English
English

Cyngor ynni

Sut allwn ni helpu

Gall cynghorydd eich helpu i gadw’n gynnes, tra’n cadw biliau mor isel â phosibl.

Byddan nhw’n eich helpu i:

  • ddeall eich biliau ynni
  • gwirio eich bod ar y tariff gorau
  • siarad â’ch cyflenwr os ydych chi’n cael trafferth talu
  • gweld a ydych chi’n gymwys i gael grantiau

Cyngor y gallwch ymddiried ynddo

Mae ein cyngor:

  • am ddim
  • yn gyfrinachol ac yn broffesiynol
  • yn anfeirniadol
  • dan ymbarél Yswiriant Indemniad Proffesiynol

Os ydych eisoes mewn cysylltiad ag un o dîm Hedyn, gallwch siarad â nhw’n uniongyrchol a gofyn iddynt eich cyfeirio at ein Tîm Incwm a Chynhwysiant. Neu gallwch gysylltu â ni a byddwn yn eich cysylltu â’r tîm.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymunedau

Gallwn hefyd eich helpu i gysylltu â:

  • chymorth digidol
  • gwasanaethau cymunedol lleol
  • cymorth bwyd cymunedol
  • partneriaethau annibynnol lleol
  • cymorth gyda dyled a gamblo
  • cymorth iechyd meddwl

Os nad ydych chi’n siŵr beth sydd ei angen arnoch chi, mae hynny’n iawn – cysylltwch â ni ac fe wnawn ni eich helpu i gymryd y cam nesaf.

One of our helpful advisors taking a call in our contact centre.

Cysylltwch â ni

P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am