English
English

Addasu pwysedd eich boeler

Gwyliwch ein tiwtorial cam wrth gam cyflym, neu ei ddarllen, i ddysgu sut i addasu pwysedd eich boeler.

Weithiau, gall gollwng aer o’ch rheiddiaduron achosi pwysedd eich boeler i ostwng. Pan fydd hyn yn digwydd, ni fydd yn gweithio tan i chi gynyddu’r pwysedd eto.

Fideo: Sut i addasu pwysedd eich boeler

Mae’r fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig gyda captions Cymraeg ar gael.

Hyd y Fideo:3 munud 13 eiliadau

Cam wrth gam: Sut i addasu pwysedd eich boeler

Ar flaen eich boeler mae mesurydd pwysedd. Mae hyn yn dweud beth yw pwysedd eich boeler. Mae pwysedd boeler yn cael ei fesur mewn ‘bariau’, ac mae pwysedd boeler da rhwng 1 a 1.5 bar. Os ydych chi’n sylwi bod eich boeler wedi gostwng o dan 1 bar, bydd angen i chi ei gynyddu.

Mae hyn yn hawdd:

  1. O dan eich boeler mae peipiau a falfiau. Dyma’r falfiau llenwi a byddant yn cynyddu pwysedd y boeler. Trowch y falf wrthglocwedd, un chwarter ar un beipen a defnyddiwch sgriwdreifer i addasu’r sgriw ar y llinyn bleth.
  2. Fe glywch sŵn yn dod o’r boeler. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n gwneud popeth yn iawn. Gwyliwch y mesurydd pwysedd ar flaen y boeler ac fe welwch ef yn codi.
  3. Unwaith y bydd y nodwydd yn cyrraedd rhwng 1 – 1.5 bar, gallwch dynhau’r sgriw eto. Yna, addaswch y falf yn ôl i’w safle cychwynnol.
  4. Bydd eich boeler nawr yn gweithio, a bydd y pwysedd ar lefel dda. Os ydych chi wedi ei lenwi’n uwch na’r bar 1.5, gallwch ollwng aer o reiddiadur i leihau’r pwysedd.

Os oes gennych ofidion am bwysedd eich boeler, neu os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus yn gwneud hyn ar eich pen eich hun, cysylltwch â ni. Rydyn ni yma i helpu.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cartrefi newydd rydyn ni’n eu hadeiladu, cysylltwch â ni.

Cysylltu â Hedyn:

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
A Hedyn colleague adjusting one of our boilers.

Get to know your boiler

The boiler is an important part of your home for providing you with heating and/or hot water.

It’s helpful to know how it works, so you can make sure it’s in good working order.

Find out more
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am