Cyflwyniad
Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yma i gysylltu â’r bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Rydym yn defnyddio ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i rannu newyddion, dathlu cyflawniadau, rhannu diweddariadau am ein gwasanaethau, ateb cwestiynau, a gwrando ar adborth gennych chi a phartneriaid eraill.
Yn bwysicaf oll, rydyn ni eisiau i’n sianeli fod yn fannau croesawgar, addysgiadol a defnyddiol lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus i ymgysylltu â ni a’i gilydd.
Rydym wrth ein bodd i glywed gennych ac rydyn ni’n annog sgyrsiau agored, parchus. P’un a ydych chi’n gofyn cwestiwn, rhannu eich profiad, tynnu sylw at lwyddiant cymunedol, neu’n rhoi adborth, mae eich llais yn bwysig.
Weithiau efallai y bydd yn rhaid i ni reoli materion ac iaith sy’n amhriodol neu’n annymunol.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u llunio i helpu i gadw ein cymuned ar-lein yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn adeiladol.
Sut rydyn ni'n defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i:
- Rhannu newyddion, y diweddaraf am y gwasanaeth a chyhoeddiadau pwysig
- Dathlu prosiectau, digwyddiadau a chyflawniadau cymunedol
- Ateb ymholiadau cyffredinol a chyfeirio cwsmeriaid at y timau cywir
- Casglu adborth i helpu i wella ein gwasanaethau
- Ymgysylltu â chwsmeriaid, cymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid
Er ein bod yn anelu i fod yn ymatebol, nid sylwadau cyhoeddus ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yw’r ffordd gywir i riportio materion brys neu ofyn am wasanaethau.
O ran atgyweiriadau, rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cwynion, materion tenantiaeth, pryderon diogelu, neu unrhyw argyfyngau, cysylltwch â ni drwy ein sianeli gwasanaeth cwsmeriaid swyddogol.
Ein hymrwymiad i chi
Pan fyddwch chi’n ymgysylltu â Hedyn ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch ddisgwyl i ni:
- Fod yn barchus ac yn broffesiynol
- Gwrando ac ymateb
- Bod yn onest ac yn dryloyw
- Diogelu eich preifatrwydd
- Darparu gwybodaeth gywir lle bynnag y bo’n bosibl a chywiro camgymeriadau os ydynt yn digwydd
- Ni fyddwn byth yn gofyn i chi rannu gwybodaeth bersonol sensitif yn gyhoeddus ac efallai y byddwn yn gofyn i chi symud i negeseuon preifat neu sianel gyfathrebu arall os yw eich ymholiad yn ymwneud â’ch contract gyda Hedyn neu’n sôn am amgylchiadau personol.
Yr hyn rydyn ni'n gofyn amdano gennych chi
Rydym yn croesawu sylwadau ac adborth, ond gofynnwn i bawb sy’n ymgysylltu â’n sianeli i:
- Fod yn garedig ac yn barchus
- Trin eraill sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gwrtais, yn cynnwys cydweithwyr Hedyn, contractwyr a phartneriaid.
- Sicrhau bod unrhyw sylwadau yn gysylltiedig â’r pwnc sy’n cael ei drafod lle bo hynny’n bosibl.
Diogelu gwybodaeth bersonol
Peidiwch â phostio:
- Cyfeiriadau
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriadau e-bost
- Rhifau cyfeirnod tenantiaeth
- Gwybodaeth ariannol
- Gwybodaeth am berson arall heb ei ganiatâd
Cynnwys y gallwn ei ddileu
Rydyn ni am i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol adlewyrchu gwerthoedd y cymunedau yr ydyn ni’n eu gwasanaethu – croesawgar, parchus a chynhwysol.
Er mwyn cadw ein sianeli yn ddiogel ac yn groesawgar, rydym yn cadw’r hawl i guddio, dileu neu riportio cynnwys sy’n cynnwys:
- Iaith ymosodol neu anweddus: Mae hyn yn cynnwys rhegi at unigolion, ymddygiad bygythiol neu fychanu.
- Iaith casineb neu wahaniaethu: Cynnwys sy’n targedu unigolion neu grwpiau ar sail hil, ethnigrwydd, cenedligrwydd, crefydd, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, oedran neu unrhyw nodwedd warchodedig arall.
- Aflonyddu neu fwlio: Gan gynnwys cyswllt diangen dro ar ôl tro, ymosodiadau personol neu ymdrechion i fychanu eraill.
- Camwybodaeth: : Rhannu gwybodaeth ffug, gamarweiniol neu anghywir a allai achosi niwed neu ddryswch, a hynny’n fwriadol.
- Gwybodaeth bersonol: Negeseuon sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol amdanoch chi’ch hun, unigolyn arall, neu aelod o staff Hedyn.
- Cynnwys anghyfreithlon neu niweidiol: Yn cynnwys deunydd sy’n hyrwyddo gweithgarwch troseddol, trais, casineb, twyll neu bryderon diogelu.
- Sbam a hysbysebu: Yn cynnwys postio dro ar ôl tro, deunydd hyrwyddo, hysbysebu masnachol, sgamiau neu ddolenni amherthnasol.
- Deunydd ymosodol neu amhriodol: Yn cynnwys deunydd anweddus, rhywiol di-gêl, graffig neu fel arall yn anaddas.
- Dynwared: Esgus bod yn unigolyn, sefydliad neu gydweithiwr arall.
Cam-drin ein cydweithwyr – ein dull gweithredu
Mae ein cydweithwyr yn haeddu teimlo’n ddiogel, a chael eu trin â pharch ar-lein ac oddi-ar lein.
Nid ydym yn goddef camdriniaeth, aflonyddu, bygythiadau, gwahaniaethu na fychanu sydd wedi ei gyfeirio at ein cydweithwyr, partneriaid, neu randdeiliaid.
Lle bo angen, gallwn:
- ddileu sylwadau
- cyfyngu ar unrhyw ymgysylltiad
- blocio cyfrifon
- cadw sgrin luniau a chofnodion fel tystiolaeth
- rhoi gwybod am ddigwyddiadau i’r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu
Gallai ailadrodd neu dorri’r amodau hyn yn ddifrifol, arwain at waharddiad parhaol o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Sylwer:
- Nid yw sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro 24 awr y dydd.
- Yr amseroedd ymateb yw dydd Llun i ddydd Gwener 8am-5pm
- Dylid bob amser rhoi gwybod am faterion brys ar ein prif sianeli cyswllt yn hytrach na ar y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych argyfwng, fel colli’ch cyflenwad dŵr yn gyfan gwbl, ffoniwch 0300 1212 345.
Os oes angen cymorth ar frys arnoch, cysylltwch â’r gwasanaeth brys priodol neu defnyddiwch y sianeli gwasanaeth cwsmeriaid priodol sydd gan Hedyn.