English
English

Diogelu

Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cartref a’u cymuned.

Beth yw diogelu?

Mae diogelu yn golygu:

  • cadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel rhag niwed
  • atal camdriniaeth, esgeulustod, ecsbloetio a gwahaniaethu
  • cefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol

Mae’n golygu gofalu am ein gilydd a gwneud yn siŵr fod help ar gael pan fydd ei angen.

Mae yna sawl math o gamdriniaeth, gan gynnwys:

  • cam-drin corfforol neu emosiynol
  • cam-drin neu ecsbloetio ariannol
  • esgeulustod
  • cam-drin domestig
  • troseddau casineb neu aflonyddu

Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu rywun arall, mae’n bwysig siarad. Rydyn ni yma i wrando arnoch ac i’ch helpu.

Sut gallwn ni helpu

Mae ein timau wedi’u hyfforddi i adnabod pryderon diogelu ac i ymateb yn briodol. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, gwasanaethau cymorth a gwasanaethau brys, pan fo angen.

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 bob amser. Am gymorth gan yr heddlu pan nad yw’n argyfwng, gallwch ffonio 101.

Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun, neu ddiogelwch rhywun arall, cysylltwch â ni.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Popeth sydd angen i chi ei wybod am roi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys sut rydym yn rheoli eich achos.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol
One of our helpful advisors taking a call in our contact centre.

Cysylltwch â ni

P’un a ydych yn breswylydd newydd neu eisiau mwy o wybodaeth am Hedyn, bydd ein Hwb Profiad Cwsmeriaid yn fwy na pharod i’ch helpu.

Cysylltu â Hedyn 0300 1212 345 WhatsApp
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am