Rydyn ni’n adeiladu:
- 22 cartref ag un ystafell wely
- wyth cartref â dwy ystafell wely
Bydd hefyd 30 lle i barcio ar y safle a system storio â tho gwyrdd ar gyfer biniau a beiciau.
Mae Crawford Street yn lleoliad gwych. Dim ond taith fer ar droed i ganol dinas Casnewydd, ac mewn lleoliad cyfleus ger parc, ysgolion a siopau lleol.
Mae ardal Glan yr Afon yn cynnig llwybrau gwastad, diogel i gerdded a rhedeg, ac mae prif gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd gerllaw (bws a thrên).
Ein partneriaid
Crawford Street
Cyfeiriad Stryd Crawford, Casnewydd NP19 7AY Cyfarwyddiadau
Cronfa Budd Cymunedol
Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol neu brosiect lleol yn yr ardal hon?
Gallai ein cronfa budd cymunedol helpu i gefnogi unrhyw brosiectau neu syniadau sydd gennych.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cartrefi newydd rydyn ni’n eu hadeiladu, cysylltwch â ni.
Cysylltu â Hedyn:
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp