith effeithio arnynt, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd.
Os bydd unrhyw waith yn cael ei wneud heb ganiatâd, efallai y bydd angen i chi ddychwelyd yr eiddo i’w gyflwr gwreiddiol, neu byddwn yn gwneud y gwaith ac yn gorfod codi tâl arnoch.
Gwneud cais i wneud newidiadau
I wneud cais cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Byddwn yn anfon popeth sydd ei angen arnoch i gwblhau eich cais.
Unwaith y rhoddir caniatâd, bydd gennych chwe mis i gwblhau’r gwaith.
Cofiwch, efallai na fydd pob newid yn cael ei gymeradwyo.
Cysylltwch â ni