English
English

Cyngor ariannol

Gall siarad am arian fod yn anodd ac yn straen. Gadewch i’n Harbenigwyr Ariannol cyfeillgar eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt, sut i’w hawlio, a beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o’i le.

Dyw llawer o bobl ddim yn hawlio popeth sydd ganddyn nhw hawl iddo oherwydd eu bod yn meddwl na fyddan nhw’n gymwys neu dydyn nhw ddim yn siŵr ble i ddechrau.

Mae’r hyn y gallwch ei hawlio’n dibynnu ar bethau fel:

  • eich incwm
  • iechyd
  • a ydych chi’n gweithio
  • ydych chi’n gofalu am rywun
  • a’ch costau tai

Rydym yn deall bod materion ariannol yn aml yn dod â straen emosiynol. Mae ein cynghorwyr i gyd yn dosturiol, ac yn rhoi parch. Gall cael cyngor yn gynnar wneud gwahaniaeth go iawn, mae teimlo cefnogaeth yn eich galluogi i fyw’n dda yn eich cartref a’ch cymuned.

Sut allwn ni helpu

Cyngor ariannol y gallwch ymddiried ynddo.

Ein nod yw darparu gwasanaeth cyngor o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y person, i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Gallwn eich helpu chi i:

  • wneud cais am fudd-daliadau i dalu eich rhent
  • herio penderfyniadau budd-daliadau, apeliadau a thribiwnlysoedd
  • lleihau eich treth cyngor
  • cyrchu grantiau elusennol
  • cyllidebu a gwneud y mwyaf o’ch incwm
  • cymorth ariannol yn ystod profedigaeth a mwy

Fe wnawn ni eich helpu i gael y gefnogaeth sydd ei angen arnoch, beth bynnag fo’ch sefyllfa ariannol. Gallwn gynnig apwyntiadau yn ein swyddfeydd, gartref, neu yn y gymuned, cewch chi ddewis.

Defnyddiwch gyfrifwr budd-daliadau annibynnol nawr i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael i chi, neu cysylltwch â ni i gael cyngor.

Dolenni allanol

Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth ariannol trwy’r dolenni canlynol:

One of our helpful advisors taking a call in our contact centre.

Cysylltwch â ni

P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am