Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gasglu eich deunydd i’w hailgylchu a’ch sbwriel. Ewch i wefan eich cyngor i weld pa ddiwrnodau y mae eich casgliadau chi.
Dewch o hyd i’ch awdurdod lleol:
Helpwch i gadw’ch stryd yn lân ac yn daclus
Pan fydd sbwriel yn cael ei adael i gronni, neu nid yw’n cael ei waredu’n ofalus, gall achosi risg a denu plâu fel llygod mawr.
Cofiwch:
- Rhowch eich bin allan i’w gasglu ar y diwrnod iawn.
- Rhowch eich bin i ffwrdd cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei wagio.
- Marciwch eich bin mewn rhyw ffordd fel eich bod chi’n gwybod pa fin yw eich bin chi.
- Os yw’ch bin yn troi drosodd a sbwriel ar y stryd, yn yr ardal storio biniau neu’r ardd – cofiwch ei lanhau!
Os ydych chi’n gweld sbwriel yn chwythu o amgylch eich stryd, helpwch i gadw’r gymdogaeth yn daclus a’i godi. Os ydy pob un ohonom yn gwneud ein rhan mae’n helpu i gadw ein stryd a’r ardal lle rydyn ni’n byw yn lân ac yn daclus.
Trefnwch gasgliadau arbennig gyda’ch cyngor lleol cyn gynted â phosibl ar gyfer sbwriel swmpus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i gael gwared ar eitemau diangen o’ch cartref a sbwriel sy’n fwy na’r casgliadau arferol.
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddelio â’r rhan fwyaf o fathau o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach, ar dir sy’n eiddo i’r cyhoedd, gan gynnwys ffyrdd a mannau tynnu i mewn.
Ailgylchu
Dillad a thecstilau
Gallwch fynd â’r rhain i siopau elusen neu fanciau dillad. I ddod o hyd i’ch un agosaf, ewch i wefan eich awdurdod lleol a chwiliwch am ‘banc dillad’.
Batris
Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd gyfleuster ailgylchu batris lle gallwch adael eich hen fatris.
Canolfannau Ailddefnyddio ac Ailgylchu
Os oes gennych fynediad at gerbyd, gallwch fynd â sbwriel a deunyddiau i’w hailgylchu, neu eitemau trydanol bach, nwyddau gwyn, hen feiciau ayb. i un o’r canolfannau lleol. Mae’r rhan fwyaf ohonynt trwy drefniant ymlaen llaw, a gallwch drefnu slot trwy wefan yr awdurdod lleol.
Y buddion
Trwy ailgylchu cymaint ag y gallwch a thrwy gadw eich stryd yn glir o sbwriel, gallwch:
- arbed ynni
- arbed arian
- atal clefydau
Rheoli eiddo
Mae ardaloedd cymunol yn cael eu harchwilio a’u glanhau’n rheolaidd yn rhan o’n gwasanaeth rheoli ystadau.
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp