Cyflwyniad y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd
Yn ei 12 mis cyntaf, mae Hedyn wedi gwireddu ei ddyhead trwy blannu’r hadau ar gyfer dyfodol cryf a gwydn. Wrth i’r hadau hynny ddechrau bwrw gwreiddiau, gallwn eisoes weld y cynnydd a wnaed yn ein blwyddyn gyntaf, a’r addewid o’r hyn sydd o’n blaenau.
Yn Gadeirydd a Phrif Weithredwr, rydym wedi teimlo’r cyfrifoldeb a’r fraint o helpu i arwain Hedyn drwy’r flwyddyn gyntaf bwysig hon. Nid yw dod â dau sefydliad at ei gilydd byth yn fater o strwythurau, systemau neu brosesau yn unig; ond yn hytrach mae’n ymwneud â phobl, pwrpas a hyder. Mae ymrwymiad ein cydweithwyr, preswylwyr, partneriaid ac aelodau’r Bwrdd wedi ein calonogi wrth i ni ddechrau llunio dyfodol Hedyn gyda’n gilydd.
Eleni gwelwyd cynnydd pwysig o ran adfywio lleoedd allweddol yng Nghasnewydd. Wrth agor cam cyntaf ein cynllun yn Ringland, daethpwyd â chartrefi newydd, lleoedd masnachol ac egni newydd i’r gymuned leol. Yn Stow Hill, mae gwaith yn mynd yn ei flaen i drawsnewid safle amlwg yng nghanol y ddinas er mwyn creu cartrefi newydd a safleoedd masnachol, gan gefnogi’r angen am dai ac adfywio ehangach.
Gyda 1,634 o gartrefi yn rhan o’n llwybr datblygu a mwy ar y gorwel, rydym eisoes yn gweld pa mor fanteisiol oedd dod â’n sefydliadau blaenorol at ei gilydd. Mae Hedyn yn rhoi mwy o allu i ni ymateb i’r angen cynyddol am dai ac i fuddsoddi yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Rydym hefyd wedi nodi ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer ein cartrefi presennol: diogelu eu hansawdd, eu moderneiddio ar gyfer y dyfodol a’u cadw yn ddiogel, fel lleoedd cynnes y mae preswylwyr yn falch o’u galw’n gartref. Bydd ein henw da o ran cydymffurfio â diogelwch, ynghyd â data gwell am ein cartrefi, yn ein helpu i fuddsoddi yn y mannau mwyaf pwysig.
Mae ein gwaith cymunedol wedi cael effaith wirioneddol, gyda chefnogaeth buddsoddiad a sicrhawyd trwy bartneriaethau a chynlluniau buddion cymunedol. Trwy weithio gyda’r cryfderau, y cymunedau a phartneriaid lleol, rydym wedi targedu’r gefnogaeth mewn ffordd sy’n ei alluogi i wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i seilio ein gwasanaethau ar ein Haddewid i Gwsmeriaid. Rydym yn ddiolchgar i Buzz, sef ein grŵp preswylwyr, a’n Panel Ymgynghorol am ein herio i wrando, dysgu a gweithredu ar lais preswylwyr.
Y tu ôl i’r llen, mae cydweithwyr wedi gweithio gydag ymroddiad a gofal trwy gyfnod o newid sylweddol, i ddod â gwasanaethau, timau, systemau a phrosesau ynghyd ar ôl i ni uno. Diolchwn iddynt am eu hymrwymiad, ac rydym hefyd yn diolch i Hed’s Up, ein grŵp ymgysylltu â chydweithwyr, am rannu adborth, llunio penderfyniadau a’n helpu i barhau i wella.
Yn fewnol, mae ein cyflawniadau yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys cryfhau ein seiberddiogelwch, achrediad Cyber Essentials Plus, cyflwyno ELEVATE, ein rhaglen datblygu i staff, a bwrw ymlaen â’n hymrwymiadau o ran tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd trwy Balchder yn y Porthladd 2025 a’n partneriaeth plannu coed gyda Earthwatch Europe a Chyngor Dinas Casnewydd.
Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, ein ffocws yw datblygu sylfeini’r flwyddyn gyntaf hon i greu cynnydd parhaol. Byddwn yn parhau i wrando ar breswylwyr, cefnogi cydweithwyr, cryfhau ein gwasanaethau a buddsoddi yn ein cartrefi a’n cymunedau. Mae’r hadau a blannwyd eleni yn dechrau bwrw gwreiddiau, felly gydag ymrwymiad, uchelgais a phwrpas a rennir, rydym yn hyderus y bydd Hedyn yn parhau i dyfu’n sefydliad dibynadwy sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
– Paula Kennedy (Prif Weithredwr Hedyn), and Lynda Sagona (Cadeirydd y Bwrdd Hedyn)
Hedyn, yr had
Mae Hedyn, a ffurfiwyd pan unwyd Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd ar 1 Ebrill 2025, yn dod ag arbenigedd a rennir at ei gilydd i greu rhywbeth mwy. Yn ein blwyddyn gyntaf, rydym eisoes wedi dechrau tyfu i fod yn un sefydliad, gyda sylfeini cadarn a’n preswylwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Ein gweledigaeth yw adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda.
Mae ein cenhadaeth yn syml: gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rydyn ni eisiau i’n preswylwyr ffynnu a theimlo’n hyderus am eu dyfodol.
Ein strategaeth yw ein cyfeiriad, ac mae’n cael ei arwain gan ein gwerthoedd – i wneud y peth iawn, ei wireddu a gwneud y gwahaniaeth.
Bwrw gwreiddiau lleol a thyfu gyda’n gilydd
Rydym yn cefnogi preswylwyr a chymunedau sy’n byw mewn tua 15,000 o eiddo ledled de-ddwyrain Cymru.
Ein Fframwaith Cynllunio Strategol
Cyflawnwn ein gweledigaeth drwy ‘Ffordd Hedyn’, a arweinir gan ein Fframwaith Cynllunio Strategol.
Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys ein strategaeth a thri maes hanfodol: profiad y cwsmer, twf a rheoli asedau. Gyda’i gilydd maent yn gosod sylfaen glir ar gyfer cyflawni.
Rydym am wneud y gorau o’n sefydliad mwy i ddarparu cartrefi gwell, cymunedau cryfach a gwasanaethau gwell, ond parhau i gael ein harwain gan breswylwyr, bod yn gynaliadwy ac yn wydn yn ariannol. Dyna pam mae’r canlynol yn flaenoriaethau i ni:
- Cwsmeriaid – rhoi profiad eithriadol i breswylwyr
- Cymunedau – creu cartrefi cynaliadwy a chymunedau cysylltiedig
- Cydweithwyr – creu cydweithwyr grymus a dibynadwy
- Capasiti – gwneud y mwyaf o’r hyn y gallwn ei gyflawni
Cwsmeriaid
Rydym yn canolbwyntio ar roi profiad gwych i gwsmeriaid. Mae hynny’n golygu gwrando ar lais y cwsmer i wneud yn siŵr bod ganddynt gartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy.
Profiad y cwsmer
Rydym yn darparu gwasanaethau cyson a phersonol, drwy wrando, grymuso cydweithwyr a defnyddio data a thechnoleg yn well. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Strategaeth Profiad Cwsmeriaid.
Wedi’i yrru gan lais y cwsmer
Trwy fewnwelediad y byddwn yn deall ein preswylwyr a llunio ein gwasanaethau. Nawr mae ein Haddewid i Gwsmeriaid a’n Safonau Gwasanaeth yn rhan o bopeth a wnawn, felly’n rhoi profiad mwy cyson i breswylwyr a blaenoriaethu eu hanghenion.
Grwpiau preswylwyr
Buzz
Mae Buzz yn ein herio i sicrhau ein bod yn gwrando, ac yn gweithredu ar yr hyn y mae ein preswylwyr yn ei ddweud – ac yn gwneud yr hyn yr oeddem wedi’i addo.
Rhaid i Hedyn wneud yr hyn a addawodd i breswylwyr wrth fynd ati i uno. Ein gwaith ni yn Buzz yw sicrhau bod hyn yn digwydd. Ochr yn ochr â’r Panel Ymgynghorol a’r Panel Llais Cwsmeriaid, rydym yn dal Hedyn i gyfrif ac yn sicrhau bod llais y preswylwyr wrth wraidd y broses benderfyniadau.
Cadeirydd Buzz: Shelly McGuire
Y gwasanaeth cywir
Rydym yn canolbwyntio ar wasanaethau sy’n ddibynadwy, yn bersonol ac yn iawn y tro cyntaf. Mae hyn yn golygu meithrin dull mwy rhagweithiol, sy’n cael ei arwain gan fewnwelediad yn hytrach na mynd i’r afael â phethau wrth iddynt ddigwydd.
Bydd hyn yn rhoi hwb i ffydd a hyder preswylwyr ynom, ac wrth ddefnyddio ehangder Hedyn gallwn ddarparu gwasanaethau sy’n fwy cyson ac effeithlon.
Gwrando, dysgu, gwella
Rydym yn sefydliad sy’n gwrando ac yn dysgu, ac mae cwynion yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i wella. Eleni, cawsom 491 o gwynion. Roedd dros hanner ohonynt yn ymwneud ag atgyweiriadau y gwyddwn eu bod yn effeithio ar brofiad y cwsmer. Er bod gwasanaethau’n perfformio’n dda yn gyffredinol, mae’r adborth yn awgrymu bod cyfle i wella’r cyfathrebu, y prydlondeb a gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf. Rydym yn adolygu pob cwyn trwy ein proses ddysgu fel y gallwn wneud newidiadau ymarferol, cryfhau gwasanaethau a rhoi profiad mwy cyson i breswylwyr.
Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Rydyn ni’n gweld pobl, nid tenantiaid yn unig. Pan gollodd un preswylydd ei incwm yn sydyn oherwydd salwch, fe weithion ni ochr yn ochr â nhw – gan roi help llaw iddyn nhw gyda chefnogaeth bwrpasol, barhaus i’w helpu y tu hwnt i’r denantiaeth yn unig.
Dros ddwy flynedd, fe wnaethom eu cefnogi trwy broses dribiwnlys gymhleth, ac yn y diwedd, cafodd y preswylydd daliadau o dros £15,000 wedi’u hôl-ddyddio, a thua gwerth £140 yr wythnos o gymorth parhaus. Maen nhw bellach yn fwy sefydlog yn ariannol, yn hyderus ac yn gallu cadw mewn cysylltiad.
Cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy
Rydym yn buddsoddi’n glyfar yn ein cartrefi i’w cadw’n ddiogel, i gadw eu hansawdd yn uchel ac yn gynaliadwy.
Trwy wario’n ddoeth, gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf yn ein cartrefi yn y tymor hir. Mae ein Strategaeth Rheoli Asedau yn nodi sut y byddwn yn gwneud hyn, gan ddefnyddio data gwell i dargedu’r buddsoddiad lle mae ei angen fwyaf.
Cartrefi diogel
Cadw ein preswylwyr yn ddiogel yw ein blaenoriaeth fwyaf – rydym wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi sy’n ddiogel.
Rydym yn cadw ar y blaen, gan ddefnyddio data a dealltwriaeth i ganfod unrhyw broblemau yn gynnar, a pharhau i sicrhau bod ein cartrefi yn fwy diogel ac yn well, fel y gall ein preswylwyr fod yn dawel eu meddyliau.
Cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
Rydym yn gwella ein data i ddeall ein cartrefi yn well a chynllunio’u llwybr i lai o garbon, yng ngoleuni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. Er bod ein cartrefi eisoes wedi bodloni’r safon flaenorol, mae’r un newydd yn llunio sut rydym yn mynd ati i gynllunio a buddsoddi mewn cartrefi sy’n defnyddio ynni yn effeithlon.
Gwella ansawdd bywyd
Yn dilyn gwaith ôl-osod, gan gynnwys system wresogi newydd, paneli solar a gwydr triphlyg, dywedodd John Nicholls, 94 oed wrthym “dyma’r gorau y mae fy nghartref erioed wedi bod.”
Mae ei gostau ynni wedi gostwng, a nawr mae ganddo fwy o reolaeth dros ei wres trwy ddefnyddio offer digidol syml
Rydw i wedi byw yn y fflat hwn ers 30 mlynedd, a dyma’r gorau y mae erioed wedi bod. Mae’n wych nawr. Mae’n gynnes a gallaf gadw llygad arno drwy’r amser. Os ydw i allan, rwy’n defnyddio’r ap ar fy ffôn i droi’r gwres ymlaen cyn i mi gyrraedd adref.
John Nicholls
Cartrefi fforddiadwy
Rydym yn gwybod bod costau byw yn codi. Dyna pam rydym yn gosod ein rhenti yn ofalus, fel eu bod yn fforddiadwy i breswylwyr, ond yn caniatáu inni fuddsoddi’n barhaus yn ein cartrefi. Eleni, cafwyd 1,126 o ymatebion i’n hymgynghoriad rhent a fforddiadwyedd. Roedd hyn yn cynnwys adborth gan breswylwyr o bob un o’r pump awdurdod lleol a grwpiau ffocws. Mae hyn yn ein helpu i lunio dull teg a thryloyw i sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy.
Cymuned
Mae ein pwrpas cymdeithasol yn siapio sut rydym yn gweithio gyda’n cymunedau. Trwy weithio gyda phartneriaid, rydym yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, creu cyfleoedd a helpu pobl i ffynnu.
Adeiladu ar gryfderau
Rydym yn defnyddio’r cryfderau sydd gan ein cymunedau ar hyn o bryd, adeiladu arnynt, a gweithio gyda phartneriaid i dargedu’n cefnogaeth lle mae’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Theatr greadigol yn meithrin cysylltiad cymunedol
Cafodd preswylwyr gyfle i fwynhau cysylltiadau cymdeithasol ac emosiynol yn Westgate Court diolch i’n prosiect partneriaeth gyda Reality Theatre.
Aethant ati i gymryd rhan mewn sesiynau theatr creadigol a gynlluniwyd i fagu hyder, sbarduno’r dychymyg, a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Heb unrhyw brofiad blaenorol, mewn ychydig fisoedd yn unig, fe wnaethant greu eu cymeriadau eu hunain, cyd-ddylunio sgript, a chyflwyno perfformiad trawiadol.
Mae’r prosiect wedi helpu preswylwyr i fynegi eu hunain, cysylltu ag eraill, ac i fagu hyder – sy’n dangos pa mor bwerus y gall gweithgarwch fod dan arweiniad y gymuned.
| Arian a gafodd ei ddefnyddio drwy bartneriaethau | Buddion cymunedol a gafodd eu hail-fuddsoddi mewn cymunedau |
|---|---|
£553,550 | £114,324 |
Adfywio ein cymunedau
Rydym yn cydnabod mai law yn llaw y mae’n rhaid gwella cartrefi a chryfhau cymunedau.
Felly rydym yn gweithio ar fodel adfywio sy’n cyfuno datblygu, rheoli asedau a gwaith cymunedol – gan sicrhau bod ein dull yn cydgysylltiedig ac yn canolbwyntio ar yr ardal leol
Adfywio cymuned Ringland
Fe wnaethom gyrraedd carreg filltir sy’n destun balchder wrth drawsnewid cymuned Ringland yng Nghasnewydd pan agorodd ei cham cyntaf eleni. Rydym wedi cyflawni 38 o gartrefi newydd a 12 uned fasnachol fodern, i greu cyfleoedd i bobl a busnesau ffynnu.
Bydd y rhaglen ehangach yn helpu i ddiwallu’r angen am dai lleol wrth gefnogi adfywio yn y tymor hir, sef 158 o gartrefi newydd ar draws pedwar cam, mewn partneriaeth â Lovell, Cyngor Dinas Casnewydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Mae canolfan siopa sydd wedi’i hadleoli a’i hadfywio, hefyd wedi creu canolfan leol gryfach, fwy bywiog i’r gymuned, ac mae’n cefnogi twf economaidd ochr yn ochr â’r cartrefi newydd.
Mae’r cam cyntaf hwn yn golygu llawer mwy na chartrefi a siopau newydd. Mae’n adlewyrchu lleisiau preswylwyr lleol, cryfder ein partneriaethau, a’n hymrwymiad cyffredin i greu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw yn dda.
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Hedyn
Darparu cartrefi newydd
Rydym yn ymateb i’r argyfwng tai trwy adeiladu mwy o gartrefi yn y lleoedd iawn, gan sicrhau eu bod o ansawdd uchel, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.
Yn ein Strategaeth Twf, rydym wedi nodi sut y byddwn yn cynyddu’r ddarpariaeth wrth barhau i fod yn wydn yn ariannol a llwyddo i gyflawni’n dda
| Cartrefi newydd a gafodd eu cwblhau | Cyflenwad newydd o dai cymdeithasol % |
|---|---|
231 | 1.6% |
| Cartrefi 'ar safle' | Cyfanswm y cartrefi sydd ar y gweill |
|---|---|
472 | 1,634 |
Stow Hill, Casnewydd
Mae ein datblygiad yn Stow Hill wedi trawsnewid safle amlwg yng nghanol y ddinas i greu cartrefi modern o ansawdd uchel yng Nghasnewydd.
Rydym wedi darparu 36 o fflatiau newydd, ochr yn ochr â lle ar gyfer tair uned fasnachol, gan helpu i ddiwallu’r anghenion tai wrth fynd ati i gefnogi’r economi leol.
Mae’r cynllun hefyd wedi creu manteision ehangach i’r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd lleol newydd a chefnogaeth i fentrau dan arweiniad y gymuned.
Mae hyn yn adlewyrchu ein dull o greu lleoedd, gwneud y gorau o leoedd presennol a chreu cartrefi sy’n helpu pobl i fyw’n dda.
Cydweithwyr
Rydym yn meithrin diwylliant lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth, a’u grymuso i wneud gwahaniaeth – oherwydd mae popeth a wnawn yn dibynnu ar gydweithwyr medrus a chysylltiedig.
Trwy fuddsoddi yn ein pobl a chreu amgylchedd cynhwysol, rydym yn cefnogi canlyniadau gwell i breswylwyr a chymunedau.
Profiad gwych i gydweithiwr
Mae ein cydweithwyr yn ganolog i’n llwyddiant. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i adeiladu Hedyn fel un sefydliad, drwy ymgysylltiad cryf ac ymrwymiad a rennir i greu gweithle teg, modern a chynhwysol.
Un sefydliad
Ar ôl uno, fe wnaethom lansio prosiect sylweddol i ddod â dau sefydliad blaenorol at ei gilydd fel un. Fe wnaethom uno telerau ac amodau, cwblhau’r contractau newydd a symud o’r hyn oedd yn chwe threfniad pensiwn yn flaenorol, i un cynllun cyflogwr, a oedd yn garreg filltir bwysig yn ein taith.
Buddion a manteision
Er mwyn cefnogi buddion mwy cyson, teg sy’n canolbwyntio’n fwy ar gydweithwyr, fe wnaethom lansio cynnig Cynllun Gwobrwyo modern. Mae’n cyfuno pecyn buddion craidd estynedig gyda chynllun hyblyg sy’n cynnig 15 opsiwn, fel yswiriant meddygol gwell, cynllun cerbydau trydan a thalebau ar gyfer y cartref a thechnoleg.
Strwythur
Fe wnaethom gyflwyno un platfform AD gan gyfuno’r gyflogres, er mwyn wneud pethau’n fwy cywir, ac yn haws i gydweithwyr ddod o hyd i wybodaeth. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom alinio strwythurau, egluro rolau ac ymgorffori dull cyson o werthuso rolau a meincnodi cyflogau. Mae’r gwaith i ail-lunio timau bron wedi’i gwblhau ac mae’n ein helpu i fynd ati i wasanaethau ein preswylwyr mewn ffordd fwy effeithiol a chydweithredol.
Sefydliad sy’n gwrando ac yn dysgu
Mae gwrando wedi parhau i fod yn ganolog drwy’r amser. Mae gweithdai, sioeau teithiol a ‘Heds Up’, ein grŵp ymgysylltu â chydweithwyr, wedi dylanwadu ar benderfyniadau allweddol.
Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod cydweithwyr yn parhau i fod yn ymroddgar i’n preswylwyr. Maent yn gwerthfawrogi eu timau ac yn teimlo’n gadarnhaol am ddyfodol Hedyn. Mae’r fath fewnwelediad yn llywio cynlluniau gweithredu parhaus gydag arweinwyr.
Atgyfnerthwyd y gefnogaeth i gydweithwyr hefyd gan raglenni datblygu ar gyfer ein harweinwyr a’r rheini sy’n dyheu i fod yn arweinwyr, gan ganolbwyntio’n fwy ar wrando ar gydweithwyr a’u lles.
ELEVATE: The Power of You
Mae cydweithwyr Hedyn wedi adrodd twf amlwg o ran eu hunanymwybyddiaeth, deallusrwydd emosiynol a sut maen nhw’n gweithio gydag eraill, ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen ddysgu, ELEVATE: The Power of You. Ers hynny, maent hefyd wedi dod i ddeall eu hymddygiad yn well, addasu sut maen nhw’n cyfathrebu, a chymhwyso offer ymarferol i wella cydweithio a gwneud penderfyniadau yn eu rolau o ddydd i ddydd.
Mae’r newidiadau hyn wedi helpu i lunio sefydliad sy’n myfyrio fwy, sy’n fwy hyderus ac addasadwy. Mae hyn yn cefnogi gwaith tîm cryfach, cyfathrebu cliriach ac amgylchedd gwaith mwy cadarnhaol. Rydyn ni’n mynd i adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy sicrhau bod mwy o gydweithwyr yn cymryd rhan yn y rhaglen a chreu cyfleoedd pellach i ddysgu a myfyrio.
Effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn gymdeithasol
Cynaliadwyedd amgylcheddol
Rydym wedi ymrwymo i greu cartrefi, cymunedau a dyfodol cynaliadwy, drwy wrando ar leisiau ein preswylwyr, fel y nodir yn ein Haddewid. Mae hyn yn canolbwyntio ar greu cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, meithrin gwytnwch, cefnogi gweithredu lleol, a gweithio gyda phartneriaid i fod yn arloesol a chael effaith barhaol.
I wneud hyn, rydym wedi gweithio’n gynaliadwy ar draws ein sefydliad a thrwy fewnwelediad rydym yn llywio penderfyniadau. Rydym yn cymryd camau ymarferol i leihau carbon, gwella effeithlonrwydd, diogelu bioamrywiaeth, a datblygu’r sgiliau a’r partneriaethau y mae eu hangen i wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Coedwig fychan
Roeddem wrth ein boddau i blannu 600 o goed ar Ringwood Hill mewn ardal fach yn unig, mewn partneriaeth â Earthwatch Europe a Chyngor Dinas Casnewydd. O fewn ychydig flynyddoedd, bydd y coed hyn yn tyfu’n gyflym i ddod yn sinc carbon hanfodol ac yn gynefin ffyniannus i fywyd gwyllt. Mae wedi creu gwaddol gwyrdd y gall y gymuned gyfan ei fwynhau am genedlaethau i ddod.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i greu newid cadarnhaol o fewn Hedyn a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Trwy ein Haddewid, ein polisi a’n cynllun gweithredu newydd, rydym yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi cymunedau sy’n ffynnu.
Rydym yn meithrin diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac i gefnogi hyn mae nodau clir a chyfleoedd parhaus i ddysgu ac adrodd yn rheolaidd. Byddwn yn parhau i atgyfnerthu’r gwaith hwn trwy achrediadau a gydnabyddir. Mae hyn yn cynnwys gweithio tuag at y Wobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (QED) gyda Tai Pawb a safonau fel Tai Stonewall.
Balchder yn y Porthladd
Roeddem ni’n falch o fod yn brif noddwr Balchder yn y Porthladd 2025, gan ddathlu lles, addysg a diwylliant LHDTC+ ledled Casnewydd a thu hwnt. Creodd y digwyddiad fannau diogel, cynhwysol lle gallai cymunedau ddod at ei gilydd a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Aeth cydweithwyr ati i gynrychioli Hedyn yn y Gyfnewidfa Ŷd ac ymuno â’r orymdaith yng nghanol y ddinas, gan ddangos ein cefnogaeth ar ddiwrnod cofiadwy. Edrychwn ymlaen at ddatblygu hyn wrth i Gasnewydd baratoi i gynnal digwyddiad Balchder y DU.
Capasiti
Rydyn ni’n gwybod bod ein ffordd o weithio yr un mor bwysig â’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni. Mae gwella effeithlonrwydd a defnyddio’n dealltwriaeth yn well, yn ein helpu i greu’r capasiti sydd ei angen i gyflawni mwy.
Meithrin gallu
Fe wnaethom gryfhau ein ffocws ar effeithlonrwydd, data a chynllunio. Fe wnaethom ddatblygu ein hagwedd tuag at werth am arian i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio adnoddau yn y modd sy’n sicrhau’r budd mwyaf. Fe wnaethom hefyd sicrhau bod gwelliant parhaus wrth wraidd ein gwaith i’n helpu i ddarparu gwasanaethau yn fwy cyson.
Integreiddio fel un sefydliad
Ein ffocws eleni oedd sefydlu’r sylfeini cywir ar gyfer sefydliad newydd Hedyn, ynghyd â gosod strategaethau clir a chynlluniau ariannol i gefnogi’r hyn yr ydym am ei gyflawni. Rydym yn gwybod ein bod yn dal i weithio mewn ffyrdd a luniwyd gan ein sefydliadau blaenorol, ac mae hynny’n rhan naturiol o ddod â phopeth at ei gilydd. Dyna pam rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y gwaith o integreiddio ein gwasanaethau, ein timau a’n systemau digidol, fel y gallwn gynnig profiad mwy cydgysylltiedig a chyson i’n preswylwyr.
| Ail-fuddsoddi % | Prif gost fesul uned | Gorswm gweithredu (SH lettings) |
|---|---|---|
10.1% | £7,027 | 15.0% |
Arwain y ffordd
Rydym yn defnyddio technoleg ddigidol, dadansoddi data ac arloesi i wella gwasanaethau ac effeithlonrwydd. Mae ein Strategaeth Dechnoleg yn nodi sut mae technoleg yn cefnogi gwasanaethau gwell, cydweithwyr mwy grymus a chymunedau cryfach. Mae defnyddio data i lywio’n dulliau yn ein helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen yn well, ac ymateb yn fwy effeithiol.
Systemau diogel
Wrth i ni archwilio technoleg newydd, mae’n hanfodol i ni gadw ein systemau a’n data yn ddiogel. Fe wnaethom gryfhau ein seiberddiogelwch ar draws y sefydliad, gan gynnwys ein hachrediad Cyber Essentials Plus. Mae hyn yn rhoi sylfaen gref i ni fabwysiadu offer newydd gyda hyder a chynnal hyder ein preswylwyr ynom.
Sicrhau’r effaith fwyaf
Rydym yn meithrin ein gallu i ddarparu mwy i breswylwyr, cymunedau a chydweithwyr. Ein ffocws yw targedu adnoddau lle maen nhw’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf a gwella’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn technoleg a ffyrdd newydd o weithio i wella effeithlonrwydd a phrofiad preswylwyr.
Darparu gwerth trwy gaffael
Fe wnaethom ddatblygu dull newydd o gaffael, gan sicrhau bod pob punt rydyn ni’n ei wario yn rhoi gwerth am arian. Mae hyn yn rhoi ffordd o weithio i ni sy’n glir, yn gyson ac yn dryloyw ochr yn ochr ag arfer gorau. Rydym yn caffael mewn modd strategol i greu manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, yn ogystal â darparu gwerth am arian.
Mae cyfathrebu yn bwysig
Mae ein Strategaeth Cyfathrebu a Marchnata yn egluro sefyllfa Hedyn fel sefydliad dibynadwy, uchelgeisiol sy’n cael ei redeg yn dda. Mae’n helpu pobl i ddeall ein gwaith, ymddiried ynddo ac ymgysylltu ag ef, a’r gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud. Trwy dargedu cyfathrebu mewn modd clir a chynhwysol, rydym yn cysylltu, yn ymgysylltu ac yn cefnogi ein nodau ehangach.
Lawr lwytho’r adroddiad llawn
I ddarllen ein hadroddiad blynyddol yn llawn, gan gynnwys ein datganiadau ariannol, lawr lwythwch ein hadroddiad blynyddol (PDF 4.2MB – ar gael yn Saesneg yn unig).
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer y rheini sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.