Cyflwyniad
Mae Hedyn yn berchen ar fathau gwahanol o gartrefi lle mae’n codi rhent ac yn eu rheoli. Mae hefyd yn codi rhent am adeiladau masnachol a garejys.
Ar gyfer rhai o’r cartrefi hyn mae yna daliadau gwasanaeth yn ychwanegol at y rhent. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer lesddeiliaid a rhydd-ddeiliaid sydd wedi prynu eu cartrefi ac maent yn talu tâl gwasanaeth amdanynt. Mae’r polisi hwn yn nodi dull gweithredu Hedyn wrth osod rhen a thaliadau gwasanaeth a sicrhau fforddiadwyedd.
Mae’r polisi yn cydymffurfio â gofynion Safon rhent a thaliadau gwasanaeth 2026 i 2036.
Y prif fath o eiddo i’w rentu sydd ar gael gan Hedyn yw Tai Rhent Cymdeithasol. Mae’r polisi hwn yn cyflwyno’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo rhenti cymdeithasol, sy’n sicrhau bod Hedyn yn gallu parhau i uchafu ei chyfraniad at ei chymunedau, a sicrhau bod rhenti’n dal i fod yn deg, yn dryloyw ac yn fforddiadwy ar bob adeg.
Mae cynhyrchu incwm yn ein helpu i ddarparu ein cartrefi a’n safleoedd masnachol, a’u cynnal. Mae’n sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein trigolion, cymunedau, cenedlaethau’r dyfodol a thenantiaid masnachol.
Cwmpas
Mae’r polisi hwn yn cyflwyno ein ffordd o asesu fforddiadwyedd rhenti cymdeithasol. Mae ein ffordd o weinyddu taliadau gwasanaeth wedi’i nodi yn y polisi taliadau gwasanaeth cysylltiedig.
Diffiniadau allweddol
Taliad rheolaidd sy’n rhan o gontract, y mae gan landlord yr hawl i’w gael yn gyfnewid am ddefnyddio’r safle a meddiannu’r safle.
Mae tâl gwasanaeth yn daliad tuag at gostau darparu gwasanaethau a chynnal a chadw gwasanaethau a buddion y tu hwnt i feddiannu eiddo.
Y term a ddefnyddir i gyfeirio at bobl sy’n byw yn ein cartrefi.
Adeilad neu dir a ddefnyddir at ddibenion busnes neu gynhyrchu incwm yn bennaf, yn hytrach nag at ddibenion preswyl.
Rhent sy’n sefydlu cysylltiad rhwng y lefel y mae wedi’i osod arni a gallu’r preswylwyr i’w dalu.
Methodoleg safonol sy’n addasu incwm yr aelwyd i ystyried gofynion gwahanol o ran adnoddau ariannol sydd gan fathau gwahanol o aelwydydd.
Mae’r uchafswm rhent a ganiateir yn codi bob blwyddyn i bob eiddo sy’n ddarostyngedig i Safon Renti Llywodraeth Cymru.
Datganiad ymgysylltu (preswylwyr)
Atebolrwydd cyffredinol am sicrhau bod Hedyn yn bodloni ei rhwymedigaethau cyfreithiol a chymeradwyo’r polisi hwn.
Atebolrwydd strategol cyffredinol a chyfrifoldeb am sicrhau bod Hedyn yn bodloni ei rhwymedigaethau cyfreithiol ynghylch gosod
rhenti a thaliadau gwasanaeth.
Cyfrifoldeb gweithredol cyffredinol fod y polisi yn cael ei weithredu’n effeithiol ac yn dal i fod yn berthnasol, wedi’i ddiweddaru ac ar gael i’r
rhanddeiliaid y mae wedi’i fwriadu ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys monitro, adolygu a sicrhau y darperir yr hyfforddiant a nodir.
Cyfrifoldeb gweithredol cyffredinol fod y polisi yn cael ei weithredu’n effeithiol ac yn dal i fod yn berthnasol, wedi’i ddiweddaru ac ar gael i’r
rhanddeiliaid y mae wedi’i fwriadu ar eu cyfer.
Mae hyn yn cynnwys monitro, adolygu a sicrhau y darperir yr hyfforddiant a nodir.
Gweithio’n agos gyda’r tîm cyllid er mewn gwirio a chydbwyso’r modelu rhifiadol.
Egwyddorion
Ein nod yw sicrhau bod ein trigolion yn gallu byw’n dda yn eu cartrefi.
Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddorion canlynol:
- Fforddiadwy: Byddwn yn ystyried cyfanswm costau rhentu cartrefi ac incwm er mwyn deall beth sy’n fforddiadwy i’n preswylwyr a sicrhau bod gan breswylwyr y cyfle gorau i gadw’u tenantiaeth ac i ffynnu.
- Cynaliadwy: Byddwn yn gosod rhenti a thaliadau gwasanaeth sy’n ein galluogi i barhau i ddarparu cartrefi cynnes, diogel o ansawdd uchel ar gyfer y bobl y mae eu hangen arnynt yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
- Ymgysylltu: Byddwn yn cynnwys preswylwyr wrth ddatblygu ac adolygu in ffordd o osod rhenti ac i oleuo ein penderfyniadau am renti.
- Teg: Byddwn yn sicrhau bod rhenti a thaliadau gwasanaeth yn cael eu gosod yn deg a bod ein cartrefi a’n gwasanaethau yn sicrhau gwerth am
arian. - Atebol: Byddwn yn agored, yn dryloyw ac yn atebol wrth ddod i benderfyniadau am renti a thaliadau gwasanaeth.
Rhen Cymdeithasol - Dull Asesu Fforddiadwyedd
Rhenti Cymdeithasol yw’r term yr ydym yn ei ddefnyddio i gyfeirio at ein prif fath o dai rhent.
Bydd Hedyn yn mabwysiadu Model Rhenti Byw Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) fel y dull sylfaenol craidd ar gyfer asesu fforddiadwyedd rhent i gwsmeriaid tai cymdeithasol. Mae’r Model wedi’i gynllunio ar yr egwyddor bod rhent yn anfforddiadwy os yw preswylwyr ar incwm isel yn gwario mwy na 28% o’u hincwm ar rent neu’n gwario mwy na 33% o’u hincwm ar eu rhent a thaliadau gwasanaeth cysylltiedig gyda’i gilydd.
Mae’r fethodoleg hon yn gofyn am ddefnyddio data am incwm cyfartalog. Bydd Hedyn yn defnyddio Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion (ABOE) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gyfrifo data am incwm gan ddefnyddio’r ffigurau ar gyfer y rheiny sydd yn y 25% isaf o ran enillion. Yn unol â methodoleg Rhenti Byw Sefydliad Joseph Rowntree, rydym yn ystyried bod rhenti yn fforddiadwy pan nad ydynt yn fwy na 28% o incwm net aelwydydd sydd ar incwm is, ar sail data am enillion lleol. Yn yr un modd, ystyrir bod taliadau gwasanaeth yn fforddiadwy pan nad yw cyfanswm costau tai (rhent ynghyd â thaliadau gwasanaeth) yn fwy na 33% o’r incwm.
Byddwn yn cymhwyso’r ffigwr isaf naill ai o’r data ABOE am un flwyddyn, data ABOE cyfartalog am 3 blynedd neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol (pa un bynnag sydd fwyaf manteisiol i breswylwyr.)
Bydd data ABOE yn cael eu segmentu ar gyfer Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Phowys fel eu bod yn berthnasol i bob ardal benodol.
Ar gyfer eiddo mwy neu lai, bydd Hedyn yn defnyddio offeryn a ddatblygwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i addasu’r data am incwm. Mae’r offeryn hwn yn ystyried cyfansoddiad nodweddiadol teuluoedd sy’n cael eu dyrannu i eiddo o faint a math penodol. Ceir manylion y ffordd y mae’r offeryn yn dyrannu gwerthoedd i fathau gwahanol o eiddo yn
atodiad 1.
Mae’r fethodoleg Rhenti Byw wedi’i gwirio i sicrhau ei bod yn deg ac yn fforddiadwy i holl breswylwyr Hedyn.
Bydd Hedyn hefyd yn sicrhau bod rhenti cymdeithasol yn dal i fod yn fforddiadwy o’u cymharu â rhenti ar y farchnad leol.
Cydgyfeirio gyda'r Rhent Byw
Bydd y rhent ar gyfer pob cartref rhent cymdeithasol newydd, gan gynnwys trosglwyddiadau mewnol, yn cael ei osod ar lefel y rhent byw fforddiadwy.
Mae Hedyn wedi ymrwymo i alinio’r holl renti cymdeithasol cyfredol â’r asesiad rhent byw fforddiadwy. Er mwyn gwneud hyn bydd Hedyn yn sicrhau bod y cynnydd rhent cyfartalog ar gyfer ei holl eiddo yn dod o fewn yr amlen rhent a ddarperir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Er mwyn alinio’r rhenti cymdeithasol cyfredol â’r asesiad rhent byw fforddiadwy, bydd gofyn gwneud addasiadau dros nifer o flynyddoedd a byddant yn cael eu cymhwyso trwy’r broses cynyddu rhent flynyddol. Ni fydd Hedyn yn cynyddu rhent yn fwy na Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (CPI) + 1% a swm yn ôl disgresiwn o £2.55 yr wythnos fel y nodir yn Safon rhent a thaliadau gwasanaeth 2026 i 2036.
Gallai’r ffigwr hwn o £2.55 yr wythnos gynyddu yn amodol ar chwyddiant ac ar ôl dod i gytundeb â LlC. Os yw rhent preswylydd yn is na’r asesiad Rhent Byw fforddiadwy, bydd y rhent yn codi bob blwyddyn yn ôl y ganran gynnydd y cytunwyd arni, ynghyd ag uchafswm o £2.55 yr wythnos ar ben hynny.
Os yw rhent preswylydd yn uwch na’r asesiad rhent byw fforddiadwy, bydd rhent naill ai’n cael ei rewi neu ei leihau bob blwyddyn gan uchafswm o £2.55 yr wythnos nes bod y rhent yn cyd-fynd â’r asesiad rhent byw fforddiadwy. Bydd y penderfyniad i naill ai rewi neu leihau rhent yn cael ei wneud yn flynyddol.
Unwaith y bydd rhent preswylydd yn cyd-fynd â’r asesiad rhent byw fforddiadwy, bydd rhent yn codi bob blwyddyn yn ôl y cynnydd canran y cytunwyd arno a osodwyd gan LlC.
Bydd adroddiad gerbron bwrdd Hedyn bob blwyddyn am y cynnydd o ran alinio’r rhent presennol trwy’r broses cynnydd rhent blynyddol.
Eiddo sydd ddim yn Eiddo rhent byw
Mae eiddo lle na fydd y rhent byw yn berthnasol wedi’u nodi yn Atodiad 2.
Taliadau gwasanaeth
Mae model rhenti ryw Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) yn nodi na ddylai preswylydd wario mwy na 33% o’i incwm ar ei rent a thaliadau gwasanaeth cysylltiedig gyda’i gilydd.
Pan fo rhent o fewn y trothwy fforddiadwy o 28% o incwm net aelwydydd sydd ag incwm is, ond mae cost cyfunol rhent a thaliadau gwasanaeth yn fwy na 33% o’r incwm net, bydd y tâl gwasanaeth yn cael ei gapio neu ei ostwng i ddod â chyfanswm costau tai o fewn y terfyn fforddiadwyedd.
Ni fydd cap ar daliadau gwasanaeth lle gofynnwyd am wasanaethau dewisol ychwanegol.
Er bod Hedyn wedi ymrwymo i leihau’r holl daliadau gwasanaeth a sicrhau eu bod yn cyflawni ein hegwyddorion gwerth am arian, bydd rhai eiddo yn eistedd y tu allan i’r model rhent byw ac maent wedi’u rhestru yn Atodiad 3 gyda manylion sy’n nodi pam nad ydynt wedi’u cynnwys.
Cymorth ychwanegol i breswylwyr
Nod Hedyn yw sicrhau nad oes unrhyw breswylwyr dan anfantais a’u bod yn cael eu cefnogi i gadw eu tenantiaeth a’u cartref.
Bydd preswylwyr sy’n profi caledi ariannol yn cael cymorth wedi’i deilwra’n benodol i’w hanghenion unigol.
Model busnes cynaliadwy
Bydd Hedyn yn ymdrechu i sicrhau bod rhent a thaliadau gwasanaeth yn deg ac yn fforddiadwy i bob preswylydd, ac yn sicrhau ar yr un pryd ei bod yn sicrhau digon o incwm i gyflawni ei hymrwymiadau i breswylwyr.
Bydd yr asesiad rhent byw fforddiadwy yn cael ei adolygu’n flynyddol, er mwyn sicrhau ei fod yn dal i fod yn deg ac yn galluogi Hedyn i ddarparu gwasanaethau yn unol â’i hymrwymiadau.
Mae angen adeiladu’r hyblygrwydd hwn o fewn y polisi gosod rhenti cymdeithasol hwn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar gynaliadwyedd ariannol hirdymor Hedyn.
Ymgynghoriad â phreswylwyr
Mae’r polisi hwn a’r fethodoleg fforddiadwyedd a fabwysiadwyd wedi’u datblygu ar sail ymgynghoriad â phreswylwyr.
Bydd Hedyn yn cynnal rhaglen barhaus o ymgysylltiad â phreswylwyr yn rhan o asesiad fforddiadwyedd rhent blynyddol ac ystyriaethau gwerth am arian. Bydd adroddiad gerbron y Bwrdd am ganfyddiadau’r gweithgarwch ymgysylltu hwn trwy’r broses cynnydd rhent flynyddol a byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan y gymdeithas a sianeli cyfryngau cymdeithasol priodol.
Bydd preswylwyr unigol yn cael gwybod am y rhenti a’r taliadau gwasanaeth newydd ar gyfer eu heiddo a/neu garej i’w cymhwyso ar gyfer y flwyddyn ganlynol, trwy’r llythyr hysbysiad rhent blynyddol. Bydd o leiaf dau fis calendr o rybudd yn cael ei roi, ac unrhyw newidiadau yn dod i rym o fis Ebrill bob blwyddyn.
Bydd preswylwyr mewn cartrefi rhanberchnogaeth a thenantiaid masnachol yn cael hysbysiad am newidiadau i’w rhenti yn unol â thelerau eu prydlesi unigol.
Ymgysylltiad a chydymffurfiaeth
Datganiad ymgysylltu (preswylwyr)
Mae Hedyn wedi ymrwymo i sicrhau bod preswylwyr yn chwarae rhan weithgar wrth wneud penderfyniadau ac yn dylanwadu ar wasanaethau. Mae’r polisi hwn wedi’i ddatblygu gydag ystyriaeth i adborth preswylwyr a’u mewnwelediad.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a diogelu data
Mae’r polisi hwn yn ddarostyngedig i asesiad parhaus o’r effaith ar wasanaethau i’n galluogi i barhau i esblygu i ddiwallu anghenion ein holl breswylwyr, tenantiaid masnachol a chydweithwyr. Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Atodiad
Atodiad 1
Mae’r Raddfa Cywerthedd wedi’i Addasu yn offeryn a ddefnyddir yn eang gan lywodraethau ledled Ewrop i addasu data ar gyfer incwm aelwydydd, gan ystyried maint aelwydydd a’u cyfansoddiad. Bydd y lluosyddion canlynol yn cael eu defnyddio i addasu’r asesiad rhent byw fforddiadwy ar gyfer pob math o eiddo.
| Math o eiddo | Lluosydd cywerthedd |
|---|---|
Bedsit a llety a rennir | 0.9 |
Fflat ag un ystafell wely | 1 |
Tŷ ag un ystafell wely | 1 |
Byngalo ag un ystafell wely | 1 |
Fflat â dwy ystafell wely | 1.2 |
Maisonette â dwy ystafell wely | 1.2 |
Byngalo â dwy ystafell wely | 1.4 |
Tŷ â dwy ystafell wely | 1.4 |
Fflat â thair ystafell wely | 1.5 |
Maisonette â thair ystafell wely | 1.5 |
Byngalo â thair ystafell wely | 1.6 |
Tŷ â thair ystafell wely | 1.6 |
Tŷ â phedair ystafell wely | 1.7 |
Tŷ â phum ystafell wely | 1.8 |
Tŷ â chwe ystafell wely | 1.9 |
Atodiad 2: Eiddo sydd ddim yn eiddo rhent byw
Gofal ychwanegol
Mae gan y cynlluniau hyn nodweddion dylunio penodol, cyfarpar arbenigol, ardaloedd cymunol, gwasanaeth rheoli’r cynllun a chymorth wedi’i deilwra i breswylwyr, ac felly gallant godi taliadau gwasanaeth uwch. Ar y cam dylunio, gosodir rhenti ar lefel sy’n sicrhau eu bod yn ymarferol.
Yn dilyn hynny, byddant yn codi yn ôl lefelau y mae LlC yn cytuno arnynt yn flynyddol. Bydd amseriad yr adolygiad a’r hysbysiad yn adlewyrchu amseriad Rhenti Cymdeithasol.
Tai â Chymorth
Mae Cynlluniau Tai â Chymorth yn cael cymorth penodol wedi’i deilwra gan asiantaethau allanol ac yn aml mae’r cymorth hwnnw’n cael ei ddarparu ar y safle. Ar y cam dylunio, gosodir rhenti ar lefel sy’n sicrhau eu bod yn ymarferol. Yn dilyn hynny, byddant yn codi yn ôl lefelau y mae LlC yn cytuno arnynt yn flynyddol.
Bydd amseriad yr adolygiad a’r hysbysiad yn adlewyrchu amseriad Rhenti Cymdeithasol.
Tai Arbenigol
Yn aml, mae gan y llety hyn nodweddion dylunio penodol i alluogi’r preswylydd i fyw gartref yn llwyddiannus. Ar y cam dylunio, gosodir rhenti ar lefel sy’n sicrhau eu bod yn ymarferol.
Yn dilyn hynny, byddant yn codi yn ôl lefelau y mae LlC yn cytuno arnynt yn flynyddol. Bydd amseriad yr adolygiad a’r hysbysiad yn adlewyrchu amseriad Rhenti Cymdeithasol.
Rhent Fforddiadwy (Rhent sy’n Is na’r Farchnad)
Efallai y bydd yr eiddo hyn wedi cael eu caffael gan ddefnyddio Grant Llywodraeth Cymru ac efallai mai eu nod yw diwallu anghenion tai preswylwyr sydd uwchlaw’r trothwy ar gyfer Tai Cymdeithasol ond sydd ddim yn gallu fforddio’r Rhent llawn ar y Farchnad.
Bydd y rhent, gan gynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth ychwanegol os yn berthnasol, yn cael ei osod yn is na phrisiadau rhent y farchnad leol. Mae’r rhent yn cael ei adolygu’n flynyddol neu ar ddiwedd contract cyfnod penodol pan gyhoeddir contract newydd. Mae rhent newydd yn seiliedig ar werth y rhent ar y pryd ar y farchnad agored.
Rhenti canolradd
Efallai y bydd yr eiddo hyn wedi cael eu caffael gan ddefnyddio Grant Llywodraeth Cymru ac efallai mai eu nod yw diwallu anghenion tai preswylwyr sydd uwchlaw’r trothwy ar gyfer Tai Cymdeithasol ond sydd ddim yn gallu fforddio’r Rhent llawn ar y Farchnad.
Bydd y rhent yn cael ei osod ar hyd at 80% o brisiadau rhent y farchnad leol ac mae’n cynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth. Mae’r rhent yn cael ei adolygu’n flynyddol neu ar ddiwedd contract cyfnod penodol pan gyhoeddir contract newydd. Mae rhent newydd yn seiliedig ar werth y rhent ar y pryd ar y farchnad agored.
Rhenti’r Farchnad
Mae Hedyn yn berchen ar lety preswyl lle mae’r rhent yn cael ei osod ar gyfraddau’r farchnad agored ac yn cynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth. Mae’r ffrydiau rhent hyn sydd ddim yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru yn eiddo sydd â’r diben o greu enillion ar gyfradd y farchnad y gellir eu hail fuddsoddi yng ngweithgareddau cymdeithasol allweddol Hedyn.
Mae’r rhent yn cael ei adolygu’n flynyddol neu ar ddiwedd contract cyfnod penodol pan gyhoeddir contract newydd. Mae rhent newydd yn seiliedig ar werth y rhent ar y pryd ar y farchnad agored.
Perchnogaeth a Rennir Traddodiadol
Cartrefi lle mae’r perchennog wedi talu am gyfran % o’r eiddo ac yn talu rhent ar y rhan nad yw’n berchen arni.
Adeiladwyd yr eiddo hyn yn y 1980au, ac mae’r rhent yn codi’n flynyddol yn unol â chynnydd Llywodraeth Cymru. Bydd amseriad yr adolygiad a’r hysbysiad yn adlewyrchu Rhenti Cymdeithasol.
Rhanberchnogaeth Cymru
Cartrefi lle mae’r perchennog wedi talu am gyfran % o’r eiddo ac yn talu rhent ar y rhan nad yw’n berchen arni. Mae’r rhent yn seiliedig ar % o werth yr eiddo ar ddechrau’r les ac mae’n cael ei
adolygu’n flynyddol neu bob yn ail flwyddyn, yn unol â’r les.
Eiddo Masnachol
Adeilad sy’n cael ei osod neu sydd ar gael i’w osod ac sydd â chymeradwyaeth gynllunio ar gyfer gwerthu nwyddau a gwasanaethau i gwsmeriaid. Caiff ei osod am rent y farchnad neu yn is na rhent y farchnad pan fydd yn cefnogi ein diben cymdeithasol.
Bydd rhenti yn codi fel y nodir yn nhelerau prydlesi unigol.
Rhentu i Berchnogi
Eiddo rhent lle mae’r tenant yn cronni blaendal o’r rhent a dalwyd ac mae ganddo’r hawl i brynu’r cartref o fewn 5 mlynedd. Mae’r rhent yn cael ei osod ar gyfraddau’r farchnad agored.
Nid yw’r ffrydiau rhent hyn yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac maent yn eiddo sydd â’r diben o greu enillion ar gyfradd y farchnad y gellir eu hail-fuddsoddi yng ngweithgareddau cymdeithasol allweddol Hedyn.
Mae’r rhent yn cael ei adolygu’n flynyddol neu ar ddiwedd contract cyfnod penodol pan gyhoeddir contract newydd. Mae rhent newydd yn seiliedig ar werth rhent cyfredol y farchnad ar y pryd.
Garejys
Garejys pwrpasl sy’n cael eu cynnig i’w rhentu neu eu prydlesu i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’r rhent yn cael ei adolygu’n flynyddol, ac mae’r rhent newydd yn seiliedig ar rent cyfartalog y farchnad.
Atodiad 3: Taliadau Gwasanaeth – Eithriadau i’r Asesiad Rhent Byw
Ni fydd cap ar y taliadau gwasanaeth hyn ond byddwn yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn cael eu lleihau ac yn cynnig gwerth am arian.
| Categori ased | Math o ased | Rheswm |
|---|---|---|
Gosodiadau Tai Cymdeithasol | Rheolwr Cynllun 55+ | Bydd Taliadau Gwasanaeth yn uwch ac mae hyn yn gysylltiedig â chyfarpar arbenigol, ardaloedd cymunol a gwasanaethau rheoli cynlluniau. |
Tai Cymdeithasol Eraill | Gofal Ychwanegol | Bydd Taliadau Gwasanaeth yn uwch ac mae hyn yn gysylltiedig â chyfarpar arbenigol, ardaloedd cymunol a gwasanaethau rheoli cynlluniau. |
Tai Cymdeithasol Eraill | Tai â Chymorth | Bydd Taliadau Gwasanaeth yn uwch ac mae hyn yn gysylltiedig â chyfarpar arbenigol, ardaloedd cymunol a gwasanaethau cymorth. |
Tai Cymdeithasol Eraill | Tai Arbenigol | Mae’r rhain yn eiddo pwrpasol a bydd Taliadau Gwasanaeth yn uwch. Mae hyn yn gysylltiedig â’r |
Cymdeithasol Arall | Rhent Canolradd | Nid yw’r Rhent Byw yn berthnasol felly ni ellir capio’r taliadau gwasanaeth. Mae Taliadau Gwasanaeth wedi’u cynnwys yn y rhent. |
Cymdeithasol Arall | Lesddaliad | Preswylwyr sy’n Berchen ar eu Cartrefi ac sydd ddim yn ddarostyngedig i’r Rhent Byw. |
Cymdeithasol Arall | Perchentyaeth Cost Isel – Prynu Cartref | Preswylwyr sy’n Berchen ar eu Cartrefi ac sydd ddim yn ddarostyngedig i’r Rhent Byw. |
Cymdeithasol Arall | Rhanberchnogaeth | Preswylwyr sy’n Berchen ar eu Cartrefi ac sydd ddim yn ddarostyngedig i’r Rhent Byw. Mae Taliadau Gwasanaeth lle bo’n berthnasol, yn ychwanegol at y rhent, a gellir codi’r pris yn unol â’r brydles yn unig. |
Ddim yn Gymdeithasol | Fforddiadwy | Nid yw’r Rhent Byw yn berthnasol felly ni ellir |
Ddim yn Gymdeithasol | Rhent y Farchnad | Nid yw’r Rhent Byw yn berthnasol felly ni ellir |