Ein haddewid i chi
Yn Hedyn, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein preswylwyr a’n cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym am i chi wybod y gallwch ymddiried ynom i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid bob tro y byddwch chi’n cysylltu â ni.
Mae ein Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid yn esbonio beth allwch ei ddisgwyl gennym ni a sut rydym yn blaenoriaethu eich anghenion.
Mae ein Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi’u gwreiddio yn Ein Haddewid i Chi, sydd wedi’i greu ar y cyd â’n paneli cwsmeriaid ac mewn ymgynghoriad â’n cwsmeriaid a’n preswylwyr. Mae ein Addewid i Chi yn nodi’r hyn sy’n bwysig i chi. Mae’r Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid yn dangos sut rydym yn cyflawni’r ymrwymiadau hynny.
Rydyn ni eisiau clywed eich barn. Gallwch rannu eich awgrymiadau mewn sawl ffordd, a byddwn yn defnyddio’ch adborth i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud.
Byddwn yn hawdd ein cyrraedd a bob amser ar gael.
Byddwn yn rhoi ffyrdd i chi gysylltu â ni sy’n hawdd i’w defnyddio ac yn ymatebol.
Gallwch gysylltu â ni yn y ffordd sydd orau i chi: cyflawni ein haddewid i chi
- Ffôn: 0300 1212 345
- E-bost: hello@hedyn.cymru
- WhatsApp: 07555 691 234
Os hoffech siarad â rhywun wyneb yn wyneb, gallwn ddod i’ch cartref, i le cymunedol, neu gallwch ddod i’n swyddfeydd:
- Canolfan Siopa Betws, Casnewydd NP20 7TN
- Canolfan Ringland, Casnewydd NP19 9HG
- Tŷ Nexus, Mission Court, Casnewydd NP20 2DW
- Tŷ’r Felin, Lower Mill Field, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 0XJ
Gallwch drefnu apwyntiad neu alw heibio’r swyddfeydd och dewis
yn ystod ein horiau agor. Lle bo’n bosibl, byddwn yn cynnig cyfleoedd i chi gwrdd â ni y tu allan i’n horiau agor a bod angen.
Byddwn hefyd yn:
- Rhannu ein horiau agor a’u diweddaru’n rheolaidd.
- Rhoi lle cyfforddus hawdd ei gyrraedd i chi yn ein swyddfeydd.
- Cynnig ystafelloedd cyfarfod preifat i siarad am bynciau sensitif neu gyfrinachol.
- Rhoi rhif gwasanaethau ymateb dros y ffôn 24 awr ar gyfer argyfyngau.
- Gwneud yn siŵr y gallwch gysylltu â gwasanaethau pwysig, fel rhoi gwybod am atgyweiriadau a thalu rhent, drwy ap Hedyn.
Byddwn yn darparu gwasanaethau cynhwysol sy'n ateb anghenion preswylwyr a’u dewisiadau
Byddwn yn darparu ein gwasanaethau mewn ffordd
sy’n iawn i chi.
Rydyn ni eisiau deall eich anghenion a’ch dewisiadau. Byddwn yn gofyn am eich adborth yn rheolaidd ac yn cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni, yn ddiogel.
Rydym am i’n gwasanaethau fod ar gael i bawb. Gan fod sefyllfa pawb yn wahanol, byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau yn cael eu cynllunio i ateb eich anghenion a chanolbwyntio ar eich dewisiadau.
Yn fwy na dim, byddwn bob amser yn eich trin â pharch. Rydym wedi ymrwymo i greu profiad sy’n cynnwys ein cwsmeriaid; un sy’n gwerthfawrogi pob person, waeth beth yw ei rhyw, ethnigrwydd, oedran, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd neu anabledd.
Byddwn hefyd yn:
- cyfathrebu â chi yn ffordd o’ch dewis – er enghraifft, e-bost, ffôn, ac ati;
- gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cael deunyddiau cyfathrebu – p’un a yw hynny’n golygu cyfieithu i’r iaith o’ch dewis, defnyddio ffontiau mwy, braille, neu unrhyw ffordd arall;
- parhau i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid sy’n dewis peidio â defnyddio dulliau digidol.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth a chyngor pwysig gyda phawb.
Bydd y wybodaeth a’r cyngor rydyn ni’n eu rhannu yn gywir ac yn ddefnyddiol.
Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael y wybodaeth sydd ei hangen, pan fydd ei hangen. Byddwn yn gwneud hyn trwy rannu’r wybodaeth ddiweddaraf mewn gwahanol ffyrdd, fel:
- ar ein gwefan;
- llythyrau uniongyrchol atoch chi;
- ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol;
- trwy ein cylchlythyr;
- trwy daflenni, taflenni ffeithiau, neu bosteri cymunedol.
Bydd ein grwpiau cwsmeriaid yn darllen drwy bolisïau cyn iddynt gael eu cyhoeddi i wneud yn siŵr eu bod yn glir, yn ddefnyddiol ac yn hawdd cael gafael arnynt. Byddant yn cael stamp ‘I Gwsmeriaid gan Gwsmeriaid’ unwaith y byddant yn bodloni safonau cwsmeriaid.
Byddwn yn rhoi gwasanaeth rhagorol i chi, y cwsmer.
Bydd gan ein cydweithwyr y sgiliau a’r wybodaeth gywir i’ch helpu.
Byddwn ni’n:
- ateb eich cwestiwn ac yn gwneud popeth y gallwn i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf.*
- rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y dewis sydd orau i chi;
- cymryd cyfrifoldeb am ymholiadau a phroblemau pan fyddwch chi’n cysylltu am y tro cyntaf;
- eich rhoi chi mewn cysylltiad â’r person iawn os oes gennych gwestiwn neu broblem gymhleth;
- gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod pwy sy’n eich helpu gyda’ch cwestiwn neu’ch problem, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i’w ddatrys. Byddwn yn rhannu popeth gyda chi bob cam o’r ffordd;
- dweud pan fydd angen cyngor arbenigol arnoch. Byddwn yn eich helpu i gysylltu â’r asiantaethau neu’r bobl gywir a all eich helpu.
Byddwn yn gyfeillgar ac yn broffesiynol bob amser. Byddwn yn dweud ein henw bob amser wrth gyflwyno ein hunain, fel eich bod yn gwybod gyda phwy rydych chi’n siarad.
Pan fyddwn yn gwneud apwyntiad i ddod i’ch gweld, byddwch chi’n gwybod pryd i’n disgwyl. Byddwn yn cyrraedd ar amser, ac os bydd oedi, byddwn yn rhoi gwybod i chi’n syth.
Os oes angen i ni aildrefnu apwyntiad oherwydd materion nad ydym yn gallu eu rheoli, byddwn yn trefnu amser sy’n gweithio i chi.
Os nad ydych gartref pan fyddwn yn galw heibio, byddwn yn gadael ein henw a’n manylion cyswllt fel y gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Byddwn yn gwrando ar adborth gan gwsmeriaid ac yn dysgu ohono, felly bydd eich llais wrth wraidd popeth a wnawn
Bydd eich adborth yn gwella ein gwasanaethau ac yn newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau.
Byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn hawdd i chi rannu eich barn gyda ni, o ran pethau fel:
- gofyn i chi gwblhau arolygon byr;
- eich gwahodd i ymuno â’n paneli cwsmeriaid pan fydd cyfleoedd ar gael;
- dod i’ch cymuned a’ch gwahodd i ymuno â ni wrth i ni gerdded o gwmpas eich cymdogaeth;
- cynnal digwyddiadau ymgysylltu gwahanol yn ein holl gymunedau;
- gwneud yn siŵr bod ein proses gwyno a chanmol yn hawdd.
Byddwn yn defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym i ddatblygu ein gwasanaethau a gwella eich profiad fel cwsmer. Pan fyddwn yn newid unrhyw beth, byddwn yn ei rhannu yn ein cylchlythyr, ar ein gwefan, ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Efallai y byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch neu anfon e-bost atoch yn uniongyrchol.
Pan fyddwn ni’n gwneud pethau’n anghywir, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i wneud pethau’n iawn cyn gynted â phosibl. Byddwn yn dysgu o’n camgymeriadau ac yn addasu pethau i atal gwallau tebyg.
Bydd ein contractwyr a’n cydweithwyr sy’n atgyweirio yn dangos parch atoch chi, eich cartref, a'ch cymuned
Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n teimlo’n ddiogel yn eich cartref pan fydd ein cydweithwyr neu gontractwyr yn gwneud gwaith atgyweirio.
Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn cael profiad cadarnhaol yn eich cartref. I wneud hyn, byddwn yn:
- Gwneud popeth y gallwn i’ch cyrraedd ar amser, a byddwn yn rhoi gwybod os ydym yn rhedeg yn hwyr. Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwybod os bydd eich apwyntiad yn newid mewn unrhyw ffordd.
- Gwisgo gwisg sy’n dangos y brand, a dangos ein bathodyn adnabod pan fyddwn yn ymweld â chi. (Bydd ein contractwyr hefyd yn dangos bathodyn adnabod.) I dawelu eich meddwl, gallwch ffonio ein Hwb Profiad Cwsmeriaid i gadarnhau pwy ydyn ni.
- Gweithio yn eich cartref pan fydd oedolyn 18 oed a hŷn yno, a hynny’n unig.
- Cyflwyno ein hunain a dweud wrthych pam rydyn ni yno. Byddwn yn esbonio’r gwaith y byddwn yn ei wneud yn eich cartref, a gwneud yn siŵr eich bod chi’n deall beth sy’n digwydd. Byddwn hefyd yn dweud rhif cyfeirnod y swydd.
- Byddwn yn gwrtais ac yn dangos parch tuag atoch chi a’r bobl sy’n byw gyda chi. Os yw’n bosibl, byddwn yn parchu arferion diwylliannol a chrefyddol (cyn belled â’u bod yn cyd-fynd â chanllawiau iechyd a diogelwch.)
- Gwisgo dillad priodol pan fyddwn yn dod i’ch cartref.
- Gorffen y gwaith i safon uchel ac aflonyddu cyn lleied â phosibl. Byddwn hefyd yn gadael eich cartref yn lân ac yn daclus, gan daflu gwastraff yn ddiogel.
- Gorffen y gwaith o fewn un diwrnod. Os oes angen mwy nag un diwrnod i orffen y gwaith, byddwn yn dweud pa mor hir. Byddwn yn gadael y lle yn ddiogel ac yn daclus, a gwneud yn siŵr bod gennych ddŵr, trydan a nwy. (Oni bai eu bod yn beryglus i chi neu’r bobl sy’n byw gyda chi ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.)
- Gwneud bob ymdrech i ddiogelu eich eiddo personol. Os oes unrhyw risg i’ch eiddo, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn gofyn i chi lofnodi ymwadiad.
- Gofyn eich caniatâd i ddefnyddio’ch tŷ bach, cyfleusterau golchi, cyflenwad dŵr a thrydan. Byddwn hefyd yn gofyn eich caniatâd i ddefnyddio radio neu ddyfeisiau cerddoriaeth tra byddwn yn gweithio.
- Defnyddio ein hoffer a’n heiddo ein hunain i wneud y gwaith – ni fyddwn byth yn gofyn am fenthyg eich offer chi.
- Cymryd cyfrifoldeb am y ffordd rydyn ni’n parcio yn eich cymuned, a gwneud yn siŵr ein bod yn barchus.
- Peidio byth ag ysmygu yn eich cartref neu o amgylch eich cartref.
Yn gyfnewid, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech chi
- Ddangos parch tuag at ein cydweithwyr a’n contractwyr ac annog profiadau cadarnhaol trwy osgoi iaith a gweithredoedd sy’n niweidiol neu’n fygythiol.
- Gwnewch yn siŵr eich bod adref adeg yr apwyntiad. Rydym yn gwybod y gall argyfyngau ddigwydd, ond cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os oes angen i chi aildrefnu.
- Symudwch unrhyw eiddo personol i le diogel yn eich cartref. Bydd hyn yn ein helpu i wneud y gwaith yn ddiogel a lleihau’r risg o ddifrod.
- Cofiwch beidio ag ysmygu, fepio, neu yfed alcohol pan fyddwn yn gweithio yn eich cartref.
- Cadwch unrhyw anifeiliaid anwes i ffwrdd o’r man lle rydyn ni’n gweithio er mwyn cadw pawb yn ddiogel, yn cynnwys eich anifail anwes.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw plant yn ddiogel ac i ffwrdd o’r man lle rydyn ni’n gweithio, tra ein bod ni’n gweithio.
Os ydych chi’n teimlo mewn perygl neu os yw rhywun yn amharchus yn ystod ein hymweliad, mae gennych hawl i ofyn inni adael. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os oes gennych ofidion am ein hymddygiad. Yn yr un modd, bydd ein cydweithwyr a’n contractwyr yn gadael eich cartref os ydynt yn teimlo mewn perygl neu os bydd rhywun yn amharchus.
Mae eich adborth am ein gwasanaethau atgyweirio yn bwysig i ni ac yn ein helpu i wella. Byddwn bob amser yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael dweud eich dweud wrth osod safonau atgyweirio.