Ffyrdd o dalu eich rhent
Dyma amrywiaeth o ffyrdd i dalu. Gallwch ddewis talu yn y ffordd sydd orau i chi.
Debyd Uniongyrchol
Dyma ffordd syml a diogel o dalu.
Gallwn eich helpu i drefnu hyn, cysylltwch â ni.
Talu ar-lein
I dalu ar-lein, cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i’ch taliad.
Porth preswylwyr
Os oes gennych gyfrif eisoes, mewngofnodwch i’ch porth preswylwyr.
Os nad oes gennych gyfrif eto, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Swyddfa'r Post a PayPoint
Os yw’n well gennych dalu fel hyn, cysylltwch â ni i ofyn am god bar.
Yna dewch o hyd i leoliad eich PayPoint agosaf.
Dros y ffôn
I dalu dros y ffôn, ffoniwch 0300 1212 345.
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif cyfeirnod eich tenantiaeth.
Wyneb yn wyneb
Gallwch hefyd dalu eich rhent wyneb yn wyneb yn un o’n swyddfeydd.
Edrychwch i weld pa ddiwrnodau ac amseroedd rydyn ni ar agor er mwyn galw heibio neu drefnu apwyntiad.
Rydym yn sefydliad nid-er-elw, a’ch rhent yw ein prif ffynhonnell incwm. Mae’r arian rydyn ni’n ei gael yn mynd yn ôl yn bennaf i gynnal y cartrefi rydyn ni’n eu rheoli. Mae hefyd yn ein helpu i adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy i bobl yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Cyngor ariannol
Gadewch i’n Harbenigwyr Ariannol cyfeillgar eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt, sut i’w hawlio, a beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o’i le.
Cael cyngor
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp