Mae asbestos yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth adeiladu cartrefi cyn diwedd y 1990au. Efallai bod asbestos yn rhai o’n cartrefi, ond nid oes angen poeni fel arfer.
Mae asbestos yn ddiogel pan fydd mewn cyflwr da ac wrth adael llonydd iddo. Nid yw’n risg heblaw ei fod yn cael ei ddifrodi neu wrth beidio â gadael llonydd iddo. Gall hyn rhyddhau ffibrau i’r aer.
Cynllunio gwaith yn eich cartref
Os ydych chi’n ystyried gwneud newidiadau i’ch cartref, fel drilio, gosod gosodiadau newydd neu wneud gwaith DIY, cysylltwch â ni cyn i chi ddechrau. Gallwn edrych yn ein cofnodion a dweud a oes asbestos, o bosib, yn bresennol.
Pan fyddwn yn gwneud atgyweiriadau neu welliannau yn eich cartref, rydym yn defnyddio gwybodaeth am asbestos ac yn dilyn rheolau diogelwch llym i’ch diogelu chi, eich cartref a’n cydweithwyr.
Cofiwch fod yn rhaid i chi gael caniatâd cyn gwneud newidiadau i’ch cartref. Os bydd gwaith yn cael ei wneud heb ein caniatâd, efallai y byddwch yn gyfrifol am unrhyw gostau.
Cwestiynau cyffredin
Mae’r rhan fwyaf o waith addurno yn ddiogel, ond os nad ydych yn siŵr a allai eich cynlluniau effeithio ar ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i roi cyngor.
Cysylltwch â ni ar unwaith. Peidiwch â cheisio atgyweirio, ysgubo neu ddefnyddio peiriant sugno llwch i gael gwared ar y deunydd eich hun. Gallai hyn ryddhau ffibrau i’r awyr.
Os yw deunyddiau sy’n cynnwys asbestos heb eu difrodi ac mewn cyflwr da, maent yn ddiogel i aros yn eich cartref.
Cysylltwch â ni
P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.
Cysylltu â Hedyn hello@hedyn.cymru 0300 1212 345 WhatsApp