English
English

Ein perfformiad

Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw am ein gwaith a’n perfformiad wrth gyflawni ein gweledigaeth, ein nodau a'n blaenoriaethau.

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

Mae’r adroddiad blynyddol yn giplun ar ein perfformiad dros y 12 mis diwethaf, ac mae’r datganiadau ariannol yn grynodeb o faint rydyn ni wedi’i wario i wneud popeth.

Gyda’i gilydd, maent yn gadael i breswylwyr a rhanddeiliaid adolygu ein perfformiad a’i gymharu â chymdeithasau eraill.

Darllenwch ein Adroddiad Blynyddol 2025-26

Dyfarniad Rheoleiddio

Mae’r dyfarniad rheoleiddio hwn yn amlinellu barn Llywodraeth Cymru am ba mor dda y mae Hedyn yn perfformio mewn perthynas â’r safonau rheoleiddio.

Dyddiad: Medi 2025

Dyfarniad

  • Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau: Gwyrdd – Mae’r landlord yn bodloni ein gofynion
  • Hyfywedd Ariannol: Gwyrdd – Mae’r landlord yn bodloni ein gofynion
Darllenwch y dyfarniad

Hunanwerthuso

Mae Hedyn yn cael ei reoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac mae’n dilyn y Fframwaith Rheoleiddio.

Bob blwyddyn rydym yn paratoi ein hunanwerthusiad ac yn ei gyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys ein barn am ein perfformiad yn erbyn y safonau rheoleiddio. Mae’n eiddo i’n Bwrdd ac mae’n cwmpasu pob agwedd, o sut yr ydym yn gweithio, y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu, a’r ffordd yr ydym ni’n cael ein rheoli, i sut rydyn ni’n parhau i fod yn gadarn yn ariannol.

Rydym yn cymryd gofal i ddefnyddio ein mewnwelediad, deallusrwydd ac adborth diweddaraf i lywio ein hasesiad. Gydag adborth gan breswylwyr yn ganolog i hyn, rydym yn cyfleu sut rydyn ni’n perfformio mewn ffordd agored a gonest.

Nid yw’n ymarfer untro. Rydym yn adolygu ein hunanwerthusiad trwy gydol y flwyddyn, a’i ddefnyddio i gefnogi gwelliant parhaus. Ar y cyfan, rydyn ni’n credu ein bod ni’n perfformio’n dda. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni wneud mwy i wella.

Darllen ein gwerthisiad
Hedyn colleagues and residents stand in front of the Hedyn bus.

Ein Strategaeth

Mae ein Strategaeth yn nodi ein dyheadau i adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda. Mi fydd yn ein tywys drwy’r blynyddoedd nesaf, felly byddwn yn canolbwyntio’n ddiamheuol ar y weledigaeth hon.

Ein Strategaeth

Ein hymrwymiadau

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnawn.

Darllenwch ein haddewidion i gael gwybod fwy am ein hymrwymiadau.

Mwy o wybodaeth
Lliswerry pond in Newport
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am