English
English

Cymerwch ran

Rydym wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n hawdd i chi gymryd rhan, rhannu eich barn a helpu i lunio ein gwasanaethau.

Ar y dudalen hon

Mae’r cymunedau gorau’n cael eu siapio gan y bobl sy’n byw ynddynt. Mae eich llais yn bwysig. Ac rydym wedi ymrwymo i’w gwneud hi’n hawdd i chi gymryd rhan, rhannu eich barn a helpu i lunio ein gwasanaethau.

Mae rhywbeth at ddant pawb, beth bynnag yw eich diddordebau neu ba mor aml ydych chi ar gael.

Buzz: ein panel trigolion

Grŵp o 13 o wirfoddolwyr o blith trigolion yw Buzz sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda ni i wella ein gwasanaethau. Mae eu gwaith yn cynnwys:

  • Cydweithio â gweithwyr Hedyn i gefnogi ‘Ein haddewid i chi’ a diffinio safonau gwasanaeth, megis sicrhau bod cartrefi yn ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy.
  • Ein cadw ni at ein haddewidion ac adolygu ein perfformiad mewn cyfarfodydd rheolaidd.
  • Cynnal gweithdai gyda gweithwyr Hedyn i rannu’r hyn sy’n bwysicaf i’r gymuned.
  • Rhoi sicrwydd i Hedyn ein bod ni’n gwneud neu ddim yn gwneud, y peth iawn.

Grwpiau ymgynghorol

Mae ein grwpiau ymgynghorol yn dod â thrigolion at ei gilydd i archwi-lio pynciau allweddol yn fwy manwl. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i:

  • ddysgu mwy am y gwaith rydyn ni’n ei wneud
  • rhannu eich profiadau’n uniongyrchol gyda’n timau
  • helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau a blaenoriaethau
  • rhoi adborth uniongyrchol ar bolisïau a chynlluniau

Sut i gymryd rhan

Os hoffech chi gymryd rhan yn ein grwpiau preswyl neu ddysgu mwy am ein cyfleoedd eraill, ffoniwch ni a’n Tîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid, a byddant yn dweud mwy wrthych.

Cysylltu â ni

Grwpiau ffocws

Eisiau cyfrannu mewn ffordd fwy ymarferol? Mae ein grwpiau ffocws a’n paneli cyd-gynhyrchu yn rhoi cyfle i chi weithio’n agos gyda ni i ddylunio a gwella gwasanaethau. Gallech helpu i lunio atebion a phrofi syniadau, i gael effaith wirioneddol ar sut mae gwasanaethau a’n haddewid yn cael eu cyflawni.

Rhannwch eich adborth

Os oes well gyda chi rywbeth cyflym a hyblyg, gallwch barhau i leisio barn gydag:

  • arolygon a holiaduron
  • polau cyflym a cheisiadau am adborth
  • adolygiadau bodlonrwydd cwsmeriaid
  • grwpiau ffocws ynglŷn â phynciau tymhorol wrth iddyn nhw godi

Mae’r rhain yn ffyrdd syml o ddweud wrthym beth sy’n gweithio, a beth y gallem ei wneud yn well.

Our Digital Inclusion business partner shares a demonstration on a mobile phone to a customer

Ein haddewid i chi

Fe ddywedoch chi wrthym ba wasanaethau sydd bwysicaf i chi a’r hyn yr ydych chi am i ni ganolbwyntio arnynt i’w gwella.

Ynghyd â Buzz – ein panel cwsmeriaid – fe wnaethom ddefnyddio’r hyn a ddywedoch i wneud yr addewidion hyn i chi.

Mwy o wybodaeth
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am