English
English

Tipio anghyfreithlon

Rydyn ni i gyd eisiau bod yn falch o’n bro. Gall tipio anghyfreithlon gael effaith fawr ar ein cymunedau, gan wneud i leoedd deimlo’n anniogel, fel pe na bai unrhyw un yn poeni amdanynt, ac yn llai pleserus i bawb.

Tipio anghyfreithlon yw gollwng sbwriel yn anghyfreithlon ar dir sydd ddim wedi’i awdurdodi i’w dderbyn. Mae’n edrych yn salw, ond gall hefyd niweidio’r amgylchedd a denu plâu digroeso.

Ein ffordd o weithio

Mae cadw ein cymunedau’n lân yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Byddwn yn:

  • ymateb yn gyflym pan fydd rhywun yn riportio achos o dipio anghyfreithlon yn ein hardaloedd
  • gweithio gyda chynghorau lleol a phartneriaid i gael gwared ar wastraff yn ddiogel
  • cymryd camau i atal problemau rhag codi eto
  • cefnogi ein preswylwyr i gael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau iawn

Sut allwch chi helpu?

Gallwn ni i gyd wneud ein rhan i atal tipio anghyfreithlon. Gallwch chi helpu drwy:

  • ddefnyddio’r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu cywir a ddarperir gan eich cyngor lleol
  • trefnu casgliadau gwastraff swmpus yn hytrach na gadael eitemau y tu allan
  • peidio ag ychwanegu at bentyrrau o sbwriel sydd wedi’u gollwng yn barod
  • riportio tipio anghyfreithlon cyn gynted ag y byddwch chi’n ei weld

Riportio tipio anghyfreithlon

Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr i’ch cymuned. Os ydych chi’n gweld tipio anghyfreithlon, rhowch wybod i ni.

Gan ddibynnu ar y sefyllfa, efallai y byddwn yn gweithio gyda’ch cyngor lleol, sy’n gyfrifol am ymchwilio i achosion o dipio sbwriel yn anghyfreithlon a rhoi mesurau gorfodi ar waith.

Cysylltwch â ni

Angen cael gwared ar rywbeth?

Os oes gennych eitemau mawr neu ddiangen, mae yna ffyrdd diogel a chyfreithlon o gael eu gwared:

  • trefnwch gasgliad gwastraff swmpus gan eich cyngor lleol
  • ewch ag eitemau i ganolfan ailgylchu
  • rhowch eitemau sydd mewn cyflwr da o hyd i rywun arall
  • defnyddiwch gwmnïau cludo gwastraff trwyddedig

Gall gadael eitemau y tu allan heb drefnu casgliad gael ei weld fel tipio anghyfreithlon.

Gwasanaethau Preswylwyr

Popeth sydd ei angen arnoch mewn un lle, gan gynnwys sut i dalu eich rhent, trefnu atgyweiriad neu wneud newidiadau i’ch contract.

Preswylwyr
Gan Everglow Nôl adref Chwiliwch yma Mae pobl yn aml yn chwilio am